´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gemau'r Gymanwlad

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Diweddarwyd: 13 Hydref 2010
Newyddion o'r Gemau yn gryno

Dydd Mercher, 13 Hydref 2010

  • Gorffennodd Francesca Jones yn bedwerydd yng nghystadleuaeth y gymnasteg rythmig y tu ôl i Naazmi Johnston o Awstralia, Chrystalleni Trikomiti o Cyprus ac Elaine Koon o Malaysia. Jones fydd y cystadleuydd olaf i gynrychioli Cymru yng ngemau Delhi ar y diwrnod olaf ddydd Iau ac yn cymryd rhan yn y cystadlaethau unigol.

Dydd Mawrth, 12 Hydref 2010

  • Yn y ras olaf ar y trac athletau fe orffennodd tîm 4x400m dynion Cymru (Rhys Williams, Joe Thomas, Chris Gowell a Gareth Warburton) yn chweched gydag Awstralia yn hawlio'r fedal aur. Yn y naid polyn i ferched gorffennodd Sally Peake yn nawfed gyda Bryony Raine yn ddeuddegfed. Yn 1500m roedd James Thie yn nawfed mewn amser o 3:44.25 gyda Lee Doran yn gorffen yn bumed yn y waywffon.

Dydd Llun, 11 Hydref 2010

  • Yn y bowls fe gipiodd Anwen Butten ac Hannah Smith efydd wedi buddugoliaeth yng nghystadeluath y parau yn erbyn Awstralia. Yn gynhrach roeddynt wedi colli o 2-0 yn erbyn Malaysia.
  • Yn yr athletau, mae enillydd ras y 100m i ferched, Damola Osayemi o Nigeria wedi methu prawf cyffuriau. Yr oedd Osayemi wedi sicrhau arian o dan amgylchiadau dadleuol ar ôl i'r enillydd gwreiddiol, Sally Pearson o Awstralia, gael ei diarddel. Yng nghystadleuaeth y ddisgen fe orffennodd Phiippa Roles yn bedwerydd ac roedd Elaine O'Neill yn y wythfed yn 200m ar ôl iddi gael ei chynnwys yn y rownd derfynol wedi i Eleni Artymata o Cyprus gael ei diarddel yn dilyn rownd gynderfynol. Roedd Paul Walker yn bumed yng nghystadleuaeth y naid polyn ac mae James Thie drwodd i rownd derfynol y 1500m.
  • Mae'r Cymro Sean McGoldrick wedi sicrhau ei le yn rownd derfynol y pwysau bantam a gornest yn erbyn Manju Wanniarachchi o Sri Lanka wedi buddugoliaeth yn erbyn Louis Julie. Ond collodd Jermaine Asare yn erbyn Callum Johnson yn rownd derfynol y pwysau is-drwm gyda Eamonn O'Kane yn trechu Cymro arall, Keiran Harding, yn rownd gynderfynol y pwysau canol.
  • Ar ddiwrnod agoriadol cystadleuaeth y rygbi saith pob ochr roedd Cymru yn fuddugol yn erbyn India (56-7) a Tonga (38-7). Yn ddiweddarach collodd tîm Paul john o 5-21 yn erbyn De Affrica er iddynt fod ar y blaen 5-0 wedi munud yn unig diolch i gais Ritchie Pugh. Mae'r canlyniad yn golygu y gorffennodd Cymru yn ail yn y grŵp gan sicrhau gornest yn erbyn Seland Newydd yn yr wyth olaf.
  • Mae tîm tennis bwrdd Cymru allan o gystadleuaeth dyblau'r dynion gyda'r brodyr Ryan a Stephen Jenkins yn colli yn erbyn y ffefrynnau Singapore.

Dydd Sul, 10 Hydref 2010

  • Yn y ras lôn i ferched fe orffennodd Nicole Cooke, enillodd aur yn Manceinion yn 2002, yn bumed. Yn ras y dynion fe orffennodd Luke Rowe yn nawfed gyda Allan Davis o Awstralia yn cipio'r aur.
  • Mae Sean McGoldrick, Jermaine Asare a Keiran Harding yn sicr o fedalau efydd o leiaf yn y bocsio ar ôl iddynt sicrhau eu lle yn y rowndiau gyn derfynol.
  • Doedd dim medal i Gareth Warburton yn yr 800m wrth iddo orffen yn bedwerydd y tu ôl i'r triawd o Kenya. Wythfed oedd y Cymro arall, Joe Thomas. Roedd Brett Morse ymysg y ffefrynnau i gipio medal yn y ddisgen ond fe orffennodd yn chweched.

Dydd Sadwrn, 09 Hydref 2010

  • Mae Dai Greene a Rhys Williams drwodd i rownd derfynol y ras 400m dros y clwydi, ac mae Christian Malcolm a Elaine O'Neill drwodd i rownd derfynol y 200m. Mae Brett Morse hefyd yn y ras am fedal yn y ddisgyn.
  • Gorffennodd David Davies yn bumed yn y 1500m dull rhydd, a pumed hefyd oedd Jemma Lowe yn y 200m dull pili-pala. Pedwerydd oedd tîm Cymru yn y ras gyfnewid gymysg 4x100m, a chweched oedd Robert Holderness yn y 200m dull broga.
  • Yn y badminton, enillodd Martyn Lewis yn y senglau, ac roedd llwyddiant hefyd i Caroline Harvey a James Phillips yn y dyblau cymysg.
  • Mae'r bocsiwr Sean McGolderick yn y rownd go-gynderfynol yn y categori 56kg, ond mae Andrew Selby (52kg) allan.
  • Gorffennodd Jennifer & Sian Corish yn bedwerydd yn y saethu 10m pistol awyr
  • Enillodd Naomi Owen a Charlotte Carey yn y tennis bwrdd, ond colli oedd hanes yr efeilliaid Angharad Phillips a Megan Phillips. Mae tîm y dynion drowdd i'r rownd sefyll ar ôl ennill pob gêm.

Dydd Gwener, 08 Hydref 2010

  • Mae Brian Alldis drwodd i rownd derfynol y ras cadair olwyn 1500m T54, fydd yn cael ei chynnal ddydd Sul. Yn y decathlon fe orffennodd Ben Gregory yn bumed ar ôl ennill yn y naid polyn. Roedd Matt Richards yn ddeuddegfed yn rownd derfynol taflu'r morthwyl. Ac mae Chris Gowell, Gareth Warburton a Joe Thomas drwodd i rownd derfynol y 800m.
  • Roedd yr efeilliaid Angharad a Megan Phillips yn ogystal â Naomi Owen a Charlotte Carey yn fuddugol yn eu gemau yn y tennis bwrdd gan sicrhau eu lle yn y rownd nesaf. Collodd tîm y dynion yn erbyn Awstralia gan orffen y gystadleuaeth yn wythfed.
  • Yn yr hoci fe gollodd tîm merched Cymru am y trydydd tro wrth i Ganada sicrhau buddugoliaeth o 2-1.

Dydd Iau, 07 Hydref 2010

  • Gorffennodd Tom Haffield yn bedwerydd yn rownd derfynol yn y ras gymysg unigol dros 400m ac fe ddywedodd wedi'r ras y bu'n dioddefodd o'r salwch sydd wedi effeithio nifer fawr o'r cystadleuwyr yn y pwll nofio. Mae Georgia Davies wedi sicrhau eu lle yn rownd derfynol y 50m dull cefn ond roedd ymgais Jenny Oldham yn aflwyddiannus. Mae Georgia Holderness drwodd i rownd derfynol y 50m dull rhydd ac mae ei brawd Robert wedi sicrhau ei le yn rownd derfynol y 50m dull brogan. Ac mae Marco Loughran hefyd drwodd i rownd derfynol y 100m dull cefn.
  • Yn yr athletau mae Ben Gregory yn ddeuddegfed yn y decathlon wedi pump o'r cystadlaethau ac fe fethodd Elaine O'Neill sicrhau lle yn rownd derfynol y 100m ar ol gorffen yn bedwerydd.
  • Jermaine Asare ac Andrew Selby yn fuddugol yn y bocsio ond roedd siom i Non Evans yn y reslo wrth iddi golli yn erbyn y ffefryn o'r India yn y categori 55kg dull rhydd.
  • Ac mae Josh Milton allan o gystadleuaeth senglau'r dynion y tennis wedi iddo golli yn erbyn Peter Luczak o Awstralia yn rownd yr wyth olaf.

Dydd Mercher, 06 Hydref 2010

  • Yn erbyn yr ail ddetholion fe gollodd tîm badminton Cymru o 5-0 yn erbyn India cyn trechu Barbados 5-0 yn eu gêm olaf o'r grŵp.
  • Yng nghystadleuaeth parau'r bowls roedd Anwen Butten a Hannah Smith yn fuddugol yn erbyn Guernsey a Brunei ac yn nhriawd y dynion roedd buddugoliaethau i Marc Wyatt, Chris Blake a Michael Fleming yn erbyn Namibia a Malta.
  • Roedd Josh Milton yn fuddugol 6-4, 6-2 yn erbyn Ross Hutchins o Loegr yn ail rownd senglau'r dynion yn y tennis ond mae Milton a Chris Lewis allan o gystadleuaeth y dyblau ar ol colli yn erbyn gwrthwynebwyr o Awstralia.

Dydd Mawrth, 05 Hydref 2010

  • Collodd tîm hoci merched Cymru eu hail gêm yn olynol yn Delhi wrth i Crista Cullen sgorio hat-tric ym muddugoliaeth Lloegr o 4-1.
  • Yn y badminton roedd Cymru yn fuddugol o 5-0 yn erbyn Kenya yng ng♪6m agoriadol cystadleuaeth y tîm.
  • Colli oedd hanes timau Cymru yn y tennis bwrdd gyda'r dynion yn colli o 3-0 yn erbyn Lloegr a'r merched yn colli o'r un sgôr yn erbyn Malaysia.
  • Collodd Chris Lewis yn nghystadleuaeth senglau'r dynion yn y tennis gyda Colin Fleming o'r Alban yn ei drechu o ddwy set i un. Ond roedd Lewis a Milton yn fuddugol yn erbyn Mullings & Rolle o'r Bahamas yn nghystadleuaeth y dyblau i ddynion.
  • Gorffennodd Gareth Evans yn nawfed yn nghategori'r 62kg yn y codi pwysau.

Dydd Llun, 04 Hydref 2010

  • Nigeria hawliodd medal aur cyntaf y Gemau gyda Augustina Nkem Nwaokolo yn fuddugol yn y categori 48kg i ferched yn y codi pwysau gydag India yn hawlio arian ac efydd.
  • Yn eu gêm agoriadol fe gollodd tim merched hoci Cymru o 5-1 yn erbyn Seland Newydd yng Ngrŵp B. Abi Welsford sgoriodd unig gôl Cymru.
  • Yn y tennis mae Josh Milton drwodd i'r ail rownd wedi buddugoliaeth 6-0, 6-2 yn erbyn Francis Mwangi o Kenya yn y rownd gyntaf.

chwaraeon
Hanes y Gemau
Ìý
Medalau Cymru
Ìý


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý