大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Archif Crefydd

Safle Newydd



大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llusern
Pregethwr yn ei bulpud Camp pregethwyr
'Siarad yn iaith yr oes yw'r gamp'
"Siarad yn iaith cyfnod y bobl" ydi cyfrinach pregethu da yn 么l arbenigwr ar y pwnc.

"Pwrpas iaith yn ei hanfod ydi mynegi teimladau pobl, eu dyheadau nhw ond mae yna ystyr arall i siarad yn iaith y bobl - cyffwrdd a'u cyfarwydd nhw ac a'u cynefin nhw a'u bob dydd nhw," meddai Gerallt Lloyd Evans, Llangristiolus a draddododd Ddarlith Goffa John Williams Brynsiencyn Hydref 2008.


"Ac ni fyddai'r hen bregethwyr clasurol yng Nghymru byth yn brin o fedru gwneud hynny," meddai wrth John Roberts ar y rhaglen radio Bwrw Golwg ddydd Sul Tachwedd 2, 2008.

Camp cyfathrebu
Dywedodd mai hanfod pregethu yw cyfathrebu ac mai ystyr wreiddiol y gair hwnnw yw "creu perthynas agos, agos".

"Dwad a phethau yn un 芒'i gilydd - dyna ydi hanfod ystyr y gair cyfathrebu a dyna ydi gwaith y pregethwr hefyd; dod a'r gynulleidfa a'r pregethwr yn un mewn rhywbeth sy'n fwy na'r cyfan i gyd.

"Yn fwy na'r pregethwr, yn fwy na'r gynulleidfa. Dod a nhw'n un drwy'r cyfathrebu."

'Digwyddiad' mawr
Dywedodd hefyd fod pregeth yn ddigwyddiad neu yn 'event'.

"Mae nifer o ysgolheigion wedi bod yn trafod y gair hwnnw [event]. Mae'n anodd ei gyfieithu i'r Gymraeg - digwyddiad o bosib ond dydi hwnnw ddim yn cyfleu ystyr event yn llawn; y peth anesboniadwy yma sy'n digwydd mewn gwir gyfathrebu."

Parhau'n berthnasol
Ychwanegodd bod pregethu yn rhywbeth sy'n gwbl berthnasol hyd yn oed heddiw:

"Mae o'n rhan o'r comisiwn mawr. Mae'n wir ein bod yn byw yn oes y soundbites, yn oes y dweud bachog ac eto mae pregethu'n berthnasol oherwydd bod yr angen yn fawr .

"Fedr y cyfryngau modern fyth 芒 chyfarfod anghenion dyfnaf pobl. Mae'r [anghenion] rheini yn aros o hyd; ofn, unigrwydd, profedigaethau, siom, gofid a llawenydd a gorfoledd.

"Mae'r anghenion mawr yna ac fe ddylai pregethu fod yn ymgais i gyfarfod 芒'r anghenion yna yn llawn," meddai.

Gwerthoedd amgen
"Mi ddylai pregethu gynnig gwerthoedd amgen.

"Heddiw, a siarad yn gyffredinol, gwerthoedd y geiniog sy'n mynd 芒 hi bob gafael, Rydym ni'n byw mewn diwylliant sydd i ni yn gwbl ddieithr ac yn wir yn llawn ofn [ond] mae pregethu yn cynnig gwerthoedd amgen sydd yn rhaid i bobl wrthyn nhw yn y diwedd," meddai.

  • Yr oedd John Williams Brynsiencyn yn un o bregethwyr enwocaf Cymru ddechrau'r ugeinfed ganrif.


  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy