´óÏó´«Ã½


Explore the ´óÏó´«Ã½

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
´óÏó´«Ã½ Cymru'r Byd


A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



´óÏó´«Ã½ Homepage

Cymru'r Byd
» Straeon
Wythnos o Feddwl
Meddygol
Llythyrau
Miss Jones

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sant John Roberts Ar drywydd sant

Sut y daeth cynghorydd o hyd i sant yr anghofiodd y Cymry amdano

25 Hydref 2001
Ar drywydd Sant: sut y daeth Keith O’Brian o hyd i’r Sant John Roberts - arwr a gafodd ei anghofio

Keith O'BrianY gwr sy’n bennaf gyfrifol am ddod o hyd i’r Sant John Roberts a’i hanes rhyfeddol ydi Keith O’Brian, cadeirydd Is-bwyllgor Gwelliannau’r Gymuned a sefydlwyd gan Gyngor Cymuned Trrawsfynydd i wella a hyrwyddo’r pentref.

Mae hefyd yn gadeirydd Traws-newid, cwmni a sefydlwyd yn 1996 i ddatblygu’r pentref.

Cafodd Keith O’Brian ei eni a’i fagu yn y Traws ac ar hyn o bryd mae’n gweithio gyda Chyngor Sir Gwynedd yn Nolgellau fel Swyddog Adnewyddu Tai.

Dywedodd iddo ddod o hyd i John Roberts yn sgîl y syniad o adeiladu Canolfan Dreftadaeth yn Nhrawsfynydd.

"Roedd yr arddangosfa yn y ganolfan yn mynd i fod yn seiliedig ar Hedd Wyn. Ond y tu hwnt i Gymru dydi Hedd Wyn ddim yn golygu llawer i bobol. Fe fuasai hi’n anodd cynnal yr arddangosfa drwy ddefnyddio hanes Hedd Wyn yn unig.

"Mae’r arddangosfa hefyd yn mynd i gynnwys hanes y Rhufeiniaid yn yr ardal a’r ddau gastell Normanaidd cyfagos. Ond dydi hyn ynddo’i hun ddim yn ddigon chwaith.

"Roedd angen rhywbeth arall i roi gwerth i’r arddangosfa. Roedd rhaid chwilio am ryw hanesyn arall, rhywbeth unigryw i’r pentra’. Felly fe es i ati i chwilio ar y we am rywbeth arall."

Darganfod sant

Ychydig a feddyliodd pan ddechreuodd chwilio fis Chwefror 2001 y byddai’n darganfod sant nad oedd fawr neb wedi clywed amdano o’r blaen. Daeth o hyd i enw’r Sant John Roberts ar wefan y Catholic Encyclopaedia.

Cysylltodd â’r cynghorydd lleol, Isgoed Williams, yr oedd ganddo ef wybodaeth am y ‘merthyr John Roberts’ a phamffled amdano yn cyfeirio at nifer o bethau cyffrous fel ysbïwyr, y pla du, powdwr gwn a dienyddiad.

"Roeddwn i’n awyddus iawn i wybod mwy," meddai Keith
Er na chafodd fawr ddim gwybodaeth o archifdy rhanbarth Meirionnydd cafodd ddigon o gliwiau lle y dylid chwilio nesaf ac o ganfod i John Roberts fynychu Ysgol Downside ger Caerfaddon cysylltodd â’r fan honno.

Anfonodd yr Abad lyfryn gan T.P.Ellis, barnwr a ddaeth i fyw i Ddolgellau wedi iddo ymddeol iddo. Dywedodd hefyd fod mwy o wybodaeth yn Downside ei hun.

Pwysig i'r Catholigion

"Wedi inni gyrraedd fe welsom ni fod parch mawr at John Roberts yma. Roedd hi’n amlwg felly ei fod yn ffigwr pwysig ymhlith y Catholigion. Mi gawsom ni dipyn o sioc gweld mai Roberts oedd enw un o bedwar ty yr ysgol."

Abad Downside"Roedd hi’n werth teithio’r holl ffordd i Downside gan imi gael y cyfle i weld llyfr swmpus ar John Roberts wedi ei ysgrifennu gan Bede Camm, mynach oedd wedi bod yn astudio yma."

Syndod pellach oedd darganfod mai Cymro oedd y llyfrgellydd yma, y Tad Daniel Rees. " Ef ddywedodd fod cerflun o’r Sant John Roberts wedi’i osod mewn eglwys ym Mhortiwgal yn ystod y ddwy flynedd flaenorol. Doedd gan John Roberts ddim cysylltiad â Phortiwgal felly mae hyn yn dangos y parch mawr iddo ar gyfandir Ewrop.

Cysylltiad rhyfedd
"A’r hyn sy’n rhyfeddach fyth, tra’n chwilota yn llyfr Bede Camm fe ddes i o hyd i lythyr diddorol. Y dyddiad arno oedd Hydref 4 1924 ac roedd wedi ei anfon i’r Temparence Hotel, Trawsfynydd, gan Bede Camm.

Roedd o wedi anfon mynach i Drawsfynydd i dynnu llun o’r eglwys lle cafodd John Roberts ei fedyddio.

Mae’n rhaid bod y mynach yn aros yn y gwesty yma. Dydi’r gwesty ddim yn bod heddiw ond dyma lle mae’r ganolfan dreftadaeth, yr union fan lle rydym yn bwriadu gosod colofn o John Roberts!"

Darganfyddodd Keith O’Brian gofnodion Ffrengig hefyd gan fynaich a fu’n yn dystion i’w ddienyddiad. Prawf pellach, meddai, fod tyrfa enfawr wedi gwylio’r dienyddiad.

Disgwyl ymateb

Mae Keith O’Brian wedi cysylltu â’r eglwys ym Mhortiwgal ac mae’n disgwyl ymateb ganddynt ar hyn o bryd.

Mae’n gobeithio y bydd llwybr pererindod Llyn yn cael ei ehangu i gynnwys Meirionnydd ac y bydd economi Trawsfynydd yn elwa’n sylweddol ar hynny.

Sant John RobertsMae gan Keith O’Brian awgrym pam na fu John Roberts yn fwy adnabyddus ymhlith y Cymry.

"Efallai mai amseriad bywgraffiad Bede Camm sy’n gyfrifol am y ffaith nad oes neb yn gwybod fawr ddim am John Roberts. Pan ymddangosodd roedd meddwl pobol ar bethau eraill .

Rhaid cofio hefyd mai Pabydd oedd o a bod rhagfarn yn eu herbyn yn y cyfnod. Allwn i ddim credu fod yna berson oedd yn enwog drwy’r byd yn dod o Drawsfynydd a ninnau’n gwybod dim amdano.

"Dwi wedi mwynhau’r holl ymchwilio, mae wedi bod yn ddiddorol iawn. Roedd popeth mor annisgwyl ac mae’n stori mor ffantastig a’r hyn sy’n anhygoel yw’r holl gysylltiadau wedi iddo farw fel y bys ym Mlaenau Ffestiniog."

 
Wythnosau Blaenorol:


Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Cyfoes
Atgofion am gyfnod sydd wedi darfod yng nghefn gwlad Cymru

John RobertsAr drywydd John Roberts
Dyn sy'n dipyn o sant



Cofio Gwenynen Gwent
Cymdeithas Arglwyddes Llanofer

Wythnos o Feddwl
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le.
Wythnos o Feddwl



About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy