Detholiad o luniau wedi eu darparu gan Keith O'Brian
Credir mai yn y lleoliad hwn yr oedd Tyddyn Gwladys. Sonnir i'r Sant
John Roberts fyw naill ai yma neu yn Gelli Goch.
Dyma lun o ddrws y dafarn yng nghanolfan sgio Rhiw Goch heddiw.
Yn Rhiw Goch y ganwyd y Sant John Roberts ym 1577.
Roedd ei gefnder Robert Lloyd, Aelod Seneddol cyntaf Meirionnydd
yn byw yma wedyn.
Mae arfbais y Llwydiaid i'w weld uwchben y drws.
Mae cerflun o'r Sant John Roberts ar flaen adeilad Ysgol Downside
ger Caerfaddon, prif ganolfan Benedictaidd Prydain. Cerflun y Sant
John Roberts sydd ar y dde yn y llun.
Dyma lun manylach o'r cerflun hwnnw.
Llun arall o Ysgol Downside.
Mae arfbais teulu'r Sant John Roberts i'w weld yn un o dai'r ysgol
yn Downside. Gwelir yma gyfenw'r teulu, 'Roberts', o dan yr arfbais.
Arfbais y teulu unwaith eto.
Yn wreiddiol roedd y llun hwn o'r Sant John Roberts i'w weld yn
Eglwys Gatholig Corwen, ond fe'i symudwyd wedyn i Gorwen a dyna
lle mae heddiw.
Yr artist yw Jeanette Kamerman, Tachwedd 1985.
Mae'r cerflun hwn o'r Sant John Roberts i'w weld yn y ty 'Roberts'
yn Ysgol Downside.
Yma mae'r sant yn gwisgo'i urddwisg yn union fel yr oedd pan daliwyd
ef cyn iddo gael ei ddedfrydu o uchel frad a'i ddienyddio.
John Roberts yn ymweld â phobl oedd yn dioddef o'r pla Du.
Mae'r llun yn dangos yr olygfa o Leiandy Tyburn.
Daeth John Roberts yn boblogaidd iawn oherwydd ei garedigrwydd yn
helpu pobl a ddioddefai o'r clefyd arswydus hwn.
Llungopi o broffesiwn John Roberts. Mae'r un wreididol yn cael ei
chadw yn Santiago de Compostella.