大象传媒


Explore the 大象传媒

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
大象传媒 Cymru'r Byd


A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Straeon
Wythnos o Feddwl
Meddygol
Llythyrau
Miss Jones

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sant John Roberts Llythyr:


'Mwy o gyts na sens' gan Sant?

7 Tachwedd 2001
• Llythyr oddi wrth Aled Edwards

Annwyl Gyfeillion,

Dim ond gair bach i ddiolch i Gymru'r Byd am roi sylw teilwng i ymdrechion trigolion Trawsfynydd i gofio un o hogia' amlycaf y pentref.

Fel un a gafodd ei fagu yn yr ardal, gallaf ond rhyfeddu i ni fod mor amharod i roi'r lle priodol i Sant John Roberts ym mywyd y fro a'r genedl. Efallai i gymeriad ymneilltuol yn yr ardal gadw鈥檙 hanesion dan ryw fath o orchudd.

A ninnau'n byw bellach mewn byd sy'n fwy parod i ddwyn Cristnogion at ei gilydd, gellir ond gobeithio y bydd Cymru gyfan yn cynorthwyo bobl Traws yn eu hymdrechion i godi cofeb deilwng i un o gewri mwyaf yr ardal.

Bydd y traddodiad Catholig yn parchu John Roberts fel rhyw fath o ail Awstin. Ef oedd y sant a ddaeth yn 么l i Brydain wedi'r diwygiad Protestannaidd i adfer y ffydd Gatholig yn y tir.

Gobeithiaf yn fawr erbyn hyn, y gall holl Gristnogion Cymru hawlio tystiolaeth gadarn a diffuant John Roberts a'i debyg. Mae ei hanes yn perthyn nid yn unig i un gymuned ffydd, ond i genedl gyfan.

Wedi dweud hyn i gyd, fel un o hogia' Traws, rhaid cyfaddef bod stori John Roberts yn peri syndod. Cafodd ei garcharu sawl tro a'i rybuddio'n aml cyn ei ddienyddiad erchyll. Maddeuwch y dweud lleol anffodus, ond o ystyried dull ei farw, bum yn meddwl yn aml iawn bod gan y boi llawer mwy o gyts na sens.

Yr eiddoch,
Aled Edwards
Caerdydd.


• Beth yw eich barn chi? Ebostiwch i ddweud.


Wythnosau Blaenorol:

Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Cyfoes
Atgofion am gyfnod sydd wedi darfod yng nghefn gwlad Cymru

John RobertsAr drywydd John Roberts
Dyn sy'n dipyn o sant



Cofio Gwenynen Gwent
Cymdeithas Arglwyddes Llanofer

Wythnos o Feddwl
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le.
Wythnos o Feddwl



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy