|
|
Steddfod
y Bae
Carwn
innau
ddweud diolch! |
Sylwadau wythnosol Aled Edwards
Mehefin 4, 2005
Eisteddfod Dda
Cefais fwynhad mawr yr wythnos hon yn crwydro o stondin i stondin
ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
Peth braf oedd cael gweld ambell wyneb cyfarwydd o sawl man yng Nghymru
yn teithio i Fae Caerdydd.
Ceir lle i longyfarch pawb a fu'n gweithio mor galed i sicrhau llwyddiant
yr Eisteddfod arbennig hon.
Carwn innau ddweud diolch.
Cadernid y Gymraeg
Yn fwy na dim, daeth y llif pobl a llawer mwy o Gymraeg i'r brifddinas.
Rhyddhad hefyd oedd cael gweld y Gymraeg yn meddiannu Canolfan y Mileniwm
o'r diwedd. Nid wyf am swnio'n feirniadol, ond prin fu'r cerdd dant
yng nghanolfan diwylliannol y Cymry hyd yma.
Tybed, beth oedd y grymoedd diwylliannol yn ei feddwl wrth weld y
theatr yn llawn trwy'r dydd dros gyfnod o wythnos gyfan ac yn dwyn
talent yn gyson i'r llwyfan?
Yn hyn o beth, y mae'n rhaid llongyfarch yr Urdd yn gynnes. Dangoswyd
cadernid y Gymraeg i sawl un.
Cymry'r cwyno
Ers yn blentyn, bum dan yr argraff bod eisteddfota a chwyno yn gyfystyr.
O gael fy llusgo o le i le ar gyfer sawl 'prilim' i wrando ar fy chwaer
yn canu ac yn adrodd cefais y cyfle i feithrin y grefft o gwyno.
Gorfod
eistedd trwy'r hyn a oedd yn teimlo fel miloedd o chwiorydd yn perfformio
barodd i mi gwyno.
Addewais na fyddwn byth yn cystadlu.
Cefais fy hun yn cwyno ar fore cyntaf yr Eisteddfod gan nad oedd y
trenau yn rhedeg o Orsaf Heol y Frenhines ar Wyl y Banc.
O grwydro ymhellach i orsaf canol Caerdydd, siom oedd deall nad oedd
bws ar gael cyn deg o'r gloch.
Cefais gyfle i gwyno wrth neidio i'r tacsi. Efallai bod y cwyno yn
fath o ddefod cyn eisteddfodol.
Cerddi dadleuol
Cafwyd trafodaeth bellach yn ystod yr wythnos ynghylch addasrwydd
ambell gerdd yng nghyswllt dinas aml ddiwylliant fel Caerdydd lle
y mae mwyafrif y plant a ddaw i'r ysgolion Cymraeg yn deillio o gartrefi
di-Gymraeg.
Dwi'n gwerthfawrogi'r hyn a ddywedodd ambell un am ddehongli'r cerddi
mewn ffordd amlwg Gymreig sy'n cyfleu gwirioneddau am ein hanes a'n
profiad a'n parodrwydd i barchu'r gwahanol.
Ceir lle i sensitifrwydd ynghylch cyswllt hefyd. Gobeithiaf yn fawr
y bydd modd dysgu o drafodaethau o'r fath.
Yr hyn sy'n dda yw ein bod yn cael trafodaeth o'r fath. Y mae'r Gymraeg
yn ymestyn ei thiriogaeth.
O'n ty ni daeth cwyn gryno ac arbennig iawn.
Nid yw eisteddfod yn eisteddfod heb fwd. Mae'n debyg y gellir beio'r
trefnwyr am ofalu nad oeddem yn troedio drwy'r mwd.
Sesiwn y Cynulliad
Da oedd gweld siambr y Cynulliad yn llawn ar gyfer y sesiwn holi ddiwedd
yr wythnos. Yn anffodus, nid oedd modd i gynrychiolydd y Blaid Lafur
fod yno oherwydd gwaeledd.
Roedd hynny'n biti.
Erbyn hyn, wrth wrando ar aelodau'r Cynulliad wrthi, byddaf yn teimlo
rhwystredigaeth.
Rhoddwyd ambell ateb da i gwestiynau da, ond aeth ambell beth ar goll
yn fy nhyb i.
Hyn, mae'n debyg, yw baich dyn sydd wedi troi diddordeb yn obsesiwn.
Er gwaethaf fy amheuon, gwelodd mwyafrif llethol y cynrychiolwyr ifanc
werth yn y drafodaeth a gafwyd. Yn 么l ei arfer, fe wnaeth Llywydd
y Cynulliad ei waith yn dda.
Gwerth y cyfan
Cefais gyfle ganol yr wythnos i grwydro'r maes gyda newydd-ddyfodiad
o Loegr sy'n awyddus i gartrefu yn ein plith.
Credaf
y daw fy nghyfaill i ddeall a gwybod rhywbeth amdanom ni'r Cymry ac
i'n gwerthfawrogi.
Ar hyn o bryd ni all ond rhyfeddu bod 'foreign language' mor
rymus i'w chlywed yn y tir. Nid oedd yn disgwyl hyn.
Diolch i Eisteddfod yr Urdd am gynnal a hyrwyddo rhyfeddod yr hen
'foreign language' yma ymysg yr ifanc.
Yr wythnos hon, llwyddwyd i wneud hyn yn y modd mwyaf 'ffantastig'.
O Faes y Steddfod
.
I ddarllen Sgyrsiau Dweud ei Ddweud, Post Cyntaf
Ebostiwch ymateb
|
|
|
|
Atgofion am gyfnod sydd wedi darfod yng nghefn gwlad Cymru |
|
|
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd
yn ei le. |
|
|
|
|