大象传媒


Explore the 大象传媒

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
大象传媒 Cymru'r Byd


A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Straeon
Wythnos o Feddwl
Meddygol
Llythyrau
Miss Jones

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Ground Zero Trychineb
9:11 ac United 93

Dau fyd yn parhau i gamddeall ei gilydd

Sylwadau wythnosol Aled Edwards

Mehefin 4, 2006

Aled Edwards, awdur yr erthygl hon
United 93
Y mae rhyfeddod teithio ein byd modern yn caniat谩u i rywun fel fi droedio o gwmpas Ground Zero yn Efrog Newydd brynhawn Llun ac eistedd mewn sinema ym mhrifddinas Cymru brynhawn Iau'r un wythnos.

Yr wythnos hon, cefais achos i feddwl am deithio drwy'r awyr.

Cofio 9:11
Dau ddigwyddiad hanesyddol sy'n caniat谩u imi gofio, dros ystod deugain mlynedd o'r bron, beth yn union yr oeddwn yn ei wneud pan ddigwyddodd y pethau hynny.

Y mae'r ddau ddigwyddiad yn gysylltiedig 芒'r Unol Daleithiau.

Roeddwn yn blentyn bach pan glywais dros radio fan chips Trawsfynydd am lofruddio Kennedy yn Dallas.

Roeddwn yn ddyn canol oed yn cerdded drwy strydoedd Wrecsam pan welais luniau'r awyrennau hynny'n hedfan i'r Twin Towers yn Efrog Newydd.

Ymweld 芒 Ground Zero
Daeth yr atgof hwnnw yn 么l i'r cof yn y modd mwyaf amrwd ddydd Llun diwethaf yn Efrog Newydd.

Wrth droed lle're oedd y Twin Towers yn sefyll yn gadarn ceir Eglwys Anglicanaidd Sant Thomas.

Eglwys Sant ThomasYn rhyfeddol, mae'r eglwys dal yn sefyll ac yn agored. Byddai ambell un yn honni i'r adeilad oresgyn cwymp y tyrrau fod yn ddim arall ond gwyrth ar 9:11.

Bu'r adeilad eglwysig hwn yn hynod o ddefnyddiol fel adnodd ar gyfer y gwasanaethau argyfwng a weithiodd mor ddygn a dewr y diwrnod cofiadwy hwnnw o Fedi.

Cefais gyfle ddydd Llun diwethaf i goffau'r trueiniaid hynny a gollodd eu bywydau yn eu miloedd ar y dydd hwnnw a drodd yn rhif: 9:11.

Cefais gyfle hefyd i wedd茂o dros eu teuluoedd yn Eglwys Sant Thomas.

Ffilm bwysica'r flwyddyn
Y mae'r ffilm United 93 yn dechrau ar ffurf gweddi.

Darlunnir y pedwar terfysgwr ifanc a feddiannodd yr unig awyren a ddygwyd y diwrnod dieflig hwnnw i fethu a chyrraedd ei tharged yn gwedd茂o'n daer am gymorth eu duw i ddial a lladd.

Ceir lluniau eraill yn y ffilm o bobl ddiniwed ar daith yn mwynhau'r pethau hynny sy'n nodweddu teithiau hir ar awyrennau - diod, bwyd a mwy o ddiod.
Rhoddir diodydd er mwyn cadw teithwyr yn ddiddig, yn fyw ac yn iach.

Fe gollodd pob un ar United 93 eu bywydau diolch i'r bobl ifanc ddieflig hynny a wedd茂odd mor daer am gymorth eu duw y Medi erchyll hwnnw yn 2001.
Cyn marw, gwelwyd ambell un yn dweud ei bader.

Cefais fy nwysbigo'n fawr gan fy ymweliad a Ground Zero.

Cefais fy nwysbigo hefyd gan olygfeydd y ffilm hon sydd, i mi, beth bynnag, ymysg y pwysicaf a ddangoswyd eleni.

Cwestiwn moesol
Wedi gweld y ffilm gallaf ddeall pam y gwelodd ambell un yn dda i fynegi pryder ynghylch ei chynhyrchu mor fuan ar 么l 9:11.
Yn amlwg, mae llawer o'r rhai a ddioddefodd brofedigaeth y diwrnod hwnnw dal yn fyw.

Fel diddanwch, mae'r ffilm hon yn wirioneddol wych gyda phob eiliad o'r tyndra yn gafael oherwydd bod y profiadau'n real.

Nid diddanwch yw ambell beth ond atgof hynod boenus o'r hyn a ddigwyddodd.

Teimlais i mi gael fy nghymryd weithiau i fannau na ddylwn fod ynddyn nhw wrth glywed trueiniaid y daith arbennig honno'n ffonio eu hanwyliaid cyn i'r awyren blymio i'r ddaear.

Bydd llawer yn cofio derbyn y galwadau hynny neu orfod eu clywed ar beiriannau ateb wedi i'r cyfan ddigwydd.

Nid wyf yn sicr y dylid fod wedi dychwelyd i'r mannau preifat a chysegredig hynny mor fuan.

Bywyd yn mynd rhagddo
Wedi dweud hyn, wrth fwynhau cinio anferthol mewn ty bwyta moethus wrth droed Ground Zero gwelais sut y gwelodd America'n dda i ymateb yn gorfforol i gwymp y ddau dwr.
Ground Zero
Cododd allorau'r gred gyfalafol yn fuan ac yn iach o'r hyn a ddisgynnodd.

Y mae bywyd yn mynd rhagddo er gwaethaf yr holl alaru.
Pryderaf yn fwy na hynny bod dilynwyr dau ddiwylliant a aeth i wedd茂o mor daer y bore hwnnw o Fedi yn 2001 yn parhau i addoli'r un duwiau.

Er gwaethaf yr holl golli, y mae dau fyd yn parhau i gamddeall ei gilydd.
Hynny i mi yw trychineb pennaf 9:11 ac United 93.



  • I ddarllen detholiad o Sgyrsiau
    Dweud ei Ddweud, Post Cyntaf
    Cliciwch

  • Bwrw Golwg

    Ebostiwch ymateb




    Wythnosau Blaenorol:


  • Chwiliwch
    Chwiliwch
    Chwiliwch
    Chwiliwch
    Cyfoes
    Atgofion am gyfnod sydd wedi darfod yng nghefn gwlad Cymru

    John RobertsAr drywydd John Roberts
    Dyn sy'n dipyn o sant



    Cofio Gwenynen Gwent
    Cymdeithas Arglwyddes Llanofer

    Wythnos o Feddwl
    Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le.
    Wythnos o Feddwl



    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy