Adolygiad Glyn Evans o Dirgelwch Gwersyll Glan-llyn gan Gareth Lloyd James. Cyfres Cawdel. Gomer. 拢4.99.
Y peth cyntaf sy'n synnu rhywun yw na feddyliodd neb wneud hyn o'r blaen.
Sgwennu nofel wedi ei lleoli yng ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn. Wedi'r cyfan, mae'r posibiliadau mor enfawr.
Ac ar gyfer ei nofel gyntaf mewn cyfres newydd gwelodd "yr awdur ifanc talentog" - yng ngeiriau'r clawr - Gareth Lloyd James y posibiliadau hynny.
Nofel ar gyfer plant yw hi ond fyddai dim rhaid iddi fod felly. Oni fyddai Glan-llyn, gyda chymaint o amrywiol bobl o bob oed wedi eu crynhoi yn yr un lle, wedi bod yr un mor ddelfrydol ar gyfer nofel i oedolion yn nhraddodiad Agatha Christie gyda'r cymeriadau'n cyfarfod eu diwedd fesul un a rhyw dditectif treiddgar am achub y blaen ar y llofrudd?
Tair nofel
Ta beth, darllenwyr ifanc sydd o fewn golygon dirprwy brifathro Ysgol Gymraeg Aberystwyth, Gareth Lloyd James, sy'n wreiddiol o Gwmann, Llambed, a'r stori yn troi o gwmpas Glyn, Deian, Rhodri a Jac a'u cyfeillion yn treulio cyfnod yng ngwersyll enwog yr Urdd ar lan Llyn Tegid.
Ac fe'i dilynir gan dair nofel arall yng ngwersylloedd Llangrannog, Caerdydd a Phentre Ifan. Yn union fel bwsiau - dim un am hydoedd a phedair yn cyrraedd efo'i gilydd gydag olion amlwg rhyw fath o ymgyrch farchnata.
O'r cychwyn mae argoelion trybini yn achos Glyn, Deian, Rhodri a Jac gyda chroesdynnu rhwng plant ac oedolion a rhwng plant a phlant a rhwng bechgyn a merched wrth iddyn nhw ymgiprys 芒'i gilydd mewn gorchestion mor amrywiol a bowlio deg a bwyta'r nifer fwyaf o wyau siocled a chwarae triciau ar ei gilydd!
Ond yn fwy sinistr, mae'r cymeriad surbwch, lled fygythiol, Colin, a'r hyn a wel Glyn liw nos ar Lyn y Bala.
"Tua chanllath o'r lan gallai weld cwch rhwyfo'n gleidio'n araf ar draws y llyn i gyfeiriad Y Bala . . . gallai weld [hefyd] cysgod tywyll dyn yn penlinio ac yn gorchuddio rhywbeth ar y ddaear . . . Roedd rhywbeth ynghylch y ffordd y symudai'r cysgod yn dweud wrtho ei fod yn gwneud rhyw fath o ddrygioni . . ."
Ac ydi, mae drygioni yn air sy'n ymddangos yn aml iawn yn y nofel hon.
Bywyd gwersyll
Yn ogystal 芒 drygioni a dirgelwch mae yma ddarlun o fywyd y gwersyll hefyd ac fel y byddai rhywun yn disgwyl, hynny yn rhoi gwedd gadarnhaol o weithgarwch mudiad sydd yn agos iawn at galon Gareth Lloyd James ag yntau'n is-gadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Ceredigion 2010 ac yn llywydd y mudiad rhwng 2007-2008.
Bu hefyd yn y sefyllfa ffodus o fedru profi ei waith ar ei ddosbarth yn yr ysgol cyn ei gyhoeddi.