大象传媒

Gwen Pritchard Jones - adolygiad o'i nofel '笔颈别迟脿'

Rhan o glawr y llyfr

03 Rhagfyr 2010

  • Adolygiad Janice Jones o 笔颈别迟脿 gan Gwen Pritchard Jones. Gwasg y Bwthyn. tt. 240. 拢8.95.

Seiliwyd y nofel hon ar 'hunangofiant Maria Stella Petronilla, Barwnes Ungern-Sternberg ac Arglwyddes Newborough, a gyhoeddwyd ym Mharis ym 1830', yn 么l yr awdures, Gwen Pritchard Jones.

Nid dyma'r tro cyntaf i'r awdures roi cnawd ar esgyrn sychion cymeriadau hanesyddol: fel darllenwraig nad ydi hi'n ystyried ei hun ymysg selogion pennaf nofelau hanes, cefais flas amheuthun ar Dygwyl Eneidiau, y nofel a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen i Gwen Pritchard Jones yn 2006.

Clawr y llyfr

Dywed iddi gyflwyno hanes Maria Stella gan lynu'n driw at y manylion yn ei hunangofiant ond dywed hefyd bod hanes modryb Maria Stella, y mae'r awdures yn rhoi'r enw Anna Maria Chiappini arni, a'r unig un o'i theulu a ddangosodd unrhyw garedigrwydd tuag at y ferch fach, yn 'ffuglen pur'.

Nofel hanes, cymysgedd o ffaith a ffuglen, ynteu ffeithlen sydd yma felly? Ac os ydi'r nofel yn cydio, a oes wahaniaeth am y label beth bynnag?

Gwely angau

Mae'r nofel wedi'i strwythuro o amgylch ymdrech Anna Maria i adrodd ei hanes, neu ei chyffes, ar ei gwely angau yng nghwfaint yr Ospedale della Santa Maria Nuova yn Firenze.

Trwy gyfrwng yr hyn y mae hi'n ei adrodd i'r Chwiorydd ei gofnodi cawn hanes ei bywyd tra roedd yn rhannu t欧 gyda Maria Stella, rhieni diegwyddor y ferch fach a gweddill ei theulu.

Cawn wybod am yr esgidiau haearn a'r staes haearn mae rhieni Maria Stella yn ei gorfodi i'w gwisgo, y modd y caiff y ferch ei chymell i ganu yn y carnivale yn erbyn ei hewyllys ac, yn bennaf oll, cawn wybod am y cytundeb sy'n cael ei arwyddo rhwng tad Maria Stella a'r Arglwydd Newborough sydd, i bob pwrpas, yn gwerthu'r ferch 13 mlwydd oed yn wraig i ddyn sy'n ddigon hen i fod yn daid iddi.

Yr yr un pryd, datgelir hanes bywyd Anna Maria ei hun inni: y gwarth a ddaeth i'w rhan yn sg卯l y driniaeth annynol a dderbyniodd dan law ei g诺r; ei dealltwriaeth naturiol nad ydi hi, fel yr oedd yn gyffredin i ferched yn y cyfnod, yn cael cyfle i'w ddatblygu, a'i chyfaredd gyda'r darluniau crefyddol yn eglwysi Firenze ac eraill.

Dyma sy'n arwain at ei hadduned i geisio gwneud iawn am ei 'phechod' wrth adael ei g诺r, a'i chysylltiad 芒'r arlunydd Roberto, a'r modd y mae'r cysylltiad hwnnw yn ei harwain yn ddiarwybod yn 么l at ei g诺r.

Cymeriadau credadwy

Mae'r cymeriadau oll yn rhai aml ddimensiwn a chredadwy ond gan nad ydwyf wedi darllen hunangofiant Maria Stella, anodd dweud faint o'r cymeriadau hyn sydd yn bobl 'go iawn', a faint sydd, fel Anna Maria, yn greadigaethau ffuglennol.

Yn sicr, mae'r cymeriadau yn ddiwah芒n yn argyhoeddi a'r rhai a oedd yn bobl o gig a gwaed yn cael eu hasio'n fedrus 芒'r rhai a ddaw o ben a phastwn yr awdures ei hun.

Awyrgylch yn argyhoeddi

Mae naws ac awyrgylch Firenze yn ystod y cyfnod dan sylw hefyd yn argyhoeddi ac mae'r defnydd o iaith led anffurfiol yn adlewyrchiad triw o hen wraig fel Anna Maria yn adrodd ei hanes ar lafar.

Wrth gwrs, mae plot y nofel wedi'i osod gan y testun, yn ogystal 芒 chan y cyd-destun hanesyddol a gallu diamheuol Gwen Pritchard Jones yw medru gweu y ffeithiol hanesyddol a'r dychmygol ffuglennol at ei gilydd mewn modd sy'n bodloni'r darllenydd ar sawl lefel.

Dilyniant i ddod

Yn 么l y broliant ar gefn y nofel, mae dilyniant, sydd hefyd yn seiliedig ar hunangofiant Maria Stella, ar ei ffordd, a mawr y tybiwn fydd yr aros amdano.

Ond mae hon yn gyfrol sydd yn sefyll ar ei thraed ei hun, ac i'r rhai wnaeth fwynhau Dygwyl Eneidiau, hyd yn oed os nad ydynt yn cyfrif eu hunain ymysg ffans mwyaf nofelau hanes, mae'n chwip o stori.
Janice Jones


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 大象传媒 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.