大象传媒

Fflur Dafydd yn cadw'i lle - siart Medi 2009

Fflur Dafydd

05 Hydref 2009

Mae poblogrwydd nofel Gwobr Goffa Daniel Owen 2009 yn parhau gydag Y Llyfrgell gan Fflur Dafydd wedi cadw ei lle ar frig rhestr gwerthwyr gorau Cyngor Llyfrau Cymru fis Medi.

Dyma'r ail fis yn olynol i'r nofel fod yn rhif un. Mae nofel arall yr Eisteddfod, Y Trydydd Peth a enillodd y Fedal Ryddiaith, wedi llithro oddi ar y rhestr fodd bynnag ar 么l bod yn drydydd ar restr mis Awst.

Does yna ddim golwg ychwaith o'r Cyfansoddiadau a oedd yn ail yn y siart fis Awst.

Yn wir, nofel a gyhoeddwyd gyntaf yn 1997 sydd yn ail ar restr Medi, I Ble'r Aeth haul y Bore gan Eurig Wyn, nofel am ddioddefaint Indiaid y Navahos dan law y dyn gwyn yn ystod y Rhyfel Cartref yn yr America ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Llyfr tra gwahanol sy'n drydydd ar y rhestr, ail gyfrol Bethan Wyn Jones o feddyginiaethau yn defnyddio planhigion sy'n tyfu o'n cwmpas.

Fel mae'r ymateb i golofn yr awdur yn atodiad Cymraeg wythnosol y Daily Post yn dangos mae hwn yn bwnc poblogaidd sy'n cyfareddu ac yn ennyn ymateb a dydi rhywun yn synnu dim gweld Doctor Dail 2 yn y siart.

  1. Y Llyfrgel l - Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2009, Fflur Dafydd (Y Lolfa) 9781847711694 拢8.95.

  2. I Ble'r Aeth Haul y Bore? Eurig Wyn (Y Lolfa) 9780862434359 拢5.95

  3. Doctor Dail 2, Bethan Wyn Jones (Gwasg Carreg Gwalch) 9781845272012 拢5.50

  4. Cyfres Cip ar Gymru/Wonder Wales: Sampleri Cymreig/Welsh Samplers, Chris S. Stephens (Gwasg Gomer) 9781848511040 拢3.50

  5. Yr Amhortreadwy a Phortreadau Eraill, Bobi Jones (Cyhoeddiadau Barddas) 9781906396237 拢6.00

  6. Cribinion, Dafydd Wyn Jones (Gwasg y Bwthyn) 9781904845928 拢6.00

  7. Rhestr Testunau Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Ceredigion 2010 (Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru) 9780903131391 拢4.50

  8. Crash, Sera Moore Williams (Atebol) 9781907004162 拢6.99

  9. Cyfres Darlith Goffa J. E. Caerwyn a Gwen Williams 2008: 'Anwir Anwedhys y Mae yn i Ysgrivennv Ymma' - Rhai o Ymylnodau Edward Lhwyd, Brynley F. Roberts (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru) 9781907029004 拢2.50

  10. Hanes a Thrysorau'r Llyfrgell 1985-2009 /History and Treasures of the Library 1985-2009, Mary Olwen Owen (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru) 9781907029011 拢2.50

LLYFRAU PLANT

  1. Y Bachgen Mewn Pyjamas, John Boyne (Gwasg Carreg Gwalch) 9781845271664 拢6.95

  2. Cyfres Bananas Glas: Prawf Coginio, Pippa Goodhart, Jan McCafferty (Dref Wen) 9781855967540 拢4.50

  3. Symud, Sam!, Jac Jones (Gwasg Gomer) 9781843238003 拢5.99

  4. Cyfres ar Wib: Gwepsgodyn, Martin Waddell (Gwasg Gomer) 9781843234821 拢3.99

  5. Ceffyl, Malachy Doyle (Gwasg Gomer) 9781843239437 拢5.99

  6. Cyfres Llyffantod: Nadolig Llawen, Sglod, Ruth Morgan (Gwasg Gomer) 9781843232735 拢4.95

  7. Cyfres y Teulu Boncyrs: 4. Bili Boncyrs, Seren y Rodeo, Caryl Lewis (Y Lolfa) 9780862437787 拢2.95

  8. Annwyl Santa/Dear Santa, Rod Campbell (Dref Wen) 9781855968523 拢4.99

  9. Cyfres Gweld S锚r: 8. S锚r Nadolig, Cindy Jefferies (Gwasg Carreg Gwalch) 9781845272210 拢4.95

  10. Un Diwrnod Oer, M. Christina Butler (Gwasg Gomer) 9781848510814 拢5.99

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 大象传媒 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.