大象传媒

Cefin Roberts - Catrin Beard ac Iwan Edgar yn pwyso a mesur

Cefin Roberts

08 Chwefror 2010

Wrth s么n am dymor Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru dan arweiniad Cefin Roberts dywedodd Catrin Beard mai tasg amhosib fyddai plesio pawb.

Rhestrodd gynyrchiadau o glasuron Cymraeg a'r cyfieithiadau fel uchelbwyntiau iddi hi gan enwi Ester, Iesu a T欧 Bernarda Alba fel y tri chynhyrchiad gorau.

Wrth gael ei holi ar Raglen Dewi Llwyd, fore Sul Chwefror 7, dywedodd:

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

"Ac o'r rhain, Iesu ydi'r unig ddrama gyfoes a dyma efallai sy'n dangos y gwendid sydd wedi bod efo'r Theatr Genedlaethol ac mae'n dangos fod tlodi sgwennu dramatig yng Nghymru . . . ac mae'n ychydig o siom nad yw'r cwmni wedi gwneud mwy i hybu a hyrwyddo a meithrin talent newydd."

Ond ychwanegodd y gall penodiad diweddar swyddog maes wella hynny.

Disgrifiodd strwythur y cwmni ar gyfer datblygu gwaith newydd fel "simsan" ac mai hynny oedd i gyfrif am fethiant Tyner yw'r Lleuad Heno gan Meical Povey.

"Fe fethodd y cwmni a sicrhau fod ei waith o yn ddigon da i'w berfformio y tro hwn," meddai.

Ychwanegodd mai camgymeriad fyddai dweud i'r Theatr fod yn fethiant gan i rai cynyrchiadau fod "yn ysgubol".

Yr her yn awr yn 么l Catrin Beard yw datblygu ar hyn o'r gwaelod i fyny a meithrin hefyd dalentau actio.

"Od ydi'r Theatr Genedlaethol wedi dangos un peth mae'n dangos fod gennym ni gyfoeth o dalent actio ymhlith ein hactorion canol oed ni.

"Bron iawn ym mhob cynhyrchiad mae'r rhai canol oed wedi serennu ac y mae ychydig o simsanrwydd yn y genhedlaeth iau [ond] mae eisiau eu meithrin nhw."

Yn ymuno a diwedd y sgwrs mynegodd adolygydd theatr arall, Iwan Edgar, tasg pa mor anodd yw un Cyfarwyddwr Artistic cwmni o'r fath.

  • Gellir gwrando ar Catrin Beard ac Iwan Edgar yn siarad 芒 Dewi Llwyd trwy glicio ar y blwch ar ddechrau'r erthygl hon.

  • Cliciwch YMA i glywed sylwadau Catrin Beard am 'Y Gofalwr'..

A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 大象传媒 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.