Gydag "ambell i graith fach" y bydd o'n dod drostyn nhw y bydd Cefin Roberts yn gael ei swydd yn Gyfarwyddwr Artistic Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru.
Yn annisgwyl, wythnos union cyn cychwyn taith y mae o'n bersonol gyfrifol am ei chyfarwyddo cyhoeddodd ei ymddiswyddiad ddydd Mercher Ionawr 27 2010.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Ar y Post Cyntaf ar 大象传媒 Radio Cymru yn cael ei holi y bore wedyn gan Nia Thomas gwadodd mai cael "ei wthio" wnaeth o ond uiddo fynd oherwydd gofynion teuluol ac i ganolbwyntio ar waith creadigol arall.
"Na, dwi wir yn teimlo mai - dwi'n gweithio r诺an ar gynhyrchiad dwi'n hapus iawn ag o sef Y Gofalwr ac felly dwi'n gobeithio y byddai'n gadael ar uchafbwynt a dwi wedi mwynhau fy saith mlynedd," meddai.
"Ac oes mae peth o'r feirniadaeth yna dwi'n meddwl yn gadael ambell i graith fach ond da ni'n dod dros rheini," meddai.
Teimladau cymysg
Dywedodd fod teimladau cymysg mewn gadael, fodd bynnag.
"Dwi'n meddwl fod cyhoeddi bod rhywun yn gadael cwmni ar unrhyw gyfnod yn mynd i fod yn anodd yn emosiynol ac yn broffesiynol achos dwi di mwynhau y saith mlynedd diwethaf ma ond dwi di bod yn trafod ers dipyn fy mwriad i fynd, ers rhyw flwyddyn r诺an, yn raddol bach yn paratoi fy hun a pharatoi comisiynau a chynllun busnes ar gyfer y dyfodol i wneud yn si诺r fy mod i'n gadael y cwmni efo nifer o gynlluniau yn y pair," meddai.
"Hefyd, roeddwn i wedi dweud wrth fy nheulu y byddwn i lawr yn y de yma am rhyw bum mlynedd a dwi yma ers saith ac mae'n nhw'n dechrau dweud eu bod nhw eisiau fi adra," ychwanegodd.
Pa holodd Nia Thomas ai mynd yr oedd oherwydd iddo gael llond ar feirniadaeth a checru parhaus dywedodd:
"Na fyddwn i ddim yn dweud hynny er bod hynny ar adegau wedi gwneud i rywun ailedrych ar sefyllfaoedd ac ar raglen ond dwi hefyd yn teimlo'n bod ni wedi gwrando ac ymateb i feirniadaeth."
Brysio gormod
Ond fe awgrymodd i'r cwmni efallai gychwyn cynhyrchu braidd yn rhy gynnar yn ei hanes.
"Dwi yn meddwl bod y theatr genedlaethol iaith Saesneg yma yng Nghymru wedi gwneud rhywbeth doeth iawn yn cymryd dwy flynedd i sefydlu'r cwmni cyn mynd i mewn i gynhyrchu a dwi'n teimlo yn y cyfnod cynnar inni ruthro dipyn braidd.
"Dwi yn hapus iawn bod y cwmni o fewn y tair bedair blynedd diwethaf wedi cynhyrchu gwaith o safon a chynyrchiadau o safon uchel iawn, iawn, ac wedi denu cynulleidfaoedd yn 么l i'r theatr Gymraeg wedi gwagio mawr y Nawdegau ac felly mae yna nifer o'r cynlluniau roeddwn i wedi gobeithio'u rhoi ar waith yn ogystal a gwaith ymestyn y cwmni wedi datblygu a dwi'n teimlo mod i'n gadael y cwmni ar gyfnod lle dwi di cyrraedd beth oeddwn i'n obeithio gyrraedd.," meddai.
Soniodd hefyd am yr her o greu cwmni o gydweithwyr yn dod i adnabod ei gilydd mewn ardal newydd ac mewn cartref nad oedd yn addas ar gyfer cynyrchiadau mawr.