Blogio
Mae hi'n eithaf syml cael blog Cymraeg erbyn hyn, a hynny heb orfod talu ceiniog. Y ddau feddalwedd mwyaf poblogaidd ydi a , ond mae dewis eang o systemau i siwtio pob math o flogiwr.
Er mwyn cael Wordpress.com yn Gymraeg , a dilynwch y cyfarwyddiadau i ddechrau blog. Dylai'r dyddiadau a thipyn o'r rhyngwyneb fod yn Gymraeg, ond os na chewch hyn, gallwch fynd i'r dewisiadau a newid y iaith i'r Gymraeg.
Mae Wordpress.org yn fersiwn o Wordpress sydd yn rhaid ei lletya ar eich gweinydd eich hun. Hynny yw, rhaid i chi dalu am y gweinydd a gosod y system eich hun. Mae sawl mantais i hyn, y pennaf un eich bod yn gallu addasu eich blog fel ag y mynnwch a chael rheolaeth lwyr dros ei edrychiad. Mae ffeil iaith Gymraeg ar gael ar gyfer fersiwn 2.7 o Wordpress.org. Ceir cyfarwyddiadau ar sut i'w weithredu ar wefan . Mae Wordpress wedi symud ymlaen i fersiwn 2.8 erbyn hyn ond dylai'r pecyn roi peth os nad holl ryngwyneb y blog yn y Gymraeg. Fodd bynnag, cofiwch wneud copi wrth gefn o'r blog a'r grinfa ddata cyn ceisio gwneud unrhyw newidiadau!
Mae hefyd yn cynnig system flogio cyfan gwbl Gymraeg, ac am ddim, er bod angen diweddaru'r cyfieithiad mewn mannau.
Blogger
Mae'n bosibl cael y rhan fwyaf o'ch blog yn Gymraeg (neu o leia ddim mewn iaith arall) gyda thipyn o olygu ar y c么d HTML sydd yn eich patrymlun, ond nid yw rhyngwyneb mewnol y gwasanaeth blogio poblogaidd arall hwn ar gael yn y Gymraeg eto.
Blogwyr Cymraeg
Mae yna gryn dipyn o flogiau yn cael eu hysgrifennu yn y Gymraeg ac mae'n debyg taw'r ffordd orau o gael blas ar y rhain ydi trwy ddechrau gyda'r . Trwy ymweld 芒'r blogiau hyn gallwch edrych ar flog restr y blogiau, a dilyn trywyddau dolenni i ddarganfod rhagor.
I ddarllen blogiau Cymraeg 大象传媒 Cymru, gan gynnwys blog gwleidyddol Vaughan Roderick, blog Cylchgrawn, Hywel Gwynfryn, C2 ac Ar y Marc, cliciwch yma.
Beth sy'n gwneud blog da? Cyngor Vaughan Roderick...
Mae llawer o ddefnydd o'r Gymraeg ar y llwyfan m芒n-flogio Twitter erbyn hyn, ac er nad oes posib cael rhyngwynebau Cymraeg mae'n bosib dod o hyd i bobol sy'n trydar yn Gymraeg un ai drwy ddefnyddio neu trwy edrych am 'restrau Twitter' o ddefnyddwyr sy'n defnyddio Cymraeg, fel hon er enghraifft y rhestr .
Gallwch hefyd fynd i'r wefan Umap Cymraeg - http://cy.umap.eu sy'n casglu cynnwys Cymraeg sy'n cael ei gyhoeddi ar Twitter. Mae'n dangos pob neges Twitter sydd yn yr iaith Gymraeg, dangos beth yw pynciau llosg y dydd a'r straeon newyddion a'r dolenni mwyaf poblogaidd ymysg siaradwyr Cymraeg.
Negesfyrddau Cymraeg
Mae negesfyrddau neu fforymau yn llefydd i drafod pynciau llosg. Mae strwythur y negesfyrddau yn golygu ei bod yn haws dilyn trafodaeth ddwys ymysg llawer o bobol arnynt nac ar rwydwaith gymdeithasol neu flog. Fel arfer maent yn arbenigo ar feysydd penodol, ond yn y Gymraeg maent yn tueddu i fod yn fwy eang eu golygon.
Mae yn parhau i fod y brif wefan drafod Gymraeg gyda miloedd o aelodau, ond mae llawer i negesfwrdd fach wedi ymddangos a diflannu yn ei sgil.
I chi sydd 芒'r awen mae negesfwrdd Y Seiat ar yn un sydd wedi bod yn mynd ers amser, ac yn parhau i fod yn fywiog.
Mae gan wefan negesfwrdd ar gyfer dysgwyr Cymraeg ac mae adran Gymraeg i'w gael ar negesfwrdd . Hefyd i ddysgwyr, mae negesfwrdd
Rhodri ap Dyfrig. Tachwedd 2009
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Language help
This page is about Welsh blogs, using Twitter and messageboards. For help with the Welsh, click on the 大象传媒 Vocab button above.