1935
Y ffilm Gymraeg gyntaf Y Chwarelwr oedd pwnc y ffilm gyntaf erioed yn yr iaith Gymraeg Mewn llythyr yn Y Cymro mis Mawrth 1936 dywedwyd, "Mewn byd lle mae'r ffilmiau Saesneg yn cael eu perffeithio, teimlad rhyfedd oedd eistedd i lawr i edrych ar blentyn cyntaf-anedig y sinema Gymraeg. Pan sylweddolir fod y 'talkie' Americanaidd wedi bod mewn bri ers tua deuddeng mlynedd a'r ffilm ddistaw o flaen hynny rhaid cyfaddef bod rhywbeth o'i le pan sylweddolir fod Cymru wedi gorfod aros tan 1935 am enedigaeth ffilm genedlaethol". 'Y Chwarelwr' oedd teitl y ffilm Gymraeg gyntaf, a phlentyn sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru, Syr Ifan ab O.M. Edwards, oedd hi. Gofynnwyd i John Elis Williams gynllunio'r ffilm.
Clipiau perthnasol:
Canfod mwy am...
O Adlais 1936 darlledwyd yn gyntaf 09/03/1973
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|