1977
Helo Bobol Helo Bobol oedd y rhaglen gyntaf a glywyd ar ôl y newyddion pan lansiwyd Radio Cymru ar y 3ydd o Ionawr 1977. Darlledwyd y rhaglen bob bore o'r wythnos a Hywel Gwynfryn y darlledwr fu'n codi'n blygeiniol i gyfarch y genedl. Cymysgedd o fiwsig a chyfweliadau ac ambell bwt o gyngor oedd y rhaglen. Gellid gofyn amrywiaeth o gwestiynau o faterion yr ardd i gyfrinachau'r gegin. Deuai'r doctor a'r milfeddyg heibio'n wythnosol hefyd i gynnal meddygfa. 'Y Bobol Biau'r Cyfrwng' oedd ystyr y ´óÏó´«Ã½ yn ôl Hywel Gwynfryn, ac yr oedd ei raglen yn apelio at y bobl hynny ar draws Cymru.
Clipiau perthnasol:
O Helo Bobol darlledwyd yn gyntaf 03/01/1977
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|