1984
Bryn Terfel Y cawr o faritôn o Wynedd sydd wedi swyno cynulleidfaoedd y byd Mae'r baritôn a aned ym Mhantglas, Gwynedd, yn 1965, wedi concro byd yr opera gyda'i lais cyfoethog, ei hiwmor ffraeth a'i bresenoldeb arbennig ar lwyfan. Graddiodd o Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall yn 1989 ac enillodd y wobr Lieder yng nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd yn yr un flwyddyn. Cyn hynny bu'n wyneb adnabyddus ar lwyfannau eisteddfodau'r Urdd a'r Genedlaethol ac erbyn hyn mae'n denu cynulleidfaoedd niferus i dai opera mwya'r byd. Sefydlodd Gwyl y Faenol yng Ngwynedd lle mae artistiaid adnabyddus y byd cerdd yn rhannu llwyfan ag ef ac mae'r dewis o gerddoriaeth at ddant pawb.
Clipiau perthnasol:
Canfod mwy am...
O Rhaglen Hywel Gwynfryn darlledwyd yn gyntaf 04/11/1984
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|