Cliciwch isod i wylio clip ffilm o archif 大象传媒 Cymru o'r raglen Lloffa a ddarlledwyd yn 1966. Yn y ffilm gwelir tri o ddynion lleol, gydag un wedi ei wisgo fel y Fari Lwyd, yn ymweld 芒 ffermdy yn yr ardal. Cenir amryw o benillion ac yna ceir ateb gan y ffermwr, cyn iddynt gael eu gadael i mewn i fwynhau lluniaeth. Ar ddiwedd y ffilm mae un o'r dynion yn adrodd ychydig o hanes traddodiad Y Fari Lwyd yn yr ardal yn nhafodiaith hynod Llangynwyd. (Hawlfraint 大象传媒 Cymru.)
Gwyliwch y ffilm o'r Fari Lwyd yn Llangynwyd
Yn 1752 y diwygiwyd y calendr gan roi pwysigrwydd newydd i Galan Ionawr, sef y cyntaf o'r mis. Ond mae dathliadau Hen Galan Ionawr y 12fed wedi cael eu hadfywio mewn rhai rhannau o Gymru heddiw.
Arfon Hughes yn trafod y Fari Lwyd yn ardal Dinas Mawddwy ar raglen Geraint Lloyd
Atgoffir pobl leol yn Llangynwyd am draddodiad Y Fari Lwyd ar arwydd y dafarn leol, Yr Hendy: cliciwch i weld llun.
Ydych chi'n cofio traddodiad Y Fari Lwyd neu wedi adfer yr hen arferiad yn eich ardal chi? Dwedwch yr hanes trwy lenwi'r ffurflen isod.
Arferion y Nadolig a'r Calan
Y Fari Lwyd yn Nhal-y-bont, Ceredigion
|