Er hynny, nid yw'n byw yn y pentref ac mewn gwirionedd gellid dweud nad yw yn byw yn unman ag eto'n byw mewn sawl lle yng Nghymru. Fe fu ar ei thaith ymweld ar adeg troad y flwyddyn ac ar 么l hynny ni welir hi am ddeuddeg mis arall. Person rhyfedd i nabod? Wel, nid person o gwbl, ond rhan ganolog o'n hanes gwerin ac un o draddodiadau pwysicaf y Calan, sef y Fari Lwyd.
Cefais rywfaint o'r hanes gan Jeremy Turner a fu'n tywys y Fari o d欧 i d欧 gyda chriw llawen o blant ac oedolion yn ei ddilyn cyn cyrraedd pen y daith mewn noson hynod o ddifyr yn y Clwb Nos Wener yn y Llew Gwyn. Er mai Jeremy atebodd y cwestiynau, mae'r wybodaeth i gyd yn dod wrth gwrs "from the horse's mouth" ('na ddigon o hwnna, Gol).
Mae'r tarddiad y Fari yn mynd 芒 ni n么l i'r oes cyn Crist ac yn rhan o ddiwylliant paganaidd y Celtiaid. Mae'r pen ceffyl yn arwydd o ffrwythlondeb ac yn dynodi'r treiglad o'r hen flwyddyn i'r newydd - terfyn ar yr Hydref a'r Gaeaf ac edrych ymlaen at dyfiant a chynhaeaf y Gwanwyn a'r Haf. Mae Jeremy yn cyfeirio at y lle canolog i'r ceffyl yn niwylliant y Celtiaid, yn ein llenyddiaeth ac yn ein canu gwerin, er enghraifft y s么n am y March Hud a'r hanes am dorri clustiau'r meirch chwedlau'r Mabinogi ac yn y g芒n werin, 'Mae Gen i Farch Glas'.
Yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg y Fari Lwyd oedd yr enw a roed mynychaf yng Nghymru ar y pen neu ffigur ceffyl yr arferai part茂on 'canu gwaseila' ei gludo o ddrws i ddrws yn ystod tymor Calan - nid ar y dydd cyntaf o'r flwyddyn ond yr hen Galan, deuddeg dydd yn hwyrach. Mae tystiolaeth yn dangos fod tywys y Fari yn arferol mewn sawl man yng ngorllewin a de Cymru - yn Sir Benfro a Chei Newydd er enghraifft - ond bod yr arfer ar ei gryfaf yn y De ac yn arbennig ym mhlwyf Llangynwyd uwchben Maesteg. Ma 'na seremon茂au tebyg hefyd yn Iwerddon, gwledydd Llychlyn ac Awstria (gyda'r cysylltiad Celtaidd yn gryf yn yr olaf o rhain).
Fe fyddai gan y Fari ei gosgordd swyddogol - ac mae'r rhain yn amrywio o ardal i ardal. Ond bob amser yn y parti fyddai'r Sarjant yn ei thywys ac yn 'gweithio'r' pen. Yn naturiol mae un person o dan y clogyn gwyn (Matthew Clubb ym mharti Jeremy) ac weithiau fe gewch y Meriman gyda'i ffidil, y Cadi a'r Bili, sef dyn wedi gwisgo fel merch, cariwr y Fedwen a'r Pwnsh a'r Jiwdi.
Ar gychwyn y ddefod canai'r parti gyfres o benillion traddodiadol tu allan i ddrws y t欧^. Yna dechreuai'r Sarjant yr holi a'r ateb, sef y 'pwnco neu'r ddadl (ar yr un d么n, mewn cyfuniad o benillion traddodiadol a rhai 'difyfyr') rhwng aelod o'r parti a gwrthwynebydd y tu arall i ddrws y t欧^. Fel arfer, ceid tynnu coes yn lled galed wrth i'r naill ochr ddifr茂o'r llall am ei ganu angherddgar, ei feddwdod, ei grintachrwydd, ag ati. Disgwylid i griw'r Fari Lwyd drechu yn y ddadl cyn ennill mynediad i'r t欧^ a chael yno darn o lo, gacenni a diod ac, o bosibl, rodd ariannol - rhain oll yn arwyddion o gynhesrwydd, cynhaliaeth ac efallai cyfoeth y flwyddyn
newydd.
Weithiau, wedi terfynu'r 'pwnco', canai'r parti benillion ychwanegol yn cyflwyno'i holl aelodau ac yr oedd hefyd g芒n ffarwel y gellid ei chanu wedi'r tipyn difyrrwch ar yr aelwyd. Dyma'r penillion agoriadol:
Wel dyma ni'n d诺ad
Gyfeillion diniwad
I ofyn am gennad i ganu.
Os na chawn ni gennad,
Cewch glywed ar ganiad
Beth fydd ein dymuniad - nos heno
Mae Mari Lwyd lawen
Yn dod i'ch t欧^'n rhonden
A chanu yw ei diben - mi dybiaf
Rhowch glywad w欧r difrad
O ble ry'ch chi'n d诺ad
A beth yw'ch gofyniad gaf enwi
Am y pen ceffyl, byddai hwnnw wedi ei gladdu mewn calch am gyfnod go hir i gael gwared ag unrhyw gnawd gan buro'r penglog a'i adael yn glaerwyn. Fel y gwelwyd pan aeth y criw o gwmpas Tal-y-bont byddai'r gweddill o'r parti wedi duo eu hwynebau gyda glo neu orchudd tebyg. Yn 么l Jeremy mae'r arfer o dduo yn union yr un fath 芒'r hyn a welir gyda Morris Dancers ac mae Morris fan hyn a chysylltiad clir 芒'r gair blackamoor neu berson du, tywyll ei groen. Mae'n bosib hefyd y byddai'r criw yn duo eu hwynebau fel na fyddent yn cael eu hadnabod yn nhywyllwch y nos wrth fynd o d欧 i d欧.
Er ei fod yn dod o un o gymoedd y De nid oes gan Jeremy atgofion personol o'r Fari. Fe gychwynnodd ei ddiddordeb yn yr arfer wyth mlynedd yn 么l ar adeg y Mileniwm pan fu'n arwain gorymdaith y Fari o gwmpas Aberystwyth, ar hyd y prom ac i fyny Constitution Hill lle cynnwyd ffagl i nodi dyfodiad y ganrif newydd. Yn sgil hyn daeth y gwahoddiad i Dal-y-Bont ac erbyn hyn mae ei ymweliad e a gweddill y criw
yn rhan allweddol o'r calendr pentrefol.
Yn ddiddorol iawn yn rhan o'i ymweliad mae Jeremy yn canu'r pennill hwn a oedd yn rhan o gyfarch calan Tal y Bont:
Mae dydd Calan wedi gwawrio
Dydd tra hynod, dydd i'w gofio,
Dydd i roddi, dydd i dderbyn
Ydyw'r cyntaf dydd o'r flwyddyn
Un peth sy'n sicr yw bod 'na groeso mawr i Jeremy a'r criw yn y pentre erbyn hyn. Roedd yr adrodd straeon a'r canu yn Llew Gwyn ar 么l yr orymdaith yn goron ar noson hwyliog. Blwyddyn Newydd Dda i'r Fari Lwyd - dewch n么l eto!
GIE
Cliciwch i ddarllen mwy am y Fari Lwyd ac i wylio clip fideo o ddynion ym mhentref Llangynwyd ger Maesteg yn canu'r penillion traddodiadol yn y 1960au.