MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
Helynt dwy gadair Dinbych Cadair o Loegr i鈥檙 prifardd er i un gael ei gwneud yn lleol Os bydd yna deilyngdod yng ngystadleuaeth y Gadair yn Nyffryn Clwyd eleni yna fydd yna ddim prinder cadeiriau. Mae cadair swyddogol Eisteddfod Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2001 yn Swyddfa'r Eisteddfod yn Ninbych. Cafodd ei gwneud gan Chris Hilling o Colchester. Mae cadair Eistedfodd Genedlaethol Dinbych 1939 yn Siambr y Cyngor Tref, gan nad oedd teilyngdod. Ond er bod dwy gadair yn y dre yn barod mae Elis Jones newydd wneud cadair eisteddfodol answyddogol yn ei weithdy - a hynny heb gomisiwn. Mae o鈥檔 hen law ar gynhyrchu pob math o ddodrefn cywrain fel cypyrddau, cadeiriau a dreseli. Dywedodd trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards, mai trwy gamgymeriad y lluniodd Mr Jones gadair Eisteddfod. "Gofynnodd siop yn y dref iddo wneud cadair fechan i鈥檞 rhoi mewn arddangosfa yn y ffenest ond fe wnaeth gadair fawr, er mai model o gadair yr oedden nhw ei eisiau. Does neb wedi cysylltu a swyddfa鈥檙 eisteddfod ynglyn 芒 hyn." Fodd bynnag, gyda鈥檙 gadair swyddogol wedi ei gwneud yn Lloegr y mae nifer yn anhapus mai i rwyun dros y ffin yr aeth y fraint tra bo crefftwr lleol ar gael. Ond eglurodd Mr Edwards: "Pwy bynnag sy鈥檔 rhoi鈥檙 gadair sy鈥檔 penderfynu ar gynllunydd a gwneuthurwr. Cymdeithas y Cymmrodorion sy鈥檔 rhoi鈥檙 gadair eleni gan eu bod nhw鈥檔 dathlu eu 200 mlwyddiant a mab un o鈥檙 aelodau yw Christopher Hilling." Fodd bynnag, pe byddai dau fardd yn gydradd am y Gadair eleni fe fydd yna o leiaf gadair yr un iddyn nhw! Ewch i ddarllen am y cadeirio
| |
© MMI |
|
About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |