MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
Cadeiriau a Phrifeirdd Gwobr fawr yr Eisteddfod Mae’r gadair yn cael ei rhoi bob blwyddyn i awdur yr awdl fuddugol. Mae’n arferiad sy’n dyddio’n ôl i oes Hywel Dda. Mae Cyfreithiau Hywel yn nodi bod cadair yn cael ei rhoi i Bencerdd yn neuadd y Tywysog. Byddai beirdd yn cystadlu am swydd y Pencerdd drwy ymrysonau barddol. Yn 1887 fe ddechreuwyd yr arfer o roi cadair bren yn wobr i’r bardd a oedd wedi ennill cystadleuaeth yr awdl. Ers hynny mae seremoni’r cadeirio wedi ei chynnal bob blwyddyn ag eithrio blynyddoedd yr Ail Ryfel Byd. Dim ond dwywaith y gall bardd ennill y gadair. Ewch i ddarllen am gadeiriau Dinbych Eleni mae’r gadair yn cael ei chyflwyno gan Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion i ddathlu ei dau gan mlynedd a hanner. Mae’r gadair wedi ei chynllunio a’i gwneud gan Chris Hilling a Colchester yn Swydd Essex. Mae wedi ei gwneud o dderw ac nid yw’n cynnwys unrhyw ddelweddau gan i Chris Hilling ganolbwyntio ar greu cadair seml oedd hefyd yn seremoniol. Y testun oedd Dadeni gyda Dic Jones, Elwyn Edwards ac Emyr Lewis yn beirniadu. Dyma restr o’r enillwyr diweddar 2000 Llion Jones. 1999 Pontydd Gwenallt Llwyd Ifan 1998 Fflamau Neb yn deilwng 1997 Gwaddol Enillydd: Ceri Wyn Jones 1996 ³Ò°ù¾±²õ¾±²¹³Ü’ 1995 Y Môr Tudur Dylan Jones 1994 Chwyldro Emyr Lewis 1993 Gwawr Meirion MacIntyre Huws 1992 A Fo Ben .... Idris Reynolds 1991 Awdl Foliant i Berson Robin Llwyd ab Owain 1990 Gwythiennau Enillydd: Myrddin ap Dafydd
| |
© MMI |
|
About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |