Araith Sam Jones, Glynebwy 1958
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Darn o araith Sam Jones yn Eisteddfod 1958 yn galw am uno de a gogledd ac i Gymru fod yn un genedl.
Sam Jones oedd pennaeth y ganolfan ddarlledu ym Mryn Meirion, Mangor pan sefydlwyd canolfan y 大象传媒 yno gyntaf yn 1936
Roedd yn gyfrifol am ddatblygu llawer o raglenni adloniant 大象传媒 Cymru gan gynnwys Noson Lawen a ddaeth 芒 pherfformwyr fel Triawd y Coleg a'r Co Bach i amlygrwydd.
Yn ystod yr ail ryfel byd, daeth rhaglenni adloniant Saesneg y 大象传媒 dan ei adain wrth i'r adran adloniant ysgafn ail-leoli yno er mwyn bod ymhell o berygl y bomiau yn Llundain.
Ef oedd Llywydd y Dydd ar y cyntaf o Awst 1958 yn Eisteddfod Glynebwy ac fe alwodd am ddiddymu'r arfer o wahaniaethu rhwng 'pobl y de a phobl y gogledd' yng Nghymru.
Gellid dweud bod ei eiriau yn dal i fod mor berthnasol heddiw ag yr oeddent bryd hynny.