大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!



Elfed Roberts a'r Athro Gareth Roberts (Llun gan Tegwyn Roberts) Elfed yn Gymrawd
Anrhydedd fwyaf y Brifysgol
Mae cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol wedi ei urddo'n Gymrawd er anrhydedd Prifysgol Cymru mewn seremoni ym Mangor.

Dyma'r anrhydedd fwyaf y gall y brifysgol ei rhoi i unigolyn.

Yn y seremoni i dderbyn ei anrhydedd cyflwynwyd Mr Roberts gan yr Athro Gareth Roberts a'i disgrifiodd fel "Mr Eisteddfod".

"Mae'n amlwg bod angen rhywun arbennig iawn i reoli'r cawr hwn, [yr eisteddfod] i sicrhau ei fod yn ymgartrefu'n ddiogel yn ei gartref blynyddol a'i fod yn cyflawni ei genhadaeth yn gyson ac yn raenus," meddai.

"Elfed Roberts yw'r g诺r dewr sydd wedi bod wrth y llyw ers deuddeng mlynedd bellach. Ef yw Mr Eisteddfod.

"Yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle mae wedi'i drwytho yn y byd eisteddfodol, yn dilyn prentisiaeth gynnar mewn newyddiadura ac yn y byd amaethyddol.

"Mae ei wreiddiau'n ddwfn yn nhraddodiadau a gwerthoedd ardaloedd y chwareli a'r gwerthoedd hynny wedi naddu ei bersonoliaeth radlon agored, ei ddawn i ymdrin 芒 phawb a phopeth, a'i sgiliau diplomyddol yn wyneb anawsterau dirifedi.

"Afraid dweud bod yr Eisteddfod yn parhau i ddiwygio ei systemau, i geisio cryfhau ei sail gyllidol ac i'w hail ddiffinio'i hun yn barhaus yn y byd modern sydd ohoni. Dyna natur anorfod y bwystfil.

"Braint yr Eisteddfod yw cael cymeriad fel Elfed Roberts yn Gyfarwyddwr arni a braint y Brifysgol hon yw cydnabod hynny yn gyhoeddus ym mlwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau 2005 trwy ddyfarnu Cymrodoriaeth er Anrhydedd iddo."

Cyn ymuno a'r Eisteddfod Genedlaethol bu Mr Roberts yn drefnydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a chyn hynny yn gweithio i gwmni amaethyddol ar 么l gadael Papurau'r herald lle'r oedd yn newyddiadurwr.




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy