大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Gwilym Owen Gwilym Owen fore Gwener
Ffarwel i Faes y Faenol
Hawddamor o Steddfod Fawr Snowdonia ar fore Gwener - a bellach mae jyncet Eryri a'r cyffiniau yn tynnu ei thraed ati.

Ac heddiw, bydd y Sanhedrin yn cyfarfod Llys yr Eisteddfod gyda phenderfyniadau mawr i'w gwneud.

Trafod yr argyfwng (sori!), ie, yr argyfwng ariannol, y cyfansoddiad newydd, etholiadau i'r Cyngor newydd ac, wrth gwrs, cartref i Brifwyl 2007.

Ia, pynciau o dragwyddol bwys i'r Brifwyl - ond prin iawn ydi'r wybodaeth ar bapur i roi arweiniad i'r aelodau.

Mae'n amlwg fod yr arferiad o weithredu yn haul llygaid goleuni yn angof.

Tro ar fyd
Ac wrth gwrs mae Cymdeithas yr Iaith wedi cael wythnos brysur a chael eu galw yn fwlis gan Rhodri Morgan.

Maen nhw wedi bod yn galw am ddeddf Eiddo a Deddf Iaith newydd a rhai wedi bod yn ymprydio.

A pha ffordd well i orffen yr wythnos na chael parti ar y Maes?

A dyna fydd ganddyn nhw y pnawn yma. Bandiau'n chwarae er mwyn ceisio deffro rhywfaint ar Rhodri Morgan a dipyn o fwyd a diod - ac os teimlwch chi fel cael mwy o ddiodydd poethion trowch i Babell y Dysgwyr am yr hyn a elwir yn Clonc a Clonc.
Do, daeth tro ar fyd ar Faes y Steddfod.

Dim s么n
Anodd deall polis茂au golygyddol y papurau Cymreig yn ystod yr 糯yl hon.

Dyna ichi benderfyniad y Western Mail i beidio 芒 rhoi sylw o gwbl i fuddugoliaeth Dylan Iorwerth yng nghystadleuaeth y fedal lenyddiaeth - ac yntau yn un o golofnwyr rheolaidd y rhecsyn.
Sut mae esbonio'r fath beth?

Tynnu sylw
Marciau llawn i Robyn Ll欧n.
Yn ei ddull dihafal ei hun mae o wedi llwyddo i ddenu'r penawdau bron bob dydd ac yn debyg o wneud hynny eto heddiw pan fydd y Llys yn cyfarfod.

Dwi'n si诺r y bydd o yno efo geiriau dethol iawn ar fynd 芒'r 糯yli Lerpwl.

Hwyrhau
Un peth digon annifyr yn yr 糯yl eleni yw i gystadlaethau'r pnawn fod yn rhedeg yn hwyr.

Oes a wnelo hynny rywbeth 芒'r ffaith mai tair merch ac un dyn sy'n arwain y Brifwyl hon?
Dim ond gofyn - cyn rhedeg i guddio.

Pethau cofiadwy
Ac wrth gau pen y mwdwl - beth sy'n aros bennaf yn y cof?
Sanhedrin?Wel, y cynadleddau i'r Wasg a'r Sanhedrin yn eistedd bob dydd fel rhes o adar ar weiren telegraff - pob un yn barod i roi caead ar biser pob hen hac a feiddia godi cwestiwn pigog.
Arwydd o nerfusrwydd, efallai.

Perfformiad gwyrthiol yr heddlu a'r stiwardiaid parcio i gael trafnidiaeth yr 糯yl i lifo'n hwylus.
Fe gefais i, o leiaf, fy synnu gan eu gallu rhyfeddol.

Ac ar lwyfan yr 诺yl y pinacl i mi oedd cyflwyniad unigryw Gruffydd Glyn o Gaerdydd yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Richard Burton.
Dyma fachgen ifanc gyda dyfodol disglair iawn ddywedwn i.

Ac, wrth gwrs, y pleser arall oedd cyfarfod Nedwyn John, y ci bach newydd a ddaeth i Babell y wasg eleni.

Cafodd Steddfod ardderchog dwi'n si诺r yn cysgu'n braf dan y bwrdd.

Ond tybed ddaw o'n 么l y flwyddyn nesa? Mi fasa'n braf i weld o.
O Faes y Faenol am eleni, bore da ichi.

  • Bu Gwilym Owen yn darlledu bob bore ar y Post Cyntaf

Mwy o storiau Dydd Gwener


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy