|
|
|
Cyflwyno briwsion Cyflwyno briwsion i Lywodraeth y Cynulliad |
|
|
|
Doedd yna neb i dderbyn briwsion Cymorth Cristnogol ym mhabell Llywodraeth Cynulliad Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Llun.
Yr oedd y briwsion wedi eu casglu yn ystod y gwasanaeth crefyddol ym mhafiliwn yr Eisteddfod f么r Sul pan rannwyd bara rhwng y gynulleidfa.
Yr oedd y gwasanaeth yn nodi pen-blwydd mudiad Cymorth Cristnogol yn drigain oed.
Fore Llun gorymdeithiodd aelodau o Gymorth Cristnogol dan arweiniad Jeff Williams, ysgrifennydd cyffredinol y mudiad yng Nghymru, o'u pabell ar y maes i babell Llywodraeth Cynulliad Cymru gyda gweddillion y bara mewn basgedi.
Ond doedd neb o'r Llywodraeth yno i'w derbyn hwy na llythyr yn diolch am gefnogaeth y Cynulliad i ymgyrchoedd Cymorth Cristnogol "dros gynaladwyaeth a chyfiawnder economaidd yn y byd".
Yn absenoldeb neb o'r Llywodraeth derbyniodd Mr Williams wahoddiad i wneud trefniadau eraill a derbyniwyd y bara gan ddau aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol, Alun Ffred Jones AC a Rhodri Glyn Thomas AC.
"Fe ddigwyddodd yr hyn sy'n cael ei alw yn hiatws gwleidyddol," meddai Mr Williams, "ond mae'r peth wedi bod yn llwyddiant cyn belled ag yr ydym ni yn y cwestiwn oherwydd y sylw yr ydym wedi ei gael yn dilyn y gwasanaeth ddoe."
|
|
|
|
|
|