大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Christine James Coron 2005
Darluniau Christine
Dwy flynedd yn 么l, i'w helpu i ddygymod 芒 salwch y dechreuodd Christine James, enillydd Coron Eisteddfod Eryri, farddoni.

"Fe gefais i salwch a chyfnod o wendid hir yn dilyn hynny ac yr oedd peidio 芒 gallu gweithio yn sioc i'r system ac fe gychwynais i farddoni fel ffordd o ddod mas - ac yr oedd yn rhyw fath o gatharsis i weithio fy ffordd drwy'r dryswch a'r gwendid," meddai mewn cynhadledd i'r wasg wedi'r seremoni.

Beirniad yn llongyfarch
Ar ddechrau'r gynhadledd honno ymwelodd Derec Llwyd Morgan 芒 hi i'w llongyfarch - y beirniaid a draddododd y feirniadaeth o'r llwyfan Derec Llwyd Morgan yn llongyfarcha chyhoeddi mai hi, dan y ffugenw Pwyntil oedd yn fuddugol.

Bu Christine James, sy'n dod o gartref di-Gymraeg yn y Rhondda, yn fyfyrwraig iddo ef yn y brifysgol yn Aberystwyth.

Dywedodd Mrs James fod y farddoniaeth a enillodd iddi y Goron yn dra gwahanol i'r farddoniaeth y dechreuodd ei sgrifennu yn ystod ei gwaeledd a olygodd driniaeth lawfeddygol tra'r oedd ar ymweliad ag America.

"Roedd y rheini yn gerddi personol iawn - yn archwilio'r iselder a'r gwendid a ddilynodd y llawdriniaeth yn yr America a oedd yn dipyn o sioc i'r system. Roedd y profiadau cymhleth hynny yn dod mas yn y cerddi hynny," meddai.

Ychwanegodd i'r cerddi hynny fod yn help mawr iddi. "Yr oeddan nhw yn gatharsis," meddai.

Christine James Am gerddi'r Goron dywedodd mai cerddi yn s么n am brofiadau cyffredin ydyn nhw.

"Er bod yr ysgogiad i'r cerddi efallai yn uchel-ael fe w锚l pobl pan fyddan nhw yn eu darllen mai profiadau cyffredin pobl gyffredin yw llawer iawn o'r profiadau yn y cerddi.

"Mae siom a gofid a gobaith ac anobaith - ac er efallai fod yr ysgogiad ei hun dipyn bach yn anghyffredin," meddai.

Caboledig a chyffrous
Wrth draddodi'r feirniadaeth dywedodd Derec Llwyd Morgan ar ran Ifor ap Glyn a Jason Walford Davies, iddi fod yn hyfrydwch iddyn nhw dderbyn casgliad o farddoniaeth "mor gaboledig a chyffrous" ag un Pwyntil.

Christine James Yr oedd eisoes wedi disgrifio'r ymgeisydd fel "telynegwr manylbleth" yr oedd "golud" ei gerddi yn amlwg.

Wrth s么n am ei hymdriniaeth o ddarnau celf sydd yn ysgogiad i'r cerddi dywedodd i Pwyntil "eu defnyddio fel dechreubwyntiau i'w farddoniaeth gan hawlio'i bersbectif ei hun arnynt, ac allan ohonynt yn mynd i ddychymfyd newydd."

Dyfeisgarwch mentrus
Ychwanegodd: "Mae'n rhaid wrth ddyfeisgarwch mentrus a sylwgarwch gwybodus i gyflawni'r gamp hon ond nid yw Pwyntil yn brin o'r naill na'r llall."

Casgliad a thema - testun amwysedd?
Wrth gyflwyno'r feirniadaeth gyfansawdd ar y cyd mae'r beirniaid yn trafod union natur testun y gystadleuaeth eleni - "Casgliad o gerddi rhydd ar thema."

"Onid oes elfen gref o dyndra rhwng y cysyniad o 'gasgliad' ar y naill law a'r cysyniad o 'thema' ar y llall/

"Mewn ystyr greiddiol mae'r gair 'casgliad' yn arwyddocau amrywiaeth ac, at hyn, ryddid rhag gofynion thema benodol.

Christine James "Ond y mae 'ar thema' yn cyfyngu'r ymgeisydd ac megis yn negyddu'r rhyddid a awgrymir yn y gair 'casgliad'.

"Wrth gyd-feirniadu trafodasom fwy nag unwaith natur a lleoliad y ffin rhwng 'casgliad . . . ar thema' a 'dilyniant o gerddi,' rhywbeth y gofynnodd sawl Pwyllgor Llenyddiaeth o'r blaen amdano gan feirdd y goron.

"Anhestunoldeb yw un o feiau hanesyddol cystadlaethau'r Gadair a'r Goron. A'n gwaredo rhag ychwanegu anniffiniadrwydd at y beiau hynny," meddir.


Mwy o storiau Dydd Llun


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy