|
|
|
Gwilym Owen dydd Llun Ergydion o Faes y Faenol |
|
|
|
Hawddamor o Steddfod Fawr Snowdonia ar fore Llun. Prifwyl y dylai pob un ohonom wneud yn fawr ohoni. Hon, wedi'r cyfan, allai fod y jyncet olaf yng ngogledd Cymru am gyfnod go faith.
Ond mi glywai'r Sanhedrin yn dweud: Dyna fo yr hen shinach yn mynd o flaen gofid unwaith eto.
Ac maen Nhw yn dweud y bydd y Brifwyl hon yn gwneud elw o dros 拢70,000 - hynny ydi os llwyddir i godi 拢530,000 o werthu tocynnau.
Dim ond ychydig dros 拢200,000 oedd mewn llaw ddiwedd yr wythnos - ond dyna fo, rhaid bod yn bositif. Dyna air mawr yr 糯yl.
Ffugio A cham positif mae'n debyg ydi'r cylch gorseddol newydd, plastig, a ddefnyddir am y tro cyntaf y bore 'ma.
Cylch efo meini ffug - a does dim byd o'i le yn hynny gan mai seremon茂au ffug fu seremon茂au'r Orsedd erioed!
Ac yn sicr fe all yr Archdderwydd newydd, Selwyn Iolen, ddringo i'r Maen Llog gyda chydwybod clir - y fo sydd wedi talu amdano.
Ar goll Ond mae un cwestiwn yn codi hefyd - pam tybed y diflannodd enwau dwy ferch o'r rhestr wreiddiol o'r rhai oedd i'w anrhydeddu eleni/
Ai problem a gododd yngl欧n 芒 lliw y wisg a gynigwyd i'r ddwy foneddiges?
Ond ar nodyn cadarnhaol, er bod Aled Jones yn seren go fawr yn y ffurfafen Brydeinig mae'n amlwg nad yw'n disgleirio digon yng ngholeg yr Orsedd.
Gwisg werdd gaiff o eleni ac fe'i derbyniodd yn frwd. Go dda Aled.
Iechyd da Ac wrth grwydro'r Maes mae digon o arwyddion positif. Dyna ichi stondin 1609.
Stondin y papur dyddiol Y Byd ac os oes gennych chi rhyw fil o bunnau bach yn sb芒r yn eich poced ac yn barod i fuddsoddi yn y Cwmni Dyddiol Cyf - yna fe gewch chi botelaid o Siamp锚n Portmeirion - ie siamp锚n Pinot a Chardonnay cofiwch.
Ac mae yna botelaid ohono ar y ffordd i Galiffornia i'r actor Ioan Gruffudd. Wel, ffantastig ynte?
Ond tybed nad mwy positif fyth fyddai gweld copi o'r papur dyddiol yma ar faes y Brifwyl o'r diwedd? Iechyd da ichi.
SOS Kenneth A nodyn positif arall i orffen a chyhoeddi fod pob tocyn wedi mynd ar gyfer wythnos o berfformio Porc Peis Bach yn Theatr Gwynedd.
A dyma'r dro olaf y gwelwn ni Kenneth Parry a'i griw.
Maen nhw'n ymddeol r诺an ac mae gen innau syniad positif ar gyfer y Sanhedrin.
Yn y cyfnod pan ydych chi'n cyfethol arbenigwyr i Fwrdd Rheoli'r Brifwyl - beth am wahodd Kenneth Parry?
Cymro ifanc ardderchog sydd wedi arbenigo ar gael ei hun i dwll a goroesi'r cyfan efo gw锚n.
Dyna union anghenraid ein Prifwyl y dwthwn hwn. O Faes y Faenol, bore da ichi.
|
|
|
|
|
|