|
|
|
Lerpwl - galw am ohirio 'Tachwedd ddigon buan' |
|
|
|
Mae arweinwyr yr Eisteddfod yn awyddus i Lys yr Eisteddfod ohirio dod i benderfyniad yngl欧n a lleoliad Eisteddfod 2007 yn ei gyfarfod ddydd Gwener.
Dywedodd Cyfarwyddwr yr 糯yl, Elfed Roberts, y gellid aros tan fis Tachwedd cyn dod i benderfyniad heb andwyo prifwyl 2007
Ond ychwanegodd mai Tachwedd yw'r pellaf un y gellir gohirio.
Gyda'r holl drafodaethau sydd ar y gweill yngl欧n 芒 dyfodol yr Eisteddfod ar hyn o bryd dywedodd Mr Roberts ei fod ef yn bersonol o'r farn y dylid gohirio penderfyniad yngl欧n a 2007 nes gweld beth fydd canlyniad rhwng yr Eisteddfod, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r Cynulliad.
Y ffeithiau i gyd Cytunodd cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod, Dafydd Whittal, ag ef yn hyn o beth gan ddweud:
"Rhaid i'r Llys gael yr holl ffeithiau cyn penderfynu a dydy nhw ddim ar hyn o bryd. Mae angen llawer iawn mwy o wybodaeth cyn penderfynu ar 2007."
Mynd o chwith Fel rheol byddai'r Eisteddfod wedi hen benderfynu erbyn yr adeg hon o'r flwyddyn i ble mae'n mynd ymhen dwy flynedd ond aeth pethau o chwith yngl欧n 芒 2007 wedi i Sir Y Fflint orfod tynnu'n 么l wahoddiad.
Yr unig yn awr yw un dadleuol o Lerpwl gyda llawer o eisteddfodwyr yn erbyn mynd 芒'r 糯yl y tu allan i Gymru.
Ond pwysleisiodd Mr Roberts ei bod yn gwbl ymarferol disgwyl tan fis Tachwedd cyn penderfynu ond na ellid disgwyl ddim hwy na hynny.
"Fyddai disgwyl dau fis arall ddim yn dyngedfennol," meddai.
"Yr unig beth yr ydw i'n poeni ychydig bach amdano ydi'r gronfa leol ond mae'r gweddill i gyd yn bosibl lle bynnag y cynhelir hi; felly dydw i ddim yn poeni'n ormodol. Yr unig bryder bach ydi'r gronfa leol," meddai.
Yngl欧n 芒'r gwahoddiad dadleuol i Lerpwl gwrthododd arweinwyr Eisteddfodol, gan gynnwys Llywydd y Llys, R Alun Evans, a rhoi unrhyw awgrym mewn cynhadledd i'r Wasg pa arweiniad fyddan nhw yn ei roi i'r Llys ddydd Gwener ond dywedodd Mr Roberts nad oedd ganddo yn bersonol "ddim problem" yngl欧n a芒 mynd yno.
"Ac mi rydw i'n ffyddiog pe byddem ni'n mynd yno y gallem ni drefnu Steddfod yno," meddai.
Ond ychwanegodd fod cwestiwn faint o bobl o Gymru fyddai'n mynd yno!
|
|
|
|
|
|