大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Gwyneth Glyn Adolygiad - Maes B 'bach'
Lowri Johnston yn y Gigs

Gwyneth Glyn, Fflur Dafydd a'r Barf, Dyfrig Evans, Alun Tan Lan, Maes B 'bach', Gorffennaf 31, 2005

Yng nghanol y mwd a'r glaw, roedden ni'n meddwl y byddai dianc i gynhesrwydd Maes B i wrando ar ychydig o gerddoriaeth swynol yn fendith.

Roedd y gerddoriaeth yn swynol iawn, chwarae teg. Trueni am y meinciau gwlyb felly! Ond dyma'r Eisteddfod - a'r maes ieuenctid - felly beth sydd i'w ddisgwyl?!

Eleni, dydy gigs 'mawr' Maes B ddim yn dechrau tan ddydd Mercher. Tan hynny mae gigs 'bach' acwstig ac roedd nos Sul yn enghraifft perffaith.

Acwstig i'r radd eithaf gyda phedwar band neu unigolion yn strymio eu gitars a'u banjos a beth bynnag arall sy'n bosib ei blycio.

Gallu bod yn ormod
Peidiwch 芒 nghamddeall i, dwi'n hoff iawn o fiwsig acwstig ond mae'n gallu bod yn ormod ar adegau, yn enwedig am dair awr.

Gwyneth Glyn sy'n ymddangos gynta' gydag Alun Tan Lan yn cefnogi gyda'i fanjo. Llais swynol a chaneuon neis... Neu dipresin ys dywedodd fy ffrind annwyl.

Mae Gwyneth Glyn bendant yn well yn fyw nag ydy ar cd - er does dim llawer o 'fynd' i'w pherfformiad.

Uchafbwynt y set yn bendant yw'r g芒n olaf gyda deuawd rhyngddi hi ac Alun Tan Lan; "Mae nhw'n dweud nad oes unman yn debyg i adra...".

Lleisiau gwych sy'n swyno ac yn gwneud i bawb anghofio am y gwlypder!

Wedi diflasu braidd
Mae Gwyneth yn lwcus taw hi sy'n agor y noson, achos erbyn i Fflur Dafydd a'r Barf ymddangos mae pobl i'w gweld wedi diflasu braidd gyda'r gerddoriaeth acwstig a ddim yn rhoi grandawiad teg i Fflur.

Fel ffan mawr o'r Panics gynt, dwi'n hoff iawn o Fflur Dafydd ond does braidd neb yn gwrando ac mae hyn yn effeithio ar ei pherfformiad. Dwi'n hapus iawn achos mae'n canu 'Pethau Rhyfedd' sy'n g芒n y Panics ac yn wych.

Mae Fflur yn newid rhwng ei git芒r a'i hallweddellau gyda Rhys 'Barf' - sydd hefyd yn Mattoidz - yn ychwanegu cyffyrddiadau cerddorol angenrheidiol yn y cefndir.

Siomi braidd
Dyfrig 'Topper' Evans sy'n ymddangos nesa' a dwi wedi'n siomi braidd gan mod i'n ffan o Topper ac wedi edrych ymlaen i weld ei set acwstig.

Ond mae'r set yn gwella wrth iddi fynd yn ei blaen er mae'n edrych yn reit debyg ei fod yn meimio! Trio bod fel Gruff Rhys efallai?!

Dydyn ni ddim yn siwr os mai ni sy'n gweld/clywed pethau neu os yw e'n trio bod yn glyfar gyda'i laptop gan l诺pio'r llais er mwyn peidio gorfod canu cymaint.

Ta beth, dyw e ddim wir yn gweithio!

Erbyn hyn, dwi wedi cael digon o stwff acwstig... Diolch byth am Alun Tan Lan felly gyda'i gerddoriaeth 'gwahanol' felly!
Hmmm... Falle ddim!

Hoff iawn
Ond dwi'n hoff iawn o Alun Tan Lan, a braf yw clywed mwy o ganeuon o'i albwm newydd 'Distawrwydd'. Mae'n chwarae fy hoff g芒n - Aderyn Papur - ond i fod yn onest dwi'n meddwl fod pawb wedi cael digon ac yn reit 产么谤诲 erbyn hyn.

Roedd pob set yn dda yn unigol ond fel cyfanrwydd roedd y noson yn reit aniddorol oherwydd y diffyg amrywiaeth mewn cerddoriaeth.

Petai un band gyda mwy o egni wedi bod yn rhan o'r noson yn rhywle byddai pobl wedi talu mwy o sylw.

Ond bai y trefnwyr, nid y perfformwyr oedd hyn.


Mwy o storiau Dydd Mawrth


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy