|
|
Lowri Johnston yn gig Brwydr y Bandie a Radio Luxembourg, Maes B Awst 1
Mae'n wych bod cymaint o gigs yn wythnos yr Eisteddfod o safbwynt y s卯n gerddoriaeth Gymraeg - ond mae'n anodd gorfod dewis rhyngddynt!
Dwi methu penderfynu o gwbl rhwng gig Cymdeithas yr Iaith ym Mangor a gig Brwydr y Bandie, Maes B...
Ond maes B sy'n mynd 芒 hi yn y diwedd a hynny ar 么l taflu ceiniog. Dwi'n gobeithio felly fod y geiniog wedi gwneud y dewis cywir!
Yn anffodus dwi'n cyrraedd y gig wrth i set y band cyntaf ddirwyn i ben!
Datblygu'n aruthrol Ond Mr McFee sydd ymlaen nesaf, a dwi heb weld rhain ers iddynt ddod yn ail yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau, Uned 5, ddwy flynedd yn 么l.
/>Yn fand ifanc o ardal Dinbych, mae wedi datblygu yn aruthrol dros y ddwy flynedd ddiwetha'.
Gyda dylanwadau Mogwai, Sigur Ros a Radiohead yn amlwg yn y caneuon, dyma fand sy'n wahanol i unrhyw fand arall ar y s卯n ar y foment, heblaw Mwsog sy'n dod o'r un ardal...!
Ond mae'n fand ifanc ac mae lle i ddatblygu llawer eto.
Maen nhw i gyd yn abl iawn ar eu hofferynnau a chyda mwy o ymarfer a pherfformiadau byw, mae'r potensial yna i ddatblygu i fod yn fand gwych.
Ar ei orau Yn anffodus dwi'n colli'r band nesa' hefyd wrth fynd i fwydo'n mola yn y Gorlan!
Ond dwi n么l yn y gig erbyn Ha Kome sydd ar ei orau heno gyda rhan helaeth o'r gynulleidfa yn dawnsio.
Band ysgafn o Grymych yw Ha Kome, "Y Thrills Cymraeg" yn 么l un o'r gynulleidfa, ac mae eu sengl cyntaf allan yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Plant Duw o Fangor sydd ymlaen nesaf a rhain sy'n disgleirio yn y gystadleuaeth yn bendant. Caneuon tyn a pherfformwyr da iawn. Edrych ymlaen i glywed mwy ganddynt!
Enillwyr Brwydr y Bandiau C2 sydd ymlaen nesaf sef No Star. Dwi ond yn gweld y g芒n olaf sef fersiwn o Sosban Fach sy'n dda iawn! Cystadleuaeth o safon uchel iawn gyda phob band yn plesio.
Mwy profiadol Radio Luxembourg sy'n cloi'r noson ac mae'r gwahaniaeth rhwng band mwy profiadol 芒 bandiau y gystadleuaeth yn fawr. Er mod i 'di gweld Radio Luxembourg nifer o weithiau, dyma'r perfformiad orau i fi weld gyda'r gynulleidfa yn mynd yn wallgo!
Noson wych o gerddoriaeth gyda pawb i'w gweld yn mwynhau. Braf gweld cymaint o botensial ym mandiau Cymru.
|
|
|
|
|
|