大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Dafydd Wigley Galw am arian Cynulliad
Angen arian llywodraeth leol hefyd
Mae cadeirydd pwyllgor cyllid Eisteddfod Eryri yn gobeithio y bydd ymdrechion "rhyfeddol" pobl yr ardal i godi arian yn fodd i berswadio Gweinidog Diwylliant y Cynulliad Cenedlaethol i roi ei law yntau yn ei boced i helpu'r Brifwyl.

Wrth s么n am drafferthion ariannol yr Eisteddfod yn gyffredinol dywedodd Dafydd Wigley wrth 大象传媒 Cymru'r Byd ei bod yn hollbwysig adfer y lefel o gefnogaeth ariannol i'r Eisteddfod gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Ychwanegodd ei fod yn obeithiol y bydd hynny yn digwydd.

Gweld yr ymdrech
"Rydw i'n meddwl, efallai fod Alun Pugh wedi bod yn dal yn 么l er mwyn gweld fod y Steddfod ei hun yn cymryd camau penodol - ac mae hynny'n iawn, achos lle mae arian cyhoeddus yn mynd mae'n rhaid bod yn ddarbodus iawn.

"Ond dwi'n gobeithio, o weld yr ymdrech sydd wedi bod yn Eryri y bydd o'n gweld bod yna frwdfrydedd a chefnogaeth ac os yr ydym ni yn gwneud ein rhan fel hyn y bydd o'n tybio ei bod yn iawn i'r Cynulliad wneud ei ran hefyd," meddai.

Bu'r ymdrech i godi arian mor llwyddiannus yn Eryri mae Mr Wigley a chadeirydd y pwyllgor gwaith, Richard Morris Jones, yn hyderus y bydd yr eisteddfod hon yn llwyddiant ariannol os dim arall.

Ymateb rhyfeddol
"Mae'r ymateb wedi bod yn rhyfeddol. Yr oeddem wedi gosod targed o 拢263,000 i'r gronfa leol ac yr yda ni bron 拢70,000 uwchben y targed hwnnw yn barod," meddai Mr Wigley.

Ysgrifennydd a chadeirydd y pwyllgor cyllid - Gewraint Jones a Dafydd Wigley"Roedd yna darged o 拢400,000 ar gyfer y gronfa nawdd ac ryda ni wedi pasio hynny.O safbwynt gwerthiant tocynnau ein gobaith yw y bydd yna hanner miliwn wedi dod i gyd; mae 2000,000 yn barod wedi'u gwerthu sydd yn gychwyn rhyfeddol," meddai.

Talodd deyrnged nid yn unig i gyfranwyr yn lleol ond yn genedlaethol.
"Mae yna gwmn茂au lleol a chwmn茂au cenedlaethol wedi noddi'n rhyfeddol ac wedi bod yn barod i fynd y cam ychwanegol - efallai o wybod ei bod yn argyfwng ar yr Eisteddfod ac felly am sicrhau na fydd yna ddim colled yma yn Eryri," meddai.

Problemau dyrys
Ond y mae Mr Wigley mor ymwybodol a neb; faint bynnag o lwyddiant fydd yna yn Eryri y bydd yn rhaid mynd i'r afael a phroblemau dyrys dros y misoedd nesaf os yw'r Eisteddfod i barhau.

"Mae angen cael cyfundrefn fydd yn galluogi'r Eisteddfod i fynd i unrhyw un o'r 22 o siroedd yng Nghymru - a phe byddai pob sir yn gallu cytuno eu bod nhw'n cyfrannu 拢25,000 yr un bob blwyddyn yna fe fyddai yna ddigon o warant o safbwynt Llywodraeth Leol i alluogi'r steddfod fynd i bob ardal yn ei thro.

"Fe fyddai hynny'n ddelfrydol ac mi rydw i'n gobeithio y bydd hynny yn digwydd," meddai Mr Wigley.

Y Cynulliad
Yngl欧n a pherthynas y Cynulliad a'r Eisteddfod dywedodd:
"Mae'n bechod fod yna dorri'n 么l wedi bod ar yr arian gan y Cynulliad rai blynyddoedd yn 么l drwy'r Bwrdd Iaith.

"Pe na byddai'r torri n么l yna wedi digwydd fyddem ni ddim wedi gweld yr arian wrth gefn yn rhedeg i lawr ac fe fyddem ni wedi bod mewn sefyllfa heb argyfwng rŵan.

"Beth sydd angen ei wneud, wrth gwrs, ydi ailsefydlu'r lefel yna o gefnogaeth a phe byddai modd gwneud hynny fe fyddem ni'n iawn.

"O gael gwarant o'r lefel yna o gefnogaeth gan y Cynulliad - ac mae'r Bwrdd Iaith r诺an yn mynd i fod yn rhan o'r Cynulliad - a gwarant o 拢25,000 gan siroedd Cymru fe fyddai'r ddau beth yna efo'i gilydd yn sicrhau fod y cyllid yn iawn a'r rhwyddineb i fynd i unrhyw ran o Gymru," meddai.

Mae disgwyl y bydd Mr Wigley yn dweud rhagor am gyflwr ariannol yr Eisteddfod yn ystod ei araith ddydd Mercher fel Llywydd y Dydd.



Mwy o storiau y Penwythnos cyntaf


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy