|
|
|
Gwilym dydd Sadwrn Ergydion o'r Steddfod bob dydd |
|
|
|
Ydych chi'n bwriadu dod ar bererindod i Steddfod Fawr Snowdonia eleni? Gobeithio eich bod chi.
Mae angen pob copa walltog i fynd drwy'r clwydi.
Yn wir, yn 么l ffigurau y Steddfod ei hun, rhaid gwerthu gwerth 拢530,000 o docynnau os ydi Prifwyl Eryri i ddangos elw o 拢5,000 ar y diwedd.
Ydi, mae pethau mor ddrwg a hynny ar yr hen jyncet fawr.
Ond cofiwch, dydi hi ddim yn "argyfwng" ar y Brifwyl. Yn 么l Llywydd y Sanhedrin, mae'r gair "argyfwng" yn d芒n ar ei groen - Er bod y Steddfod yn hercio o un twll ariannol i'r llall, Er bod ansicrwydd yngl欧n 芒 chael lle i roi ei phen i lawr yn 2007, Er bod yr awdurdodau lleol yn methu cytuno ar gynllun ariannu newydd, Er bod Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi comisiynu adroddiad sy'n ddifr茂ol o weinyddiaeth y Steddfod Ac er bod Alun Pugh, y Gweinidog Diwylliant, wedi pwysleisio nad oes siec benagored ar gael - eto i gyd chaiff neb awgrymu ei bod hi'n "argyfwng".
Felly, peidiwch meiddio defnyddio'r gair ar Faes y Faenol.
Cyrraedd y Maes Hynny ydi, wrth gwrs, os byddwch chi wedi llwyddo i gyrraedd y maes o gwbl.
Nid codi bwganod ydi awgrymu y gallai yna fod broblemau trafnidiaeth mawr ym mro'r Brifwyl eleni.
Ym marn y Sanhedrin, ddwy flynedd yn 么l, ac ar 么l cryn gecru a dadlau dim ond yn y Faenol y gellid cynnal Eisteddfod Eryri.
Mae ardderchog medda nhw, gyda phob cyfleustra ac efallai bod hynny'n wir.
Ond sut mae cyrraedd y nefoedd ar y ddaear hon?
Y gwir amdani yw nad oes yna ond un fynedfa a honno yw'r ffordd allan hefyd.
Mae posibiliadau tagfeydd traffig erchyll yn yr ardal. Hynny ydi, os na ellir cael bylchau mawr yn waliau'r stad - ond ni ddigwyddodd hynny.Archdderwydd newydd Ond rhoswch funud, dydi pethau ddim yn ddrwg i gyd.
Mae gan Orsedd y beirdd Archdderwydd newydd. Daeth tymor Robyn Ll欧n i ben a chymerodd Selwyn Iolen ei le - a synnwn i ddim nad ydi'r Sanhedrin yn falch fod y newid wedi digwydd.
Doedd yr Archdderwydd Robyn ddim yn brin o dynnu blewyn o drwyn y weinyddiaeth eisteddfodol ac fe fu'n dipyn o bloryn ar eu penolau.
Cerrig plastig Ac mae gan y Gorseddigion gylch newydd, plastig, eleni a hynny ar y Maes ei hun.
Mae'n drist meddwl na chafodd John Roberts Williams, cenhadwr mawr y datblygiad plastig, fyw i weld gwireddu ei freuddwyd - ond dwi'n si诺r y bydd o'n edrych i lawr ac yn gwenu!
Heb feithrin Datblygiad arall sy'n haeddu canmoliaeth yn Steddfod Fawr Snowdonia ydi'r penderfyniad i gael gwared o'r feithrinfa er mwyn arbed arian. Go dda'r Sanhedrin! Pam ddylai mamau dosbarth canol Cymraeg ddympio eu hepil ar wirfoddolwyr tra'n mwynhau eu hunain yn ymdrybaeddu yn niwylliant y genedl - medda nhw.
Eleni, ewch a'ch plant efo chi, dyna'r neges eisteddfodol - a da o beth hynny.
I Lerpwl? A siawns na ddaw Steddfod y Faenol a phob math o ddatblygiadau eraill i'r amlwg. Efallai y bydd yr hyn na allwn ei alw yn argyfwng yn gorfodi Prifwyl 2007 i roi ei phen i lawr yn Lerpwl.
Efallai y bydd rhywun o blith y bosus eisteddfodol yn ddigon mawrfrydig i ddatgan mai annheg yw beio penderfyniad Bwrdd yr Iaith i gwtogi grant y Steddfod yn unig am y sefyllfa nad yw yn "argyfwng" - a bod peth o'r cyfrifoldeb arnyn nhw - y Sanhedrin.
Byd papur Ac yn bwysicach na dim, i mi, efallai y daw Ned Thomas a Chwmni Dyddiol Cyf i Brifwyl Snowdonia i gyflwyno Golygydd y papur dyddiol hirddisgwyledig, Y Byd.
Ond dyna fo, peth braf ydi breuddwydio ynte? Gwela i chi ar y Maes - neu yn y ciw yn y car!
Bydd Gwilym Owen yn darlledu'n ddyddiol o'r Steddfod ar y Post Cyntaf bob bore ar 大象传媒 Radio Cymru.
|
|
|
|
|
|