大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llio Rhydderch Llio Rhydderch
CD newydd a chyngerdd
Bydd y wraig sy'n cael ei chydnabod yn frenhines gyfoes y delyn deires yng Nghymru yn cynnal cyngerdd arbennig yn yr Eglwys Gadeiriol ym Mangor nos Lun yr Eisteddfod.

Bydd y cyngerdd yn cyd-fynd a chyhoeddi CD ddiweddaraf Llio Rhydderch, Gwenllian.

Fel mae'r enw'n awgrymu ysbrydolwyd y CD gan hanes y Dywysoges Gwenllian, merch Llywelyn Ein Llyw Olaf a ddiweddodd ei dyddiau yn alltud yn Sempringham yn neheudir Lloegr.

Dywedodd Llio, sy'n byw ar Ynys M么n iddi deithio i Sempringham pan yn paratoi'r gerddoriaeth a chanu'r delyn yn yr eglwys yno.

"Yr oedd yn brofiad emosiynol ac arbennig iawn. Yr oeddwn yn teimlo fod rhyw agosatrwydd rhwng Gwenllian a minnau wedi ei sefydlu yno," meddai.

Ychwanegodd fod ei magwraeth hi ar lannau'r Fenai, a chysylltiad Gwenllian a glannau'r Fenai wedi tynhau y cwlwm hwnnw.

Bydd cerddoriaeth oddi ar y CD i'w chlywed yn y cyngerdd sy'n dechrau am hanner awr wedi saith, Awst 1, yn yr Eglwys Gadeiriol ym Mangor.

Bydd y cyngerdd yn cynnwys cerddoriaeth draddodiadol Gymreig gyda thelynores sydd yn ymwybodol iawn ei bod yn parhau 芒 thraddodiad o ganu telyn a drosglwyddwyd iddi gan ei hen athrawes, Nansi Richards, Telynores Maldwyn a hwnnw'n draddodiad gwerin sy'n ymestyn yn 么l ganrifoedd.

Bydd hefyd gyflwyniadau o farddoniaeth a cherddoriaeth frodorol o Estonia.

Yn cymryd rhan gyda Llio Rhydderch bydd; Elin Wyn Jones (telyn deires), Ceri Rhys Matthews (pibau a ffliwt), Y Prifardd Emyr Lewis yn darllen ei gerddi, Martin a Sille Leamon, canu, git芒r a lyre.
Arweinydd y noson fydd Arfon Gwilym.

GwenllianGwenllian fydd pedwaredd CD Llio Rhydderch mewn cyfres o recordiadau arbennig o gerddoriaeth i'r delyn deires.

Bu't tair arall - Telyn, Melangell ac Enlli a ymddangosodd dan label Fflach: Tradd (Aberteifi) yn llwyddiant mawr.

Mae'r gerddoriaeth yn adlewyrchiad o hanes Gwenllian o'r crud ar Lannau Menai hyd at ei chyfnod ym Mhriordy Gilbertine yn Sempringham, Swydd Lincoln.

Noddir y cyngerdd gan Gwmni Recordiau Fflach (Aberteifi) ac Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Cymru, Bangor.

Pris tocyn yw 拢6 o Theatr Gwynedd, Bangor. (01248) 351708. post@theatrgwynedd.co.uk


Hanes Llio Rhydderch


Mwy o storiau y Penwythnos cyntaf


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy