Ysgol Glanaethwy, Dawnswyr Nantgarw, Band Jas Ieuenctid Gwynedd a M么n a Ch么r CF1 oedd y perfformwyr. Ymhlith yr unigolion yr oedd Iddon Alaw, Owen Arwyn, Rhian Blythe, Def Taylor, a Carys Eleri. Talu teyrnged
Roedd y sioe, a oedd yn llawn o ganeuon, cerddi a chwedlau am y m么r ac ardal yr Eisteddfod yn gyfle "i dalu teyrnged i gyfraniad enfawr a gwerthfawr J. Glyn Davies i ganu'r Cymru", meddai Cefin Roberts yn Rhaglen yr Eisteddfod.
J. Glyn Davies yw awdur y g芒n Fflat Huw Puw (a llinell o'r g芒n hon yw'r teitl Sgidie Bach i Ddawnsio) Pwy sy'n Dwad Dros y Bryn, a llawer iawn mwy.
A dyna a gafwyd yn y Pafiliwn ar nos Iau. C么r Glanaethwy a ch么r CF1 yn perfformio detholiad o'r caneuon lleol eu naws yma, gyda llefaru yn dolennu'r cyfan. Cafwyd cyfraniadau gan ddawnswyr Nantagrw, a oedd yn ychwanegiad effeithiol i'r sioe.
Chwedlau a cherddi
Chwedlau a cherddi am hen sir Gaernarfon, oedd yn ddolen gyswllt rhwng yr eitemau cerdd. Roedd Iddon Alaw yn chwarae rhan bachgen o'r enw Huw, a thrwy ei gyflwyniadau yntau a'r actorion eraill y clywyd nifer o gerddi am yr hen sir Gaernarfon, ardal yr Eisteddfod eleni. Cafwyd rhannau o gerddi megis Hon gan T. H. Parry Williams, a detholiad o ddrama Blodeuwedd, Saunders Lewis. Teimlais fod y rhan hwn yn mynd ymlaen ychydig yn rhy hir - ond efallai nad oedd oerfel y pafiliwn erbyn hyn yn help. Rhaid dweud er hynny bod perfformiad Rhian Blythe fel Blodeuwedd yn sefyll allan, gyda'i datganiad naturiol yn effeithiol iawn.
Y Perfformio
Fel a ddisgwylid gan gorau mor broffesiynol 芒 Glanaethwy ac CF1 o Gaerdydd, roedd y perfformio yn gaboledig iawn. Roedd sglein ar y datganiadau a'r bobl ifanc i gyd i'w gweld yn mwynhau. Roedd perfformiadau c么r CF1 i mi yn arbennig o dda. Uchafbwynt personol arall oedd perfformiadau Band Jas Ieuenctid Gwynedd a M么n a'u datganiadau unigol yn enwedig yr elfen gerdd dant gyda'r delyn, dyma gerddorion hynod o dalentog ac yn amlwg wrth eu bodd yn perfformio.
Rhaid cwestiynu un neu ddau beth - er enghraifft a oedd gwir angen Sion Corn yn ymddangos ar y llwyfan wrth i'r c么r ganu 'Pwy Sy'n Dwad Dros y Bryn?' Tarrodd hyn fi yn reit od a dweud y lleia', doedd hyn ddim yn ychwanegiad i'r sioe yn fy marn i.
Roedd cyfraniad dawnswyr Nantgarw yn arbennig, a phob un o'r dawnswyr eto yn amlwg yn mwynhau ac roedd eu gwylio'n clocsio yn arbennig.
Detholiadau hir
Fel a soniais uchod, roedd rhai o'r detholiadau llafar ychydig yn rhy hir yn fy marn i, ac roedd arddull adroddllyd y prif lefarydd ar brydiau yn ormod. Does dim amheuaeth bod gan Iddon Alaw dalent arbennig (mi enillodd y gystadleuaeth Llefaru unigol rhwng 16-19 oed yn gynnar yn yr wythnos), a phob clod iddo am ei berfformiad trwy gydol y sioe nos Iau, ond i mi ar brydiau roedd y gor lefaru yn amharu ar fy mwynhad o'r sioe yn ei chyfanrwydd. Ond barn bersonol yw hynny.
Byddai wedi bod yn dda o beth i dorri ychydig ar hyd y sioe gan fod y noson dipyn yn hir, ac roedd yna dipyn o aflonyddu yn y gynulleidfa erbyn y diwedd.
Er hynny, mi roedd hi'n noson o fwynhad, a llongyfarchiadau i'r perfformwyr a'r hyfforddwyr am sioe safonol.
ED