大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

大象传媒 VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


大象传媒 Homepage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Adolygiad

Codi hwyl tua'r America

5 Awst 2007

Miriam Powell-Davies a Lloyd Antrobus o Ysgol Glanrafon Yr Wyddgrug

Tristwch a gwewyr - ond y plant yn cael hwyl ar berfformio

Y stori

Ar y llwyfan

Ar y llwyfan

Yng ngoleuni'r ffaith fod Lerpwl wedi ei henwi yn Ddinas Diwylliant Ewrop 2008, seiliodd Tim Baker y ddrama gerdd hon ar hanes teulu a lwyddodd i ddianc o'r wyrcws i ddociau Lerpwl ac wedyn ymuno 芒 mordaith hir a chythryblus i'r America.

Roedd hi'n stori eithaf tywyll ei naws a dweud y gwir.
Pedwar o blant yn colli eu mam ac yna'n colli eu tad wrth iddo geisio achub ei feibion rhag tarw blin!

I'r wyrcws yr 芒'r tri ieuengaf tra bo'r chwaer hynaf yn cael ei gorfodi i fynd i'r America i weini.

Ar y llwyfan

Ar y llwyfan

Wedi dwyn allweddi'r warden, mae pawb yn dianc o'r wyrcws i ddociau Lerpwl lle mae'r tri o'r teulu Price yn canfod eu chwaer hynaf - hithau hefyd wedi llwyddo i ddianc rhag mynd i'r America.

'Y fordaith fawr' ddaw wedyn, gyda phawb islaw bwrdd llong sydd a'i golwg at America. Yn sydyn mae'r chwaer ieuengaf yn cael ei tharo'n wael ac yn marw cyn diwedd y daith.

Adolygiad Mari Pritchard

Teimlais fod rhai elfennau o'r stori wedi eu brysio ymlaen, yn enwedig tua'r diwedd. Defnyddiwyd arddull naratif i gyfleu darnau helaeth o'r stori ac i mi, fe gollwyd cyfle i ddadlennu pwyntiau allweddol y stori yn fwy dramatig.

Canmol y prif gymeriadau

Rhaid canmol y pedwar prif gymeriad am eu gwaith ar y llwyfan, yn enwedig felly, Mari Price am ei pherfformiad emosiynol yn ystod yr unawd.

Roedd y pedwar yn amlwg yn mwynhau perfformio ac mi wn y bydd hwn yn brofiad bythgofiadwy iddynt hwythau - fel ag yr oedd i bawb ar y llwyfan neithiwr.

Roedd sain y canu yn dda a phwerus o'r dechrau i'r diwedd a chafwyd priodas hapus a chyfforddus rhwng geiriau Tudur Dylan Jones a cherddoriaeth Dyfan Jones.

Ysu am harmoni

A chysidro cryfder y canu, roeddwn yn synnu na chlywsom ni ddim deulais tan ymhell i grombil y sioe gan fy mod yn ysu i glywed harmoni o rywle!

Roedd y caneuon yn sicr yn cydio a byddai mwy o gyfalawon wedi ategu llawer at y gwaith! Un o gryfderau'r perfformiad, heb os oedd disgyblaeth y corws ar y llwyfan. Mae cadw trefn ar nifer fawr o blant - a'r rheini yn blant ifanc - yn her a llwyddwyd i gadw'r perfformiad yn dwt a threfnus drwyddo.

Roedd pawb ar y llwyfan gydol y perfformiad ac yn amlwg yn gwybod lle i fynd nesaf, lle i symud a phryd i aros yn llonydd.

Cadw'r corws

Roeddwn yn falch o weld y corws yn rhan o'r stori gydol y daith gan ei bod yn demtasiwn, o safbwynt cadw trefn, i roi'r corws i eistedd mewn rhesi twt ar y llwyfan dim ond i godi i ganu bob hyn a hyn.

Rhan o'r corws

Gwneud defnydd da o'r corws

Yma, defnyddiodd Tim Baker a'r coreograffydd, Angharad James, y corws mewn sawl ffordd i greu darluniau ar y llwyfan.

Roedd pawb yn amlwg wedi gweithio'n galed ac wedi mwynhau.

Dywedai cefnogaeth y gynulleidfa - a oedd ar ei thraed ar ddiwedd y perfformiad - y cyfan!



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy