大象传媒

Gwilym Owen

Steddfod Gwilym - Gwener

Ambell i frathiad o Bontcanna

O wersyll cynnull Pontcanna, henffych ar fore Gwener.

A braf yw cael cyhoeddi fod y stondinwr anhydrin oedd yn gwrthod plygu i reolau iaith y maes bellach wedi ufuddhau i orchmynion y ddau blismon iaith eisteddfodol.

Ac mae pawb yn hapus.
Ond nid cweit efallai. Dim ond un plisman ddaeth at ei waith ddoe, y Parchedig Meirion Lloyd Davies oedd hwnnw ond ble roedd Plisman Rhif 2, Eifion Lloyd Jones?

Roedd chwarae golff, fe ymddengys yn bwysicach i hwnnw. Twt twt.

Anghydfod c么r

Mi fydd hi'n noson fawr i G么r y Steddfod nos yfory, ond tydi pawb yn 么l sibrydion ddim yn hapus efo'r dull a ddefnyddiwyd i ddewis aelodau eleni.

Dim gwahoddiad agored i bawb. Yn hytrach dewis o blith nifer o gorau bro'r Steddfod. Oes yna wirionedd tybed yn y cyhuddiad?

Pa lywodrae4th/

Fe gafwyd datganiad herfeiddiol arall gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ddoe ar fater deddfwriaeth ieithyddol. Ylwch medda nhw, rydan ni yn rhoi y rhybudd ola i'r Llywodraeth.

Ond y cwestiwn ydi pa lywodraeth - yr un yn San Steffan ynteu yr un yng Nghaerdydd - a beth mae'r term rhybudd olaf yn ei olygu. Amwys iawn.

Ar ei ben ei hun

Ac amwys hefyd ydi brawddeg gynta'r cyflwyniad a gaiff yr Arglwydd Elis Thomas wrth gael ei urddo'n dderwydd er anrhydedd yn Seremoni'r Orsedd y bore ma.

Mae o'n sefyll ar ei ben ei hun ymhlith gwleidyddion ymhlith gwleidyddion Cymru medda nhw.

Ond dowch, dowch, swydd y dyn unig ydi swydd Llywydd y Cynulliad.

A chan i'r Arglwydd ddeud wrtha i nad ydy o'n hoffi fy nghyfeiriadau ar Nedwyn y ci - ga i ddeud fod y cyfaill pedair coes yn anfon ei gofion at y Derwydd newydd y bore ma.
A oes heddwch?

Ar goll

Yn 么l rwan at gystadleuaeth gynta yn y Pafiliwn bore ddoe. Dechreuodd pethau'n hwyr. Dim ond pedwar allan o'r deg parti ar gyfer y Grwp Offerynnol agored drodd i fyny ac roedd yna banel o bedwar o feirniaid yn cloriannu. Wel, Wel.

Gradd arbe4nnig

A neithiwr cyflwynodd Prifysgol Cymru wobr gerddorol arbennig i Cerys Matthews y gantores a nos Sadwrn bydd y cerddor Karl Jenkins yn derbyn gwobr debyg.

Ac yn 么l Hugh Thomas, Llywydd y Steddfod a Chadeirydd y Brifysgol, y gobaith ydi y bydd gwobrau'r Brifysgol yn para am flynyddoedd. Sgwn i a fase fo mor hyderus tasa fo fel fi wedi clywed un o wleidyddion amlycaf ein cenedl yn taranu ar y maes yma fod yr amser wedi dod i ddileu Prifysgol Cymru oddi ar fap academaidd y genedl. Och!

Cyfarfyddiad annisgwyl

Cyfarfyddiad annisgwyl oedd hwnnw rhwng eisteddfodwraig ddienw a'r cyn-Archdderwydd Robin Ll欧n. Hithau'n gofyn am gael golwg ar y bathodyn oedd o'n wisgo. Ac ar 么l syllu'n hir dyma hi'n deud, "O cyw Archdderwydd ydach chi felly?"

Machraeth

A chydymdeimlad i orffen efo Machraeth, capten t卯m Ynys M么n yn Ymryson y Beirdd. Hedfan ar awyren Ieuan Air o'r Fali i Gaerdydd yn un swydd ar gyfer yr ornest Ymryson y Beirdd a mynd allan yn y rownd gynta. Jet lag wedi cloffi'r awen mae'n siwr. Creulon iawn!

O gaeau Pontcanna ar derfyn wythnos, bore da i chi.

Bu Gwilym Owen yn darlledu o'r Eisteddfod bob bore ar y Post Cyntaf. Gellir darllen ei gyfraniadau o glicio ar y diwrnodau Llun i Gwener.


大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.