大象传媒

Beth yw'r Eisteddfod

Pafiliwn

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau, rhwng 1 - 8 Awst, 2009 yn Y Bala.

G诺yl gelfyddydol sy'n cael ei chynnal yn flynyddol, yn y de a'r gogledd bob yn ail yw'r Eisteddfod Genedlaethol. Mae'n ddigwyddiad allweddol yn y calendr Cymreig ac eleni Y Bala fydd yn gartref i'r 诺yl.

Gellir ei disgrifio fel g诺yl dalent genedlaethol mewn cystadlaethau amrywiol o ddawnsio i lefaru, canu i fandiau pres a'r cyfan yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn rhan o'r 诺yl, cynhelir cyngherddau nosweithiol ac yn 2009 bu'r artistiaid Rhydian (X Factor) a ch么r Only Men Aloud yn cymryd rhan yn un o'r cyngherddau, ymhlith nifer o enwau eraill. Cynhelir gigs amrywiol bob nos, dram芒u, comedi ac arddangosfeydd o gwmpas yr Eisteddfod ac oddi ar y maes swyddogol.

Pryd mae'n digwydd?

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau, rhwng 1 - 8 Awst, 2009 yn nhref Y Bala.

Croeso i bawb

Mae croeso i bawb i'r Maes, o'r Eisteddfodwyr selog i'r rhai chwilfrydig sy'n ymweld am y tro cyntaf. Mae rheol uniaith Gymraeg yn yr Eisteddfod ac er bod yr holl gystadlu'n digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg, mae croeso i'r rhai sydd ddim yn siarad yr iaith. Mae offer cyfieithu ar gael i'w casglu yn y Ganolfan Groeso wrth gyrraedd y Maes.

Beth i ddisgwyl?

Mae'r Eisteddfod yn denu, ar gyfartaledd dros 150,000 o ymwelwyr gydol yr wythnos (164,689 yn Y Bala yn 2009 a 156,697 yng Nghaerdydd yn 2008). Y pafiliwn mawr pinc yw canolbwynt yr 诺yl - yno mae'r cystadlu'n digwydd o gerddoriaeth a barddoniaeth i lefaru a dawnsio. Daw'r cystadlu i ben gan amlaf tua 4.30pm fel bod y prif seremon茂au yn gallu cymryd eu lle ar y llwyfan - y Coroni ar ddydd Llun, Gwobr Goffa Daniel Owen ar ddydd Mawrth, y Fedal Ryddiaith ar ddydd Mercher, a'r Cadeirio ar y dydd Gwener. Ar nos Fercher a nos Wener yr Eisteddfod mae'r cystadlu'n ail gychwyn ar 么l y seremon茂au ac yn parhau tan yr hwyr.

Pris mynediad?

Tocyn Diwrnod i'r Maes yn 拢15 i oedolion, 拢10 i bensiynwyr, plant yn 拢8 (12-18 oed) a 拢3 (dan 12 oed) (prisiau 2009). Gweler .

O gwmpas y Maes a thu hwnt

Os nad y cystadlu sy'n mynd 芒'ch bryd chi, gallwch dreulio diwrnod ar faes yr Eisteddfod heb fynd i mewn i'r pafiliwn pinc, gan bod cymaint o bebyll eraill i ymweld 芒 nhw. Theatr y Maes, arddangosfeydd celf a chrefft, y Babell L锚n, Maes D (pabell y Dysgwyr) yn ogystal 芒 stondinau ac arddangosfeydd yn gwerthu dillad, gemwaith, llyfrau a nwyddau o bob math. Mae nifer o stondinau bwyd o gwmpas y maes, a bar yn gwerthu alcohol hefyd.

Mae pethau'n digwydd ar y Maes ac o gwmpas y dref yn ystod yr wythnos, gan gynnwys dram芒u, cyngherddau, barddoniaeth a chomedi, perfformiadau gan grwpiau lleol a nifer fawr o gigs amrywiol bob nos.

Maes D - Mae 'D' yn sefyll am 'Dysgwyr' - Wedi ei leoli ar faes yr Eisteddfod dyma babell i'r rhai sy'n dysgu Cymraeg. Mae'r gweithgareddau yma yn amrywio o sgyrsiau difyr i chwarae gemau i gystadleuthau.

Maes C - Wedi ei leoli ar y maes carafanau, nepell o faes yr Eisteddfod. Mae'r adloniant nosweithiol a gynhelir yma wedi ei anelu at y teulu cyfan. Roedd arlwy 2009 yn amrywio o'r Stomp flynyddol a Thalwrn Tafarn gyda Twm Morys i gigs Mynediad am Ddim, Elin Fflur, Tebot Piws, Gwibdaith Hen Fran a mwy.


Canlyniadau

C么r Cynta i'r Felin

Rhestr lawn

Canlyniadau'r wythnos yn llawn.

C2

Cyfweliad gyda Gwyneth Glyn

Yn y Steddfod

Lluniau a chlipiau ecscliwsif o gigs yr Eisteddfod.

大象传媒 Lleol

Cerflun yn nhref Y Bala

Y Bala

Adnabod tref Y Bala ar wefan 大象传媒 Lleol i'r gogledd orllewin.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.