大象传媒

Gwen Owen

Y planedau ar r锚ls

Taith y planedau ar y Maes

Athrawes o Ysgol Glantaf fydd yn cadw'r byd a'r planedau yn llythrennol 'ar y r锚ls' yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Yr oedd Gwen Owen, o Lanedwen Ynys M么n yn wreiddiol, wrthi'n brysur fore Gwener yn paratoi arddangosfa, y tu allan i'r Babell Wyddoniaeth a Thechnoleg, o gyfundrefn yr haul gyda'r planedau yn cylchdroi ar reilffordd fechan o amgylch yr haul.

Paratoi'r arddangosfa ddoe

"A phob rhyw bum munud fe fydd yna gomed nad yw i'w gweld weddill yr amser yn ymddangos yn annisgwyl," meddai.

Cynlluniwyd yr arddangosfa 'planedau ar r锚ls' gan Gwen, sy'n athrawes Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Glantaf, a Guto Roberts, cyn gadeirydd y pwyllgor gwyddoniaeth a thechnoleg.

Yn ystod yr wythnos bydd Gwen yn gofalu hefyd am gystadleuaeth boblogaidd "Wil i'w Wely" y Babell Wyddoniaeth.


大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.