大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Adloniant
Mark Lewis Jones fel DCI Bing yn 55 Degrees North
Mark Lewis Jones

Ganwyd: 1964

Magwyd: Rhosllannerchrhugog

Addysg: Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam; Coleg Cerdd a Drama, Caerdydd


Actor sy'n wyneb cyfarwydd ar deledu Cymraeg a Saesneg.

Perfformio mewn drama ar lwyfan Ysgol Morgan Llwyd a sbardunodd yr hogyn o Rhos, Mark Lewis Jones, i ddewis byd y ddrama fel gyrfa.

Mae'n cyfaddef nad oedd fawr ddim arall yn mynd 芒'i fryd yn fachgen ifanc: "Doedd gen i ddim diddordeb mewn dim byd," meddai Mark. "Ond pan o'n i'n 16 oed roedd yr ysgol yn perfformio Culhwch ac Olwen. Roedd bod ar lwyfan yn rhywbeth newydd iawn i mi a wnes i fwynhau'r profiad."

Mae wedi talu teyrnged i'w athrawes ddrama yn Ysgol Morgan Llwyd, Gwawr Dafis - Mason gynt - am annog ei ddiddordeb ym myd y ddrama.

Aeth ymlaen i actio gyda Theatr Ieuenctid Clwyd a chael ei hyfforddi yn Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd. Bu hefyd actio gyda'r Royal Shakespeare Company ac yn theatr y Globe yn Llundain.

Mae'n adnabyddus am chwarae cymeriadau caled, pwerus, fel y Ditectif Russel Bing yng nghyfres ddrama'r 大象传媒 55 Degrees North sydd wedi ei gosod mewn gorsaf heddlu.

Yn 么l tudalen amdano ar wefan Wikipedia, mae wedi chwarae rhan plismon ddim llai na phum gwaith a milwr dair gwaith. Roedd hefyd yn filwr yn y gyfres deledu o'r 1990au, This Life, lle roedd yn chwarae rhan brawd y cyw gyfreithiwr o Gymro, Warren Jones.

Mae ei bapur bro lleol, Nene, yn dilyn ei hynt a'i helynt yn gyson:

  • Cyfnod prysur i actor
  • Gog yn creu trafferth yng Nghwmgwili

    Mae ei waith teledu arall yn Saesneg yn cynnwys Holby City, Spooks, Murphy's Law, Waking the Dead, The Bench a Torchwood.

    Yn y Gymraeg, mae wedi ymddangos mewn sawl cyfres ddrama ar S4C gan gynnwys, yn fwyaf diweddar, Con Passionate a Chalon Gaeth.

    Mae ei waith ffilm yn cynnwys Solomon a Gaenor gyda Ioan Gruffudd a Nia Roberts (mae'n chwarae rhan brawd Gaenor, Crad) a gafodd enwebiad am Oscar a'r blocbystyr Hollywood Master and Commander gyda Russell Crowe.

    Mae'n byw yng Nghaerdydd gyda'i bartner Delyth Jones, a rhyngddynt, mae ganddynt saith o blant.


  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy