Hynny ar 么l cyfnod prysur o deithio rhwng Caerdydd a Llundain yn ffilmio ychydig cyn y Nadolig roedd i'w weld ar 大象传媒3 yn un o benodau'r gyfres ffuglenwyddonol, Torchwood Nos Sul, lonawr 8.
Mark sy'n cymryd rhan un o'r prif gymeriadau mewn "ffilm serch gyfnod am densiynau cymdeithasol a theuluol" ar S4C, set Calon Gaeth.
Addasiad o'r nofel Saesneg, Small Country a sgrifennwyd gan Si芒n James yn y 1970au yw Calon Gaeth a Si芒n James ei hunan fu'n gyfrifol am lunio'r sgript yn Gymraeg ar gyfer y ffilm sinema a hefyd y ddrama bedair rhan ar gyfer y teledu; mae hi hefyd yn ymddangos fel un o'r ecstras yn y ffilm.
Mae'r ddrama deledu'n cynnwys cast o safon a gyda Mark gwelir Nia Roberts a Catrin Morgan. Mae un arall o fechgyn y Rhos yn cast, sef Dyfed Potter.
Roedd y ffilm Calon Gaeth yn un o ddwy ffilm gafodd sylw mawr yng Ngwyl Ffilmiau Caerdydd fis Tachwedd 2006.
Fel y gwyddom, nid yw gyrfa actio Mark byth yn segur. Yr wythnos hon bydd yn cyfarfod 芒'i gyd-actorion yn y darlleniad cyntaf o sgript The Commodores sydd wedi'i sgrifennu gan yr enwog Lynda La Plante, y nofelydd a'r lluniwr sgriptiau o Lerpwl.
Hi greodd y gyfres boblogaidd Widows a oedd ar y teledu yn yr wyth degau a hefyd cyfresi Prime Suspect a fu ar y sgrin fach rhwng 1991 - 2003 gyda Helen Mirren yn cymryd y brif ran.
Mae cysylltu enw Lynda La Plante ag unrhyw sgript yn sicr o dynnu sylw gwylwyr ac adolygwyr dramau teledu gan ei bod wedi ennill llu o wobrwyon am ei gwaith, gan gynnwys BAFTA ac Emmy.
Mark fydd yn cymryd prif ran y dyn yn y gyfres newydd a fydd yn cael ei ffilmo yn Llundain rhwng Chwefror ac Ebrill. Yr actores gyda Mark yn chwe phennod y gyfres fydd Amanda Burton.
Nid oes manylion eto pa bryd y bydd The Commodores ar y sgrin fach, naill ai yn yr haf neu'r Hydref, ond byddwn i gyd yn edrych ymlaen yn eiddgar at y gyfres.
Mae actio yn Gymraeg a ffiilmio ar gyfer S4C yn dal i fod yn bwysig iawn i Mark ac, yn 么l pob s么n, cawn gyfle i'w weld eto mewn trydedd cyfres o Con Passionate. Mae paratoadau am gyfres arall eisoes ar y gweill.
Gog yn creu trafferth yng Nghwmgwili - cyfweliad Ebrill 2006
|