C么r meibion sydd wedi cyrraedd brig y siartiau.
Denu sylw Hollywood
Mae'r stori am lwyddiant C么r y Fron ar 么l cael eu 'darganfod' yn canu mewn priodas bellach yn chwedloniaeth.
Cawsant gytundeb recordio gyda chwmni Universal Classics wedi i'r rheolwr Daniel Gatland eu clywed mewn priodas yn Llangollen. Enillodd eu halbwm gyntaf, Voices of the Valley, ddisg blatinwm yn 2007 ar 么l cyrraedd rhif un yn y siartau clasurol a rhif 9 yn siart 大象传媒 Radio 1 yn syth wedi ei ryddhau yn 2006.
Mae eu hail albwm, Voices of the Valley - Encore wedi sicrhau iddynt ddisg blatinwm am yr eilwaith yn 2008 am werthu dros 300,000 o gop茂au ers ei rhyddhau fis Tachwedd 2007.
Ond mae hanes y c么r sydd 芒 chyfartaledd oedran o 66 - 'boy band hyna'r siartiau' yn 么l rhai - yn mynd yn 么l i'r blynyddoedd wedi'r Ail Ryfel Byd pan aeth criw lleol ati i gefnogi'r Eisteddfod Ryngwladol newydd oedd yn cael ei chreu yn Llangollen i hybu heddwch wedi blynyddoedd du y rhyfel.
"Cafodd y c么r ei sefydlu ym 1947, pan ddaeth yr hogia oedd yn byw yn Froncysyllte ddychwelyd o'r Rhyfel," meddai Cyril Jones, aelod o G么r Froncysyllte ers dros ugain mlynedd.
"Yn y dyddiau hynny doedd fawr ddim i'w wneud ac felly fe sefydlwyd c么r a'r flwyddyn wedyn roedd digon i gystadlu yn Eisteddfod Llangollen.
"Nid oedd yn g么r mawr o'i gymharu 芒 heddiw ond fe dyfodd ac ymhen dwy flynedd rwy'n deall roedd rhyw 80 yn aelodau.
"Yn y blynyddoedd ers hynny fe gododd aelodaeth y c么r i dros gant ac roeddynt yn cystadlu bob blwyddyn yn Llangollen - dyna oedd eu prif beth bob blwyddyn.
"Mae'r c么r wedi bod yn ffyddlon iawn i Eisteddfod Llangollen a dwi ddim yn cofio'r un flwyddyn lle nad ydym wedi cystadlu yno.
"Dros y blynyddoedd rydym wedi gwneud yn dda yno ac wedi ennill ddwywaith. Mae pobl Llangollen yn ein gweld fel y c么r lleol.
"Rydym yn ymarfer ddwywaith yr wythnos yn Ysgol Acrefair a rhyw 60 sydd yn y c么r erbyn hyn.
"Mae'r C么r yn gwneud tair cyngerdd y flwyddyn i D欧 Eos yn Wrecsam ac yn ogystal 芒 Llangollen rydym hefyd yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ond nid bob blwyddyn.
"Rydym hefyd wedi teithio dros y m么r gan gystadlu ac ennill yn Athen a Malta. Mae'n rhaid i chi fynd i lefydd eraill a cheisio gwneud yn dda yn y fan honno.
"Rwyf wedi bod yn aelod o'r c么r ers ugain mlynedd ac mae'r cymdeithasu yn bwysig. Rydym yn edrych ymlaen at weld ein gilydd bob wythnos a dysgu darnau newydd.
"Rydym wedi recordio CD's o'r blaen ond dim byd mawr
"Bu Daniel Glatman o Lundain yn gwrando arnom mewn priodas yn Trefor Hall yn Llangollen y flwyddyn ddiwethaf.
"Dyma'n gaddo i ni bryd hynny y byddai'n cael cytundeb recordio i ni hefo Universal i wneud CD.
"Tydi hyn ddim y math o beth sydd yn digwydd i gorau meibion!"
Aeth y CD honno, a'u hail CD i frig y siartiau, a chafodd y c么r eu henwebu ar gyfer yr albwm gorau yng ngwobrau'r Brits Clasurol yn 2007 gan ganu ar y noson yn yr Albert Hall yn Llundain. .
Arweinydd y c么r o 2002-10 oedd y mezzo soprano o Gorwen, Ann Atkinson. Ym Mawrth 2010 cafodd Leigh Mason ei henwi'n arweinydd y c么r.