大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

cantorion
Rhys Meirion
Rhys Meirion

Magwyd: O Dremadog yn wreiddiol ond yn byw yn Rhuthun

Addysg: Ysgol Gynradd Tremadog ac Ysgol Uwchradd Eifionydd


Canwr byd enwog

Er mai brodor o Dremadog, Sir Meirionnydd yw Rhys Meirion, mae wedi ymgartrefu yn Rhuthun ers 15 mlynedd.

Fe'i ganed ym Mangor a chyn i'w deulu ymgartrefu yn Nhremadog bu'n byw ym Mlaenau Ffestiniog a Garndolbenmaen.

Cafodd ei Addysg yn Ysgol Gynradd Tremadog ac Ysgol Uwchradd Eifionydd cyn mynd ymlaen i ennill gradd B Addysg yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin.

Er mai fel canwr byd enwog y mae'n adnabyddus yn awr fel athro y cychwynnodd ei yrfa gan dreulio blwyddyn yn Ysgol Gynradd Tywyn, pedair blynedd yn Ysgol Twm o'r Nant, Dinbych, a phedair blynedd yn brifathro yn Ysgol Pentrecelyn ger Rhuthun.

Ac yntau'n aelod o Aelwyd Bro Gwerfyl a Ch么r Rhuthun a'r cylch dechreuodd gael gwersi canu ac wedi ennill y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Llandeilo yn 1996 fe'i hysgogwyd i feddwl o ddifrif am droi'n ganwr proffesiynol.

Wedi graddio yng Ngholeg Cerdd y Guild Hall yn Llundain aeth i weithio gyda chwmni Opera Cenedlaethol Lloegr tan 2003 ac ers hynny bu'n gweithio ar ei liwt ei hun.

Ym mis Mai 2006 roedd yn chwarae rhan Pinkerton yn Madame Butterfly gyda'r English National Opera yn Llundain cyn cymryd rhan yng nghynhyrchiad o La Traviata gyda'r English National Opera.

Yn ogystal 芒 bod yn llywydd y dydd yn Eisteddfod Sir Ddinbych yr Urdd yn 2006, roedd hefyd yn perfformio yng nghyngerdd agoriadol yr Eisteddfod.

Recordiodd CD, Benedictws, gyda Bryn Terfel yn 2005.

Pan oedd yn aelod ifanc o'r Urdd nid aeth Rhys ymhellach na'r Eisteddfod Sir fel cystadleuydd - nes iddo ymuno ag Aelwyd Bro Gwerfyl.

Eisteddfod Rhuthun, 1992, oedd yr Eisteddfod gyntaf iddo gystadlu ynddi gyda'r Aelwyd.

"Mae cystadlu yn eich gwthio i berfformio i orau'ch gallu. Fy neges i bawb sydd yn cystadlu yw i fwynhau bob munud. Mae Cymru'n lwcus iawn i gael yr Urdd a'r cyfleon y mae'n ei roi i blant a phobl ifanc," meddai.

Diolch i Urdd Gobaith Cymru am y wybodaeth uchod.


Cyfrannwch

Osian Meirion
Hogyn Rhys Meirion.
Wed Jan 28 11:47:09 2009

Aled Rees o Aberystwyth
Bydd Rhys Meirion yn teithio i Batagonia yn Mis Ebrill/Mai i geisio achub Eisteddfod Trevelin, ac i berfformio yn yr ardaloedd Cymreig. Os ydych am fod yn rhan o'r daith swyddogol cliciwch yma am fwy o wybodaeth: www.rhysinpatagonia.com
Sat Feb 2 19:15:21 2008


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy