Fe dderbyniais y cais i ysgrifennu'r golofn hon i'r Bedol gan feddwl y byddai'n hawdd iawn dewis un trysor a threulio rhyw awr neu ddwy yn rhoi ei hanes ar bapur.Mae'n rhaid i mi gyfaddef mai dyna'n union fyddai wedi digwydd rhyw bum mlynedd yn 么l. Ond ers i mi fentro i'r byd canu, heb i mi sylweddoli bron, rwyf wedi dod i edrych ar fywyd a gogwydd mwy emosiynol, rhamantaidd a sentimental, yn hytrach nag oeraidd, materol a sinigaidd.
Mae ceisio dewis fy nhrysor wedi gwneud i mi sylweddoli cymaint dw i wedi bod yn cymryd pethau yn ganiataol. Wrth orfod eistedd ac ystyried beth yw eich hoff drysor, lle ydych yn cychwyn? Beth yw trysor?
Rhywbeth pwysig, gwerthfawr fyddech chi byth yn hoffi ei golli. Rhywbeth sydd yn eich gwneud yn hapus ac yn falch wrth edrych arno. Roeddwn yn mynd o amgylch y t欧 yn edrych ar wahanol bethau.
Beth am y cwpwrdd gwydr a dderbyniais ar 么l nain? Neu un o'r trugareddau sydd ynddo? Neu'r piano ddysgais ei chwarae pan oeddwn yn blentyn? Neu'r hen fetron么m a gefais ar 么l fy athrawes piano, Mrs Turner o Ben y Groes.
Y Trysor pennaf
Wrth ystyried a chrafu pen, dyma Erin yn dod o rhywle yn sydyn gan chwerthin a'i wyneb yn llawn hapusrwydd. Dyma sylweddoli mai trysor pennaf unrhyw un yw ei deulu. Fe fyddai'r t欧 a'i holl drugareddau a'i drysorau gyda "d" fach yn cael llosgi i'r llawr yfory ond fod y Trysor pwysicaf, sef fy nheulu, yn iawn.
Dyma fi'n mynd at Nia, fy ngwraig, a dweud wrthi sut o'n i'n teimlo, mai fy nheulu yw fy nhrysor pennaf. "Wel diolch yn fawr' meddai "ond mae pawb yn gwybod hynny - mae o'n rhywbeth mae pobl yn ei gymryd yn ganiataol. Mae'n rhaid i ti ddewis rhywbeth yn hytrach na rhywun."
Ar 么l sws bach o werthfawrogiad dyma fynd i chwilio eto. Es i chwilio yn y cwpwrdd gwydr, ac yno yn ei focs heb ei gyffwrdd ers rhyw bum mlynedd oedd rhywbeth, mewn ffordd, a oedd bennaf gyfrifol i mi roi'r gorau i ddysgu a mentro ar fywyd fel canwr proffesiynol.
Y Rhuban Glas
Heb hwn efallai y byddwn yn dal i fod yn brifathro ac yn fwy o sinig nag erioed. le, mae'n debyg mai fy hoff drysor yw y Rhuban Glas a enillais i yn Eisteddfod Genedlaethol Llandeilo yn 1996. Dw i'n cofio dweud na fyddwn i yn cysidro mynd i ganu'n broffesiynol os na fyddwn yn ennill y Rhuban Glas gyntaf.
Wna'i fyth anghofio'r gwahanol deimladau ac emosiynau a oedd yn byrlymu ynof y noson arbennig honno. Roedd, heb os nac onibai, yn drobwynt yn ein bywydau fel teulu ac os y byddaf yn derbyn anrhydeddau yn y dyfodol fe fydd yn anodd iawn curo ennill y Rhuban Glas.
Dw i'n cofio dad yn dweud wrthyf "Ti wedi'i ennill o r诺an; chaiff neb dynnu o oddi arnat." Dyna sydd yn rhyfedd wrth edrych ar y Rhuban Glas ei hun. Dim y rhuban glas a'r medal sydd ynghlwm wrtho sydd yn bwysig, ond yn hytrach beth mae yn ei gynrychioli.
Os y byddwn yn digwydd colli'r medal yfory fe fyddwn i'n dal i fod yn enillydd Rhuban Glas Eisteddfod Genedlaethol Llandeilo 1996. Felly heb fod yn rhy emosiynol, rhamantaidd a sentimental, y trysor pennaf yw'r Rhuban Glas ond nid yw yn dod yn agos at fy mhrif Drysor.
Rhys Meirion