大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Adnabod ardal - Rhosllanerchrugog
Dyma'r gymuned sydd 芒'r enw am fod y pentref mwyaf yng Nghymru, a phentref hefyd sy'n enwog am ei ddiwylliant.

Pentref mwyaf Cymru
Mae llinell olaf englyn Eilir Aled - "Beibl a rhaw i bobl y Rhos." yn cyfleu i'r dim y cyfuniad o grefydd, diwylliant a diwydiant sy'n wythiennau mor hanfodol yn hanes Rhosllanerchrugog, a ddisgrifiwyd yn y gorffennol fel "pentref mwyaf Cymru".

Mwyaf nid yn unig o ran ei faint daearyddol ond o ran ei ddoniau a'i gyfraniad hefyd ac nid yw'n gyfrinach fod peth cenfigen cyfeillgar ymhlith trigolion pentrefi eraill yr ardal tuag at Y Rhos.

Ac yn y gorffennol - a dydi o wiw dim ond sisial hyn - bu trigolion y Rhos yn ymylu ar fod yn euog o edrych gyda rhywfaint o ddirmyg ar drigolion pentrefi cyfagos fel y Cefn, Coedpoeth a Phonciau!

AelwydBeth bynnag am hynny, y mae gan Y Rhos yr enw ledled Cymru am fod yn ffwrnais diwylliant a diwydiant gyda'i draddodiad glofaol ar y naill law a'i bwyslais ar addysg a chrefydd a chanu cynulleidfaol a chorawl ar y llaw arall gyda Ch么r y Rhos yn parhau yn un o rai enwocaf Cymru.

Fel y dywed englyn Eilir Aled wrth grynhoi'r lle yn ei englyn sydd i'w weld ar arwydd yng nghanol y pentref:

Enwog le mae'r awen glos - a chrefydd
Uwch rhyfyg yn aros.
Hedd engyl yn ymddangos,
Beibl a rhaw i bobl y Rhos.

Er mai ar gefn y chwyldro diwydiannol y tyfodd y Rhos darganfuwyd glo yn yr ardal mor gynnar 芒 dechrau'r ddeunawfed ganrif ac yr oedd pyllau ar waith yn negawd cyntaf y 1700au.

Wrth i'r chwyldro diwydiannol afael, fodd bynnag, symudodd pobl i'r ardal wrth eu miloedd o wahanol rannau o Gymru a Lloegr gyda charfan gref o Swydd Gaerhirfryn.

Esgorodd y gymysgedd o gefndiroedd a thraddodiadau ar gymdeithas arbennig iawn fel ag yng nghymoedd glofaol y de.

Mae'r Rhos yn lle sydd wedi newid yn arw erbyn hyn gyda'r glo, y tramffyrdd, y rheilffordd a'r gweithfeydd a oedd yn gymaint rhan o'i fwrlwm cynt wedi diflannu.

Y Stiwt
StiwtTebyg mai'r arwydd gweladwy amlycaf, yn awr, o'r gogoniant a fu yw hen adeilad mawreddog Sefydliad y Mwynwyr - Y Stiwt, ar dafod leferydd yn lleol - sydd nid yn unig yn dal ar ei draed ond wedi ei adnewyddu drwyddo draw a hynny yn arwydd fod y dycnwch a'r dyfalbarhad a berthynai i'r hen Rosllanerchrugog yn parhau ymhlith y trigolion heddiw.

Tafodiaith unigryw
Nid yn unig y mae i'r Rhos ei gymeriad ei hun ond y mae iddo ei Gymraeg ei hun hefyd a hynny wedi ei adlewyrchu yn enw papur bro yr ardal, Nene - y gair lleol am "y peth yna" neu hwnna.

Ymhlith siaradwyr Cymraeg yr ardal mae "ene" a "dene" hefyd yn eiriau cyffredin.

Heb amheuaeth y mae dylanwad tafodieithoedd yr holl gymysgedd o bobl a symudodd i'r ardal yn drwm ar Gymraeg y Rhos ac yn enghraifft wiw o allu'r Gymraeg yng nghyfnod y mewnlifiad hwnnw i ymaddasu a chofleidio geirfa estron i'w dibenion ei hun.

Weithiau mae'r tarddiad yn gwbl amlwg fel yn shifftio am symud, sbarins am weddillion, meindio am wylio, grinio am wenu a'r hyfryd biwshio (o abuse) am roi cweir i rywun.

Dro arall dydi'r tarddiad ddim mor amlwg ac nid pawb a fyddai'n sylweddoli mai estyn cynnig ichi arogli rhywbeth fyddai rhywun wrth ddweud "gwinsia hwn."

Mae'n amlwg fodd bynnag o lle daeth gair Y Rhos am flodau, rhose, a gellir olrhain tarddiad swinjo am llosgi i'r gair Saesneg singe a hyd yn oed pegis am ddannedd.

Nid mor hawdd canfod sut mae lode yn golygu coesau (aelodau, mae'n debyg) ac y mae mlenio am golli tymer yn gywasgiad gwych o "fileinio" fel ag yw nafyd am anafu neu frifo rhywun.

Mae rhywbeth yn ddeniadol yn y duedd o roi 'h' o flaen rhai geiriau gan roi ffurfiau fel hamdwyo, hedins (adenydd) a henw.

Mae rhai geiriau yn onomatopeaidd iawn fel bwlragio am weiddi'n flin a bleiddio a recsho am weiddi a chodi helynt.

Ond un peth sy'n gwbl sicr ym meddyliau pobl y Rhos yw fod pentref mwyaf Cymru yn lle gwirioneddol gwerth weil!

  • Cliciwch yma i ychwanegu eich geiriau tafodieithol unigryw chi at ein rhestr ar-lein.



  • Cyfrannwch

    Jean o Sychdyn
    Wedi gadael y Rhos yn y chwe-degau, ar ol addysg yn Y Grango, drwy Saesneg. Rwyf yn falch pan mae rhywyn gallu dweud, wrth siarad a fi, fy mod yn dod o'r Rhos. Oeddem bron wedi colli y dawn o siarad Cymraeg yn y 60au, nawr rwy'n 'forddus iawn yn siarad Cymraeg (ac ambell gair y Rhos) ond yn poeni braidd pan rwy'n sgwennu!
    Wed Jun 25 17:03:40 2008

    Richard Morris, Caernarfon
    Nes i darllen darn Phil Ifor. 'Roeddwn yn byw yn Angorfa, Banc Street, Ponciau, drws nesa i Dyfed Thomas, nesa ond un i John Hand. 'Roedd fy modryb Doris Davies yn cadw'r siop ar draws y ffordd i gapel Salem. Elfyn a Gareth Richards oedd yn byw ar draws y ffordd i mi ac 'roedd fy nheulu yn ffindiau mawr gyda teulu Lloyds (John a Janet a'r plant Alwena, Arfonia, Ann, John a David). Yr oedd yn gyfnod da i fyw yn Bank Street cyn iddynt ddymchwel y tai i gyd draws y ffordd ac adeiladu y fflats rhwng Bank Street a Johnson Street - wnath hwnnw sbwylio'r lle.
    Mon Jan 21 23:54:08 2008

    Richard (Dick) Morris, Caernarfon
    Cael fy nwyn i fynnu yn Bank Street, Ponciau. Drws nesa i Ambrose ac Ada Thomas, au mab Dyfed. 'Roedd pawb yn 'modrub' ac 'ewythr' i ni er ddim yn perthynas gwaed. Hefyd 'roedd neb yn cloi drysau a croeso i'w gael gan pawb. Cofion hapus am John a Janey Lloyd au teulu, Alwenna, Ann, Arfona, John a David. Os ydsw i yn cofio yn iawn ganwyd David yn flwyddyn a coroni. Cofion melys hefyd am Mr a Mrs Richard, draws y ffordd ac Elfyn a Gareth. Bydd yr ardal tipyn tlotach oni bai am Elfyn. Y peth gwaetha digwyddodd oedd dymchwel y tai i gyd un ochr o Bank Street ac adeiladu y 'Flats' a symud pobol yna o i ffwrdd - Colli cymuned arbenig
    Sun Mar 11 17:12:29 2007

    Di-enw
    Mae ardal y Rhos yn ardal Gymreig a hapus. Pob tro rydych yn cerdded lawr y stryd mae pawb yn dweud 'helo' wrthych. Mae Rhos yn arbennig ac i feddwl bod yn agos at Lloegr mae yna lawer yn siarad cymraeg. Mae yna un ysgol uwchradd yn yr ardal sef Ysgol Morgan Llwyd. Rydym yn dysgu yn cymraeg a mae yna llawer o phethau i wneud yn yr ysgol. Ond does yna ddim llawer o phethau i wneud tu allan i'r ysgol trwy'r cymraeg. Buaswn yn hoffi cael mwy o weithgareddau cymreig tu allan i'r ysgol. Ond mae Rhosllanerchrhugog yn lle wych i fyw!!!
    Fri Oct 20 13:38:34 2006

    Carwyn Wycherley
    Dros y blynyddoedd rydw i wedi cystadlu nifer o weithiau yn y Rhos gyda Eisteddfod yr urdd. Cofiaf cystadlu a ennill nifer o weithiau y wobr 1af 2ail a 3ydd. Ond hefyd rwyf yn cofio dod i'r Stiwt i weld cyngherddau gyda'r dydd a'r nos. Cofiaf hefyd, dod yma nifer o weithiau i ganu carolau a chymeryd rhan yn nifer o bethau eraill. Ond fy hoff beth y fyddwn yn cofio am Rhos yw dod yma gyda fy ffrindiau sydd yn byw yma. Cawsom hywl da iawn a chymdeithasu gyda llawer o bobl Rhos. Rydw i yn mynd i ysgol Morgan Llwyd a rydw i yn ysgrifennu a chreu papur newydd yr ysgol gyda fy ngyd ddisgybl Robin. A rydym ni ar fin cael y siawns i ysgrifennu yn y nene ei hun a鈥檙 clawdd, felly yr rydym yn gobeithio cael y cyfle yn fuan iawn!
    Thu Oct 19 10:03:49 2006

    Tesni, Lewis a Lisa
    Mae Rhosllanerchrugog yn ardal Cymraeg drwy a thrwy, mae o mor agos i Loegr i gymharu ag pentrefi eraill Cymru. Mae cadw y iaith Gymraeg yn fyw gallu bod yn anodd oherwydd hyn. Tafodiaeth unigryw sydd ar gael yn y Rhos. Dyma rhai enghreifftiau o eiriau a ddefnyddwyd; "nene" sy'n golygu 'hwnna' ac "ene" sy'n golygu 'yn y fan a lle'. Mae ysgolion lleol er enghraifft Ysgol I.D. Hooson ac Ysgol Morgan Llwyd yn brwydro'n galed i sicrhau bod y plant lleol yn mwynhau dysgu a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r Stiwt yn Rhos yn cynnal llawer o bethau Cymraeg er enghraifft dramau, clybiau a.y.y.b. Mae'r addysg yn Wrecsam o safon uchel iawn gan ystyried y ffaith fod Ysgol Morgan Llwyd yng nghanol llawer o ysgolion Saesneg. Mae byw yn Rhos yn peth aruthrol o dda oherwydd y cyfeillgarwch sydd yn croesawu chi bob tro. Oherwydd y cyfeleoedd a roddir inni i siarad Cymraeg gyda thrigolion yr ardal mae ein cymraeg yn gwella bob dydd. (Disgyblion Ysgol Uwchradd Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam)
    Wed Oct 18 14:45:18 2006

    Phil Ifor o'r Poncie
    Ces i fy ngeni yn Trevalyn yn 1950, ond drwy lwc ces i fy magu yn Llys Maelor,Banc Street, Poncie.
    John Jarvis(Ioan Maelor) oedd fy nhaid. Coliar oedd John, ond fel ambell i drigolion y Rhos roedd ganddo'r awch am addysg a'r pethe. Fel bardd a chynganeddwr roedd o ben ei gamp a galwyd i'r Orsedd yn 1912. Roedd o'n ffrind mawr i John Mills, ac yn cyfrannu yn wythnosol i Herald y Rhos.
    Mae gynno ni fel teulu ambell o gerddi John, a llun ohono yn croesawu'r Eisteddfod Genedlaethol i'r Rhos yn 1945. Ron i'n ffodus iawn cael fy magu yn y Poncie yn y pumdegau. Roedd y 'filltir sgwar' yn llawn o gymeriadau difyr a doniol. Cymeriadau fel Dic y Moch, Twm Clomod, Wil Mwreia, Wil yr Ardd, Lei Denbigh,John Bodo, Wil Sir Fon ag ati. Roedd gen i ddim syniad o'u enwau go iawn, ond ron i'n parchu nhw i gyd ac ron nhwn glen iawn efo fi.

    Diolch yn fawr iawn i chi Phil Ifor am ysgrifennu'r pwt hwn o hanes y Rhos. Efallai bod gennych ddiddordeb anfon rhai lluniau, neu fwy o hanes aton ni. Mae croeso i chi ein e-bostio ar cymru@bbc.co.uk Byddwn yn hapus i glywed gennych! GOL.


    Fri Mar 25 03:04:52 2005


    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy