大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Baneri Cymru Geirfa'r gogledd ddwyrain
Dyma restr o eirfa sy'n nodweddiadol i ogledd ddwyrain Cymru. Ond rydyn ni am eich awgrymiadau chi. Llenwch y ffurflen ar waelod y ddalen gydag enghreifftiau o'r geiriau fyddwch chi'n eu dweud.
ar get - prysur

ar glem - byth yn cael digon

arben - beichiog

bawedd - gwael

bonc - bryncyn

brysiwch yma eto - dewch yma yn fuan eto

burgyn - corff anifal marw a pherson cas

bwchan - bychan

bwchins - nifer o bethau bwchan

bydrochi - ymolchi drosto

cacimwncis - cacamwci

cael - (y ferf) fi gyn, ti gyn, ef gyn, hi gyn ni gyn, chi gyn, nhw gyn

cais main - close shave

ceniog - ceiniog

cerpyn -cadach golchi llestri

'chwaneg - rhagor

chwislen - shrew

cit - sied neu dwll-dan-grisiau

cloncyn - lolyn gwirion

clos neu llodrau - trowsus

cnau - glanhau

cor - beudy

craft cae bychan i loiau neu tarw

crec - crack

crugo - edifar / difarru

cwat -cot

cyth - diawlineb

cythgam -andros

'dawch!' - dydd da ichi!

di-am - dibwynt

dim breg - dim byd yn bod

difie - dydd iau

dreng - irritable

ene - yna neu yno

fory bory - bore 'fory

fflimwt - peth bach trafferthus

fflob - poeri

gegin - ystafell fyw

geran - cwyno

giar - iar

golchi pen - golchi'r gwallt

gom - sgwrs

gostied - gorfod

gwitiad - aros

gwlanen - cadach molchi

gythow - gyda fo

hen he - cornchwiglen

hofel - adeilad agored i gadw offer fferm

honsel - ar werth

hwne fan ene - hwnnw fan acw

jed - tyrd

kabe - cwyno (ardal Bwcle)

keks - trwsus

laur - 'nghariad i (yr un aur, efallai?)

llardiau - carpiog

lleche - rickets

llechy - ffug; cynffongar; (Cymraeg: "llechu" ) (ardal Bwcle)

llygod diarth - llygod mawr

llymed - diod feddwol

Ma' fi gyn - Mae gen i. Gwyliwch "Mostyn Fflint 'n aye". (Diolch i Rhian Angharad Davies o'r Wyddgrug).

magu lleche - dweud y drefn

maw - mae o

molchi drosto - cael bath

moto - car

mwtsio - poeni

mwydro - poeni

mynd i'r 'cefn' - mynd i'r t欧 bach

mynd i edrych am fy mrawd - mynd i weld fy mrawd

mywion - morgrug

nacwes - nagoes

nadu - crio

nene - y peth yna

nene - hwnnw

naci - handi

odi - bwrw eira

olwyth - sleis o gig (ham fel arfer)

osio - tuddu

ponsh - mess

ponsh maip - tatws wedi stwnsio gyda meipen

'potas' a 'brwas' - dau fath o bwdin

potsio - ymyrru

propor - pretty

pywie m芒n - midges

rhidans - carpiog

rhwnyn - pear

sbensh -twll dan grisie

sennabund - Yn rhwym (ardal Bwcle)

shilin - peth bach annwyl

sinach - dyn cas

slob - siaced gwaith ffarm

s'mai wa!

sopen -dynes gas

strelio - rinse

strwtsh - sbwriel

strydfache - stilts

sur - finegr

sut? - pardon?

sws - cusan

syrcyn - vest

Trefn - Anhaclus. Mae na drefn ar y lle - rhywle anhaclus (glywais i erioed arni'n gael ei ddweud gydag eironi. fel plentyn golyga trefn 'mess')

tranglins - y llanast yn y sbensh neu'r daflod

trowsus rhesog - courderoy trosers

twca -cyllell i dorri bara

twsli - blawd llif

wes -oes

y bing - rhan o'r beudy y tu 么l i'r cafnau

y wib -cael syniad sydyn

yn'ai - 'ynde', neu 'on'd yw o' (Diolch i Rhian Angharad Davies o'r Wyddgrug)

yn ddrych - ddim yn ffit

yn falch sobor - yn falch iawn

yn filen - yn gas

yn fwrn- yn faich

Cyfrannwch i arolwg eang sy'n casglu geiriau tafodieithoedd y Gymraeg.


Cyfrannwch

Rebecca o Lanelwy
iwsio - defnyddio, ffindio - dod o hyd i, rargian - rhywbeth oedd athrawon arfer dweud pan oedd plant yn camymddwyn! cau hi - byddwch yn dawel, dim ots - no doubt / dim yn gofalu. Nos ddawch - Noswaith dda. Dylanwad Saesneg i'w weld yn amlwg! Un peth dw i 'di sylwi ar - mae 'propor' yn cael ei cyfieithu fel 'pretty', tra mae llawer o bobl dwi'n 'nabod yn defnyddio fo i olygu urddasol neu cwrtais. (e.e. Dydi ymmddygiad y bachgen 'na ddim yn bropor.)
Mon Aug 10 16:19:35 2009

Carwyn o Lansannan
Dici - (boot car!)
Thu Jun 25 12:53:46 2009

Laurence Roberts o Lerpwl yn wreiddiol
Mae'n ddiddorol iawn i weld neges o Stuart Oswestry yma. Dwi'm wedi clywad erioed, o eiriau Cymraeg yn dwad i mewn Saesneg fel hyn. Dwi'n meddwl fod yn wych i weld. Mae Stuart yn gywir efo gair fel "sbensh". Gobeithio mi fydd Stuart yn sgwennu yma eto, efo'i feddyliau ar iaith ei deulu a'i ardal fo.
Fri May 2 20:48:43 2008

John o'r De
Mae "cario clecs" a "chwarae'n troi'n chwerw" yn cael eu clywed yn aml fan hyn. "Lolch" -person yn gorwedd yn anhaclus"Popy" -colli pel dros ardd rhywun (dod o'r hen fenyw ag oedd arfer cael popty yn ei gardd)"cwtsh"- lle dan y grisiau, neu Hug yn y saesneg, neu lle mae'r ci yn cysgu.O'n i moyn rhoi ychwaneg i chi o dafodiaeth tu fas i'r ardal.
Thu Jan 17 18:24:49 2008

Sian or Rhosllannerchrugog
Sori Llinos or Rhuthin wyt tin 'wrong ma na lot o pobl dal i ushio 'Nene Ene', pobl hen a ifanc, a gerie fel chyrd onen - tyrd ymlaen; Doro fyny - stopiwch.
Sun Jun 24 21:34:42 2007

Huw Waters o Abergele
Taid/Nain y bodo - gwryw neu menyw sy'n meddwl bod nhw'n hyn nac ydynt;
chware'r hen - dweud y drefn;
hei di - meiddia di;
sbenj - cwpwrdd o dan y grisiau;
steirie - grisiau;
di-am - anghyfleus;
be gynjar - be ar y ddaear;
ratsiwn beth - ffasiwn beth;
potes - llanast;
nadu - swnian;
yn dryw - yn ffyddlon.

Wed May 30 23:57:32 2007

Dilwyn Jones o Ddinbych
Cluro = rhwbio yn erbyn wal nes i hynny adael marc neu lwch ar eich dillad
cadach poced = hances
moni = llyncu mul neu bwdu

Fri May 4 16:56:40 2007

Catrin Parry o Gaerdydd (Llandyrnog gynt)
wrach = falle; fferins = melysion;
Tue May 1 21:46:55 2007

Llinos, Llansannan/Llangernyw
wmbo = dwi ddim yn gwybod
sgelet = sosban (yn enwedig desgyl bwyd ci)
cacen (Llansannan) = cacan (Llangernyw)
pasa = bwriadu
Hwre! = Hwyl! Ta-ta!

Sun Mar 25 21:03:32 2007

Selwyn Williams, Caerdydd
'Dene nene ene'- Dyna hwnna fan yna! neu fel y dywedir yn y De 'Hwnco manco'
'Tollti' paned o de - tywallt
Paste grochan - cawl
Mae o fel het - rhywun ffol
Cafflo - chetio (to cheat)
Cnwff - Darn tew o fara

Fri Mar 16 00:20:46 2007

Anthony Parry Bae Colwyn (Rhos gynt)
yn snot: yn chwysu
ci bara chyrents: 'dalmatian'
twsli: 'sawdust'
crabalanten: math o deisen
shinigls: darne man
gwyneb iychymwrdwr: hyll, neu cas?

Sat Mar 3 18:18:59 2007

Angharad (Dinbych)
cisio = cusanu
Thu Feb 15 17:45:28 2007

Alun Williams Caerdydd (ond o Llandyrnog)
Yn ein teulu ni, denni'n dweud trwsus ac trons am eich dillad isa. Ond mae rhwyn arall yn yr un ardal yn deud trons am trwsus !
Tue Oct 24 22:29:19 2006

Rhys Clwyd, Rhuthun
sbensh - twll dan grisie
Sun Oct 15 02:34:10 2006

Chris Bailey o Dreffynnon
Sylwi bod Llinos o'r Rhosuffern (fel y gelwir Rhosllanerchrugog gynbobl Clwyd) yn dweud fod hi di clywad fod llawer o bobl Powys wedi mynd i'r Rhos. Glowyr o gymmoedd y de clywais i. Mae acen y cymmoedd dal gyn bobl y Rhos i ryw raddau. Dwi'n cofio mynd lawr i Gaerdydd yn yr wythdegau i weld Wrecsam yn chwarae ac yn ein parti roedd geneth o'r Rhos. Ar ol 10 munud mewn tafarn yng Nhaerdydd dyma boi o'r Barri dweud "Anyway what a girl from the Rhondda doing supporting the Gogs?". Roedd hi erioed di bod i'r Rhondda nag unrhyw un o gymmoedd y de.
Thu Jun 22 00:24:30 2006

Elen, Rhosllannerchrugog
winiwns - nionyn
chware'n troi'n chwerw -(dwi'm yn siwr os 'di hwn yn cael ei ddefnyddio unrhyw le arall yng nghymru ond ma' dad wastad yn ei ddweud o i fi a fy chwaer!)
sofren - punt (pound coin)
cario clecs - dweud celwydd (eto dwi'm yn siwr os defnyddir hwn unrhyw le arall neu hyd yn oed os 'di o'n dod o'r Rhos)
A darn o newyddion da i Llinos o Rhuthun, dwi'n falch i ddweud fy mod i wastad yn dweud nene ec ene (a dwi ddim yn 30 'to!)
newydd sylweddoli gair arall:
wastad - o'r hyd!

Wed Jun 14 23:57:04 2006

Stuart, Oswestry
Just started learning Welsh and found this really weird to read! My family's English and from Oswestry, but we've always used certain words growing up that never seemed to be used elsewhere- words that I didn't know how to spell- 'spench' was the name for my nan's room under the stairs where she kept a mop and bucket and general junk, 'lobscouse' was a watery/beef stew my mum still cooks, and 'ponchmipe' was boiled potatoes mashes with boiled turnip!
There are loads of other words we used in the family (but since we only used them speaking to others in the family/close neighbours, we never wrote them down)- it just makes me wonder if some,or even all the others are of Welsh origin?! My family's always been English speaking and based around Oswestry. To be honest, their not words I use... more words that others use in the area (particularly older members of the family etc), so I'm familiar with I'll try to remember to write them down when I across them (I can't remember any at the moment!), and put them up here just in case anyone would be interested... perhaps someone could tell me if they ARE similar to Welsh phrases?!
Diolch

Sun Jun 11 16:25:28 2006

Chris Bailey o Dreffynnon
Geiriau cylch Treffynnon:
ugian = ugain
be ti gyn? = beth sydd gen ti?
be haru ti? = beth sy'n bod?
'blaw = heblaw
bonc/boncyn = twmp bach
ciamocs/giamocs =triciau
cadach poced = hances
pry llwyd = mochyn daear
cwffio =paffio
dene fo = dyna fo
shil = cariad (glywed mewn siop e.e.)
lobsgows= cawl
cafna = camfa
heglu = cerdded yn gyflym (hegla ene rwan)
pry copyn = spider
pryfedd man = pethau bach (cnats)

Thu Jun 8 17:37:19 2006

Moira Brown o'r Rhos yn wreiddiol
odi - bwrw eira "Odi,odi, Blawd yn codi"
Sun Feb 5 15:43:40 2006

John Jones o Bala
crig=gwely
Fri Nov 25 14:36:46 2005

John Rowlands, Bagillt
herc=idiot
Thu Nov 24 11:33:37 2005

John Rowlands, Bagillt
hidia befo = paid a poeni, dim o bwys, dim problem
Thu Nov 24 10:36:44 2005

Gareth, Nantglyn
Pywie man = midges.
Sun Aug 28 23:53:53 2005

Charles o'r Wyddgrug
nadu = crio (ardal Llanarmon yn Ial)
Yr hofel = adeilad agored i gadw offer fferm
yn falch sobor = yn falch iawn
brysiwch yma eto = dewch yma yn fuan eto
mynd i edrych am fy mrawd = mynd i weld fy mrawd

Sat Aug 27 08:31:11 2005

Richard o Dreuddyn
y berf 'cael' - fi gyn, ti gyn, ef gyn, hi gyn ni gyn, chi gyn, nhw gyn
craft = cae bychan i loiau neu tarw
y bing = rhan o'r beudy y tu ol i'r cafnau
bwchan = bychan
gostied = gorfod
mynd i'r 'cefn' = mynd i'r ty bach
clos neu llodrau = trowsus
hwne fan ene = hwnnw fan acw
nene = hwnnw
gwitiad = aros
giar = iar
slob = siaced gwaith ffarm
mae na drefn ar y lle = rhywle anhaclus (glywais i erioed arni'n gael ei ddweud gydag eironi. fel plentyn golyga trefn 'mess')
potsio = ymyrru

Sun Aug 7 15:26:05 2005

Lisa o Ddinbych
crugo = difaru
Mon Jul 25 11:16:27 2005

Llinos o Rhuthun
O Rhosllanerchrugog yn wreiddiol. Sylwadau Dafydd o Rhuthun 'aru fi ayb, 'aru ydy ffordd bur o dweud ddaru (wnes i) os dwi'n iawn?

Rwyf wedi anghofio rhan fwyaf o iaith Rhos rwan ond i ddweud y gwir, does na ddim llawer o bobl ar ol yn Rhos (heblaw am y pobl hyn!) sy' dal i siarad 'Nene ene'! Rwyf o'r hyd yn chwerthin pan dwi'n clywed Mam yn dweud pethau fel 'Laclwydd!' (Arglwydd) a 'Mhais i fyny mhogel!' (peticoat has ridden up to my navel!) Ia, dwi'n gwbod, andros o rhyfedd ond tydi!

Mae'r acen Rhos yn un rhyfedd iawn, ac roedd yna son fod yna lot o bobl wedi'i wreiddio o ardal Sir Powys. Ydy hwn yn wir?


Thu Apr 21 10:40:04 2005

John Edwards o Catterall
Hws = cweir yn ardal Nercwys, Sir y Fflint
Mon Apr 18 14:15:13 2005

Phil Phillips o'r Rhos yn wreiddiol
na i'm poncho - I won't bother; byglud - dirty; racs - hopeless; llygod diarth - rats; chware - unemployed.
Fri Mar 25 02:00:07 2005

Gareth, Nantglyn
Twca= cyllell i dorri bara; Cerpyn=cadach golchi llestri; Gegin=ystafell fyw; Wes=oes; Nacwes=nagoes.
Wed Mar 23 21:49:40 2005

Aled Elwyn Jones o Ddinbych
Syrcyn = vest; Mywion = morgrug; Gwlanen = cadach molchi; Ceniog = ceiniog; Moto = car; Sut? = pardon?;
Wed Mar 23 16:50:11 2005

Gwen o Benycae Wrecsam
strelio - rinse; rhwnyn - pear; rhidans - carpiog; llardiau - carpiog; magu lleche - dweud y drefn; dreng - irritable; olwyth - sleis o gig (ham fel arfer); golchi pen - golchi'r gwallt; 'Dawch!'- Dydd da ichi!;
Mon Mar 14 11:24:48 2005

Dafydd Roberts (eto!)
llymed - diod feddwol; bydrochi - ymolchi drosto; difie - dydd iau; fory bory - bore'fory; 'chwaneg - rhagor.
Mon Mar 14 10:05:29 2005

Dafydd Roberts - o Frynteg, Wrecsam
Odi - Bwrw eira; cwat - cot; di-am - dibwynt; arben - beichiog; ar get - prysur; ar glem - byth yn cael digon; bawedd - gwael; dim breg - dim byd yn bod; yn fwrn - yn faich; cais main - close shave; yn ddrych - ddim yn ffit; molchi drosto - cael bath; geran - cwyno; gythow - gyda fo; jed - tyrd; honsel - ar werth; lleche - rickets; llygod diarth - llygod mawr; yn filen - yn gas; mwtsio - poeni; mwydro - poeni; osio - tueddu; trowsus rhesog - courderoy trousers; sur - finegr; twsli - blawd llif; maw - mae o;
Fri Mar 11 15:38:27 2005

Julie Hawatson Broster o Ddinbych
"Denbigh Nai" Hia Lyle!
Thu Mar 10 12:18:44 2005

Elizabeth Williams o Wrecsam
nadu - gwrthod; sbensh; sbens.
Tue Mar 8 10:39:06 2005

Iwan Williams, Llangwm, Corwen.
S'mai wa!
Fri Feb 25 11:40:50 2005

Sian Jones o Ddinbych
cnau - glanhau. laur - 'nghariad i (yr un aur, efallai?)
Thu Feb 24 17:59:46 2005

Sion bonymaen
Mae hi fel iaith o blaned gwahanol!
Sun Feb 20 21:34:51 2005

Walt Derby (Bagillt)
Tatiad, Labiad, Nerco, Cwtryn, Coetia, Bloca, Ago'dygorn, Gwthban, Carthen, Balog, Dimbran, Prigyn, Gogo, Llwath, Llafnes, Llafngi, Cisio.
Wed Feb 9 11:37:32 2005

Dewi o Dreffynnon
Cafna (Camfa), Sgoden (Llygoden), Petty (ty bach), Dech chi gyn pob dim arall am wn i!
Wed Feb 2 09:41:39 2005

Dafydd o Ruthun
'aru fi, 'aru ti, 'aru o, 'aru hi, 'aru ni, 'aru chi, 'aru nhw...(unai Cymraeg gwallus, neu ffurf gorffennol o 'gwneud'. Deillio o 'darfu' falle?)
Mon Jan 31 13:37:16 2005

Hafina Clwyd, Rhuthun
sbensh= twll dan grisie; tranglins=y llanast yn y sbensh neu'r daflod; bwchan=bychan; bwchins=nifer o bethau bwchan; sinach=dyn cas; sopen=dynes gas; cythgam-andros; burgyn=corff anifal marw a pherson cas; ponsh=mess; crec=crack; crugo=edifar; cloncyn=lolyn gwirion; propor=pretty; y wib=cael syniad sydyn; strydfache=stilts; chwislen=shrew; cor=beudy; hen het=cornchwiglen;
Wed Jan 19 14:01:51 2005


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy