"Roedd Cefn yn rhan o blwyf Riwabon tan 1844. Yn wreiddiol tir comin ydoedd gyda nifer o ffermydd wedi eu gwasgaru.
"Roedd 'na chwareli cynnar ond ychydig o wybodaeth sy'n bodoli am y chwareli hyn.
"Wedi arolwg daearegol ym 1924, daeth i'r amlwg bod carreg o'r ardal wedi ei ganfod yn fframiau ffenestri Castell Dinas Bran ac Abaty Vale Crucis ac yn ddiweddarach Prifysgol Bangor a nifer o brif adeiladau Lerpwl fel Neuadd San Si么r a'r Walker Art Gallery.
"Canlyniad y chwareli oedd iddynt ganfod glo ac fe ddatblygodd Cefn wedi hynny.
"O boblogaeth o tua 200 ar ddechrau'r 1800au, erbyn 1871 roedd 5,500. Symudodd nifer fawr o Loegr i'r ardal ac yn sydyn fe ddatblygodd nifer fawr o gapeli a thafarndai.
"Cefais fy magu yn ystod tridegau'r ganrif ddiwethaf a bryd hynny roedd Cefn yn lle prysur oedd yn ffynnu.
"Roedd nifer o siopau a dwy sinema, ac roedd hi'n benderfyniad mawr i ni ynteu fynd i'r Palace neu Neuadd George Edwards i wylio ffilm.
"Un peth yr wyf yn cofio yw difftheria oherwydd pan oeddwn yn chwech neu saith oed yn Ysgol Acrefair bu farw merch oedd yn iau 'na fi.
"Yr oeddwn ar y pryd yn meddwl mai dim ond hen bobl oedd yn marw ac roedd hynny'n sioc fawr i mi.
"Wedi hynny fe symudais i Ysgol Cefn ac ar un cyfnod roedd bron pawb yn Safon 3 yn yr ysbyty yn dioddef o ddifftheria a bu farw nifer ohonynt.
"Erbyn hynny roeddem wedi dod i arfer cymaint 芒'r peth fel ein bod yn dychwelyd adref a dweud pwy oedd wedi marw.
"Roedd chwaer fy mam wedi marw o ddifftheria yn dair oed ac roedd hi'n bla ofnadwy.
"Roeddwn i ymysg y rhai cyntaf i gael fy mrechu. Roedd fy nhaid yn gynghorydd ac yn ymwybodol o'r pethau hyn ac fe drefnodd i rai ohonom o Cefn fynd i Wrecsam i gael ein brechu.
"Yn ystod y tridegau, cyn y rhyfel, cliriwyd y slymiau. Nid fod y tai hyn yn fudur ond oherwydd bod teuluoedd mawr yn byw yno heb ystafelloedd ymolchi.
"Condemniwyd nifer o'r tai hyn yn rhan uchaf Cefn lle yr oeddwn yn byw ar y pryd ac fe symudodd pobl i ran isaf y pentref ym Mro Gwilym a Bron Derwen lle adeiladwyd tai cyngor newydd.
"Cefais fy magu mewn siop groser ac nid yw'n cymharu gydag archfarchnadoedd y dyddiau hyn.
"Roedd menyn yn cael ei werthu ar un cownter a pharaffin yr ochr arall i'r ystafell.
"Roedd pobl yn prynu paraffin oherwydd nad oedd ganddynt oleuadau trydan yn eu tai.
"Yr adeg hynny nid oedd y Gwasanaeth Iechyd wedi ei sefydlu ac nid oedd pobl yn gallu fforddio mynd at y doctor.
"Pan oeddynt yn s芒l mi fydda' pobl yn dod i'r siop ac roedd gan fy mam silffoedd lle'r oedd hi'n cadw'r hyn y galwai'n gyffuriau, er nad oeddynt yn gryf iawn. Roedd y rhain yn cynnwys pethau megis Indian Brandy, Liquid Paraffin a Burgundy Pitch - rhywbeth y bydda' chi'n ei roi ar eich cefn. Bydda fy mam yn cynghori pobl yngl欧n 芒'r peth cywir i gymryd.
"Cyn y rhyfel, bod dydd Mercher, byddwn yn mynd i Groesoswallt i'r farchnad.
"Byddwn yn mynd 芒 bocs wyau mawr gyda ni, oedd yn rhyw dwy droedfedd o hyd ac yn droedfedd o led, ac yn ei gludo ar y bws.
"Yn Neuadd y Farchnad byddwn yn hurio bwrdd ac mi fydda fy mam neu fy modryb yn mynd o gwmpas y stondinau eraill yn blasu menyn ffres cyn penderfynu pa un i brynu.
"Byddai ffermwyr yn dod i'r Farchnad o bob man ac fe ddaethom i wybod ble oedd y llefydd gorau i brynu ein hwyau.
"Roedd 'na fechgyn fyddai'n edrych ar 么l eich byrddau tra roeddech yn cael eich cinio a byddai'r un rhai gyda thryc yn cludo'r bocs wyau yn 么l i'r bws.
"Doedd pethau ddim yr un fath wedi'r rhyfel pan sefydlwyd y Bwrdd Marchnata Llaeth a sefydlu gorsafoedd pecynnu wyau."