Orielau lluniau 2006 Yn un o wyliau cerdd a dawns mwyaf y byd, cynhaliwyd yr Eisteddfod am y tro cyntaf ym 1947.
Y flwyddyn honno bu 40 gr诺p o 14 gwlad yn cystadlu ond erbyn hyn mae cystadleuwyr o 50 o wahanol wledydd yn cymryd rhan dros bum diwrnod.
Amcangyfrif bod 500,000 o bobl wedi cystadlu yn Llangollen yn ystod y 60 mlynedd ddiwethaf, gan gynnwys y tenor byd-enwog Pavarotti, gyda thair miliwn o bobl wedi dod i wylio'r cystadlu a'r cyngherddau.
Dychwelodd Bryn Terfel i'r Eisteddfod am y tro cyntaf ers 10 mlynedd mewn cyngerdd mawreddog ar nos Fawrth, Gorffennaf 5, 2006 tra daeth y mezzo-soprano o Gastell-nedd, Katherine Jenkins, i berfformio ar lwyfan Llangollen am y tro cyntaf mewn Cyngerdd Gala i gloi'r Eisteddfod ar y nos Sul.
Hefyd yn rhan o'r dathliadau 60 mlynedd roedd Cyngerdd Ffenestr y Byd - un o ddigwyddiadau mawr yr wythnos lle mae perfformwyr o bedwar ban i'w gweld ar y llwyfan a chyngerdd i ddathlu traddodiad cerddorol Cymru gyda phedwar o gorau meibion amlycaf Cymru: Froncysyllte, Godre'r Aran, Pontarddulais a Ch么r Meibion y Rhos.
Tlws Pavarotti oedd y wobr nos Sadwrn, gydag enillwyr y cystadlaethau i gorau yn cystadlu am anrhydedd C么r y Byd. Darllenwch sgwrs gyda phrif weithredwr yr Eisteddfod Gwyn L Williams ar drothwy'r 诺yl yn 2006
|