大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwyliau

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Telynores yng ng诺yl 2006 G诺yl Gerdd Dant 2008
Y gogledd ddwyrain sy'n croesawu yr 糯yl Gerdd Dant unwaith eto yn 2008.
Wedi trip lawr i'r de i Bontrhydfendigaid yn 2007, Theatr y Pafiliwn yn y Rhyl fydd yn ei chroesawu yn 2008 gydag ardal Dyffryn Clwyd gyfan, o gefn gwlad Bryneglwys a Derwen, i lawr trwy'r Dyffryn hyd lannau m么r Prestatyn a'r Rhyl, yn cael ei chynnwys yn yr ardal wahodd - ardal 芒 thraddodiad gref o gerdd dantio.

"Bydd hi'n braf iawn dod n么l i Ddyffryn Clwyd, ac i'r Rhyl, 14 mlynedd ers iddi ymweld 芒'r dref glan m么r ddiwethaf," meddai Dewi Jones, trefnydd yr 诺yl.

"Gyda threfi marchnad Dinbych a Rhuthun hefyd yn rhan o'r ardal wahodd, bydd cymysgedd o hufen i芒 a hwyl i'w flasu yng Ng诺yl Gerdd Dant Dyffryn Clwyd ar yr 8 o Dachwedd 2008!"

Yn arwain y criw yn Nyffryn Clwyd bydd wyneb a llais cyfarwydd, Leah Owen. Yn wreiddiol o Rosmeirch, Sir F么n, mae Leah ac Eifion, ei g诺r, wedi ymgartrefu yn Nyffryn Clwyd ers dros 25 mlynedd bellach.

Yn enwog am ei llais godidog a'i pherfformiadau ar deledu ac mewn cyngherddau, mae Leah bellach yn canolbwyntio ar hyfforddi a beirniadu mewn eisteddfodau bach a mawr.

"Ers cychwyn y 60au, dwi wedi mynychu pob G诺yl Gerdd Dant heblaw un, ac roedd honno'n digwydd bod yn Ninbych ym 1980 - roeddwn newydd eni ein hail ferch, Elysteg ar y pryd!" eglura Leah.

A hithau'n fam i bedwar o blant, Angharad, Elysteg, Ynyr a Rhys, mae Leah'n gadael ei swydd fel athrawes yn Ysgol Twm o'r Nant, Dinbych, ar 么l 14 mlynedd yr haf yma. Bydd yn cychwyn ar swydd newydd fel Athrawes Fro yn Sir Ddinbych ym mis Medi.

"Mae hi'n fraint ac yn anrhydedd i mi fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith ar gyfer G诺yl Gerdd Dant Dyffryn Clwyd 2008. Wedi bod yn cystadlu fy hun yn yr eisteddfodau cenedlaethol a'r 糯yl sawl tro, bydd hi'n braf iawn annog a chroesawu pobl o bob cwr o Gymru i ddod draw i gystadlu yn y Rhyl," meddai Leah.

Ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid, Ceredigion y cynhaliwyd yr 诺yl yn 2007 tra'i chynhaliwyd yn Rhosllannerchrugog yn 2006 - a chafwyd lluniau a chanlyniadau ar wefan Lleol i'r Rhos, yma.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy