|
|
|
Cyngerdd cyhoeddi G诺yl Gerdd Dant 2008 Cafwyd noson werth chweil yng Nghlwb Golff Dinbych nos Fercher, 24 o Hydref wrth i lu o artistiaid ddod ynghyd i ddathlu Cyhoeddi G诺yl Cerdd Dant Dyffryn Clwyd 2008. |
|
|
|
Roedd dros gant o bobl yn bresennol ar gyfer y cyngerdd, gyda'r 糯yl yn cael ei chynnal yn Nyffryn Clwyd ar y 15 o Dachwedd 2008 yn Theatr Pafiliwn y Rhyl.
Croeso G诺yl Cerdd Dant Dyffryn Clwyd 2008 gan Leah Owen, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.
"Roedd hi'n braf croesawu artistiaid lleol sy'n arddangos talent arbennig yn Nyffryn Clwyd; Triawd Caeran gydag Ieuan ap Si么n, Meinir Llwyd ar y delyn, Ynyr Llwyd yn canu i gyfeiliant piano trydan ac Eryl Davies yn arwain y noson," meddai Leah Owen, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.
Estynwyd croeso arbennig i Gadeirydd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, Nia Rowlands i'r Clwb Golff.
Edrych ymlaen i'r 糯yl yn 2008
Dywedodd ei bod hi'n hynod o falch o dderbyn y copi cyntaf o Restr Testunau G诺yl Cerdd Dant Dyffryn Clwyd 2008, ac roedd hi'n edrych ymlaen yn eiddgar i fynychu'r 糯yl yn 2008, a chlywed rhai o'r darnau gosod sydd yn y testunau yn cael eu perfformio ar lwyfan.
A hithau'n byw yn Llanelltyd, Dolgellau, braf iawn oedd ei gweld yn y noson, yn cynnig cefnogaeth frwd i'r t卯m diwyd yn Nyffryn Clwyd.
G诺r arall dderbyniodd groeso twymgalon i'r noson oedd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych, Ian Miller.
Ac yntau'n byw dafliad carreg o'r Clwb Golff, croesawodd Leah Owen ef i'r Noson Gyhoeddi.
"Rydyn ni'n hynod o falch bod Prif Weithredwr y sir, Ian Miller, wedi derbyn y gwahoddiad i fod yn Llywydd Anrhydeddus yr 糯yl yn y Dyffryn y flwyddyn nesaf.
"Mae'n braf cydweithio 芒'r Cyngor Sir i ddod 芒 g诺yl genedlaethol ddiwylliannol yma i Sir Ddinbych."
Bydd criw o Ddyffryn Clwyd yn cynrychioli'r fro yn yr 糯yl Gerdd Dant yn Ystrad Fflur a'r Fro eleni yn croesawu'r 糯yl yma i'r dyffryn y flwyddyn nesaf, ac yn mwynhau'r cystadlu brwd.
|
|
|
|
|
|
|
|
听
|
|
|
|
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
|
|
|
|