Pam creu Estynedig?
Asa: Nath o ddechrau fel jest jam, gan ein bod ni i gyd yn ffrindiau ac wedi tyfu i fyny efo'n gilydd yn Blaenau. Doeddan ni ddim i fod i wneud gig efo'n gilydd!
Phil: Ddaru ni wneud y gig gyntaf yn Eisteddfod Rhuthun flynyddoedd yn 么l, er ein bod wedi gwneud stwff efo'n gilydd fel ffrindiau cyn hynna, ond ddim wedi chwarae'n fyw. 'Da ni wedi gwneud ryw ddau neu dri gig ers hynny. Y flwyddyn yma, mi ddaru ni wneud un yn Llandudno at y Ap锚l y Tsunami, ac o hynny ddaeth y syniad i wneud y gig yma yn y Sesiwn Fawr.
Anweledig gafodd y cynnig i wneud y gig, ond doedd ganddyn nhw ddim stwff newydd yn barod ac maen nhw am chwarae yn yr Eisteddfod beth bynnag, felly ddaru nhw awgrymu bod Estynedig yn chwarae.
Eglurwch yr enw Estynedig i ni.
Phil: Wel, cyfuniad o Estella ag Anweledig ydy o - ond efo Vates hefyd. Felly Estynedig VAT ydy'r enw - V.A.T included!
Fydd pawb o bob band yn chwarae?
Phil: Byddan. Dyma'r tro cyntaf i ni gael Estynedig efo pawb o bob un band yn chwarae.
Y rheswm tu 么l i Estynedig oedd bod pawb o'r gwahanol fandiau methu dod i bob gig, felly ddaru ni benderfynu ein bod ni'n dod at ein gilydd. Ond tro yma, 'da ni wedi cael pawb, o bob band at ei gilydd. Mi fydd yna 18 ar y llwyfan heno! Dau ddryms, tri b芒s, git芒r, adran bres.
Asa: Mi fydd yna wyth meic ar y llwyfan felly mi fyddan ni i gyd yn cael 'go' ar ganu!
Oedd hi'n anodd cael pawb at ei gilydd i ymarfer?
Phil: 'Da ni wedi creu set ac ymarfer ers ryw fis r诺an. Mae 'na rai wedi methu ei gwneud hi oherwydd eu bod yn byw ymhell i ffwrdd, ond 'da ni wedi cael y rhan fwyaf o bawb at ei gilydd.
Aeth yr ymarfer yn dda?
Asa: Do, o'r dechrau. Roeddan ni'n gallu gweld bod pawb r卯li i mewn i beth oeddan nhw'n ei wneud.
Phil: Mae'n blesar gwneud rhywbeth fel hyn efo ffrindiau am ein bod ni i gyd yn dod o'r un lle - Blaenau a Tanygrisiau. Mae dod a fo i gyd at ei gilydd ar 么l y blynyddoedd 'da ni wedi bod efo'n gilydd a rhannu efo pawb arall yn wych.
Robbie: Does ganddon ni ddim egos yn y band am ein bod yn adnabod ein gilydd mor dda.
Phil: Er mae gan Ceri andros o ego! Roedd 'na handbags rhwng Gai a Ceri yn Anweledig fel arfer, felly efallai bod hynny wedi dod drosodd i Estynedig!
Mae nos Sadwrn yn cael ei alw'n barti reggae ...
Phil: Yndi, reggae based-ish!
Robbie: Dwi ddim yn si诺r os fyswn i isio ei alw o'n reggae, 'does na'm rhaid rhoi steil ar y miwsig ac mae o'n newid gan fod 'na gymaint o bobl yn chwarae. Er, reggae oedd y peth ddaru ni weithio tuag ato, felly mi fyddwn ni'n ceisio cadw at y m诺d reggae.
Beth fyddwch chi'n ei chwarae?
Asa: Cymysgedd o ganeuon gan y tri band ac un neu ddau cover bach hefyd.
Ydych chi wedi mwynhau'r Sesiwn Fawr?
Asa: Gwych, hyd at r诺an, o be dwi'n ei gofio! Roedd neithiwr yn noson wych - dyna pam dwi'n aros yn sobor heno - cadw fy mhen at heno 'ma.
(Yn y dafarn ar 么l gorffen) Sut aeth y gig?.
Asa: Mi aeth yn wych! Doedden ni ddim yn disgwyl gymaint o bobl yna - roedd yn ffantastig!