Oes gennych chi gyngor i'r rhai sydd am fynd i'r Sesiwn?
Sue:
Os ydych am gampio, dewch a darn o tarp, p芒r sb芒r o drowsus a het - roedd yn rhaid i ni brynu'r rhain o'r siop heddiw!
Lee o'r t卯m diogelwch:
Bihafiwch eich hunain, galluogi i ni wneud cyn lleied o waith a phosib a bydd popeth yn gr锚t! Os ddim, byddwch yn gorfod ein hwynebu ni.
Stonie o'r band The Loaded Dice band:
Gwnewch i fusnes lleol sgwennu hysbys ar eich cefn a chewch ddiod am ddim!
Gethin:
Fel unrhyw 诺yl arall, dewch a chot law, wellies a het - dwi'n un practical!
Dilwyn:
A chaniau o lager! Hefyd, gweithiwch allan pwy 'da chi am fynd i weld gan fod yna gymaint o lwyfannau ar y maes ac yn y dref.
Elin:
Dewch a'ch wellingtons ac eli haul, os ydych yn lwcus! A digon o arian i fwynhau hefyd.
Dylan:
Dewch yn llu! Yn enwedig ar bnawn dydd Sadwrn i gael gwerth eich pres. Teulu yn y pnawn, oedolion gyda'r nos. 'Da ni'n aros efo'r plant tan ryw wyth o'r gloch cyn cychwyn adra.
Ym mhle ydych yn cysgu yn ystod yr 诺yl?
Sally:
Dwi wedi bod yma o'r blaen heb babell ond da ni pob tro yn cael amser gwych! Ddaru rywun, rhywle wastad adael i ni gysgu yn eu car!
Ted:
Rydym ym maes pebyll Cefn Maelan, sy'n cael ei redeg gan Archie. Mae o'n foi hynod o gl锚n, yn rhoi croeso mawr i bawb sy'n dod draw.
Gethin:
Roedden ni am gampio, ond 'da ni ddim yn si诺r eto. Da ni reit roc a r么l - mi wnawn ni ffeindio rhywle i gysgu!
Elin:
Dewch a bag cysgu cynnes! Mae'r maes pabell swyddogol rhyw hanner milltir o'r maes, felly ddim yn ddrwg - wel, bach o waith cerdded ar 么l noson fawr!
Beth ydych yn ei wneud os yw'n glawio?
Sally:
Gwenwch a byddwch yn wlyb! Rydym yn Gymraeg - dim problem - rydym wedi hen arfer efo'r glaw. Ond gwnewch yn si诺r eich bod yn dod a phabell fawr efo chi i bawb allu eistedd ynddo os yw'n glawio.
Rich o'r band The Loaded Dice:
Mwynhewch eich hunain! Jest d诺r ydy o. Does gennych chi nunlle arall i fynd!
Dilwyn:
Chwerthin! Mae glaw yn neis, jest d诺r ydy o - dydy o ddim yn ddrwg i chi.
Dylan:
Anelwch am babell neu'r bar, neu dewch ag ymbar茅l efo chi. Dydy o ddim yn sbwylio dim ar yr 诺yl.
Y pethau gorau am y Sesiwn...